Pwy fydd y Cyntaf i fynd?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Darth Sgonsan » Mer 10 Mai 2006 4:24 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Fe wrthododd ymateb i gwestiwn ddoe ar Radio 5 sef "ydi bod yn hoyw yn bechod?". Da iawn hi am wrthod ateb.


ond drwy wrthod ateb, mae'n twyllo'r etholwyr. all gwleidydd ddim cael barn gyhoeddus ar rai pethau, gan osgoi rhai pynciau.
Mae ganddom ni'r trethdalwyr hawl i ddisgwyl gonestrwydd. Gyno ni hawl i wybod ei barn, er mwyn gallu ateb y cwestiwn 'Yda ni'n hapus fod ein haelod ethgoledig, sydd yn cael ei chyflogi ganddom, yn medru sicrhau cydraddoldeb i bawb?'

Drwy beidio ateb y cwestiwn, mae ruth Kelly yn rhoi'r argraff ei bod yn meddwl fod bod yn hoyw yn bechod.
Os ydi hyn yn wir, mae o fyny i ni'r etholwyr benderfynu wedyn os yda ni'n hapus i weld Ruth Kelly fel Gweinidog Cydraddoldeb.

alla Kelly ddeud 'dwi yn bersonol ddim yn meddwl fod bod yn hoyw yn naturiol. Ond dwi'n gaddo peidio gadael i fy naliadau personol effeithio ar fy ngwaith fel Aelod Seneddol'

ac eto, os ydi hi'n gwrthod fotio ar faterion yn ymwneud efo hoywon yn Nhy'r Cyffredin, mae ei chrefydd yn amlwg yn dylanwadu arni.

ond ddyla hi fod yn onasd. mae osgoi ateb cwestiwn mor syml yn gwneud iddi hi a gwleidyddiaeth edrych yn shabi
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Postiogan Cath Ddu » Mer 10 Mai 2006 4:38 pm

Darth Sgonsan a ddywedodd:ond drwy wrthod ateb, mae'n twyllo'r etholwyr. all gwleidydd ddim cael barn gyhoeddus ar rai pethau, gan osgoi rhai pynciau.


Pam?

Darth a ddywedodd:Mae ganddom ni'r trethdalwyr hawl i ddisgwyl gonestrwydd. Gyno ni hawl i wybod ei barn, er mwyn gallu ateb y cwestiwn 'Yda ni'n hapus fod ein haelod ethgoledig, sydd yn cael ei chyflogi ganddom, yn medru sicrhau cydraddoldeb i bawb?'


Mae dy ddadl fan hyn am fod yn drethdalwr yn wan iawn. Pam fod bod yn drethdalwr yn berthnasol - onid bod yn etholwr ti'n feddwl?

Darth a ddywedodd:Drwy beidio ateb y cwestiwn, mae ruth Kelly yn rhoi'r argraff ei bod yn meddwl fod bod yn hoyw yn bechod.


Dy ddewis di ydi meddwl hynny.

Darth a ddywedodd:Os ydi hyn yn wir, mae o fyny i ni'r etholwyr benderfynu wedyn os yda ni'n hapus i weld Ruth Kelly fel Gweinidog Cydraddoldeb.

alla Kelly ddeud 'dwi yn bersonol ddim yn meddwl fod bod yn hoyw yn naturiol. Ond dwi'n gaddo peidio gadael i fy naliadau personol effeithio ar fy ngwaith fel Aelod Seneddol'

ac eto, os ydi hi'n gwrthod fotio ar faterion yn ymwneud efo hoywon yn Nhy'r Cyffredin, mae ei chrefydd yn amlwg yn dylanwadu arni.


Onid datgan dim barn ydi gwrthod bwrw pleidlais. Felly mae hi'n dewis peidio mynd yn erbyn ei hegwyddorion ond hefyd yn derbyn na ddylai ddylanwadu ar y ddeddf?

Darth a ddywedodd:ond ddyla hi fod yn onasd. mae osgoi ateb cwestiwn mor syml yn gwneud iddi hi a gwleidyddiaeth edrych yn shabi


Be fwy shabi na mae nhw'n barod :lol:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan GT » Mer 10 Mai 2006 4:58 pm

Dduw mawr, mae'r ddynas yn perthyn i Opus Dei.

Mae'n 100% sicr ei bod yn ystyried gwrwgydiaeth gweithredol (os dyna'r gair am active) yn bechod. Mae hefyd yn credu bod llawer o bethau eraill (defnyddio dulliau atal cenhedlu, er enghraifft) yn bechodau.

'Dydi'r cwestiwn ddim yn cael ei ofyn iddi er mwyn ennyn gwybodaeth - mae'r wybodaeth yna eisoes yn hysbys. Mae'n cael ei ofyn er mwyn ei rhoi benben a'r consensws rhyddfrydig ynglyn a moesoldeb.

Dydi'r ddynas ddim yn wirion. Pam y dylai syrthio i mewn i'r trap?
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Mer 10 Mai 2006 8:54 pm

GT a ddywedodd:Dduw mawr, mae'r ddynas yn perthyn i Opus Dei.

Mae'n 100% sicr ei bod yn ystyried gwrwgydiaeth gweithredol (os dyna'r gair am active) yn bechod. Mae hefyd yn credu bod llawer o bethau eraill (defnyddio dulliau atal cenhedlu, er enghraifft) yn bechodau.

'Dydi'r cwestiwn ddim yn cael ei ofyn iddi er mwyn ennyn gwybodaeth - mae'r wybodaeth yna eisoes yn hysbys. Mae'n cael ei ofyn er mwyn ei rhoi benben a'r consensws rhyddfrydig ynglyn a moesoldeb.

Dydi'r ddynas ddim yn wirion. Pam y dylai syrthio i mewn i'r trap?


Clywch, clywch.

(shit, dwi di cytuno efo GT eto :ofn: )
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Chwadan » Mer 10 Mai 2006 10:06 pm

Iawn os nad ydi hi'n cytuno efo'r consensus rhyddfrydol, ond pa mor gall ydi rhoi cyfrifoldeb dros gydraddoldeb iddi? Os na all hi fod yn Weinidog Iechyd oherwydd ei barn ar erthyliad a gwrth-genhedlu, pam disgwyl iddi fod isio sicrhau cydraddoldeb i hoywon?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan GT » Mer 10 Mai 2006 10:43 pm

Chwadan a ddywedodd:Iawn os nad ydi hi'n cytuno efo'r consensus rhyddfrydol, ond pa mor gall ydi rhoi cyfrifoldeb dros gydraddoldeb iddi? Os na all hi fod yn Weinidog Iechyd oherwydd ei barn ar erthyliad a gwrth-genhedlu, pam disgwyl iddi fod isio sicrhau cydraddoldeb i hoywon?


Mae gan hoywon gydraddoldeb i bob pwrpas ymarferol.

Dydi'r ffaith bod RK yn ystyried gwrwgydiaeth yn bechadurus ddim yn golygu ei bod yn mynd i weithredu mewn ffordd sy'n anheg i wrwgydwyr. Mae hi hefyd yn ystyried ei hun yn bechadurus, ac yn mynd i'r gyffesgell yn ol yr angen i ddiddymu'r pechod hwnnw.

Ni fyddai'n ddiwynyddol bosibl iddi fod yn gyfrifol am wasanaeth iechyd sy'n darparu erthyliad yn ol y gofyn. O'i safbwynt hi nid oes gwahaniaeth rhwng erthyliad a llofruddiaeth. Byddai ganddi hi gyfrifoldeb personol tros erthyliad yn y DU. Fedri di ddim cyffesu i dy bechodau ac yna mynd ati i wneud yr un peth yn syth bin. Ni fyddai yna unrhyw hygrededd i'r gyffes wedyn. Os wyt ti eisiau achubiaeth, mae'n rhaid i ti gyffesu i dy bechodau - ac edifarhau.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Mer 10 Mai 2006 11:09 pm

GT - dwi ddim yn gallu cysoni dy ddadl ym mharagraff 1 a paragraff 2.

Unrhyw obaith am eglurhad?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan GT » Mer 10 Mai 2006 11:24 pm

Cath Ddu a ddywedodd:GT - dwi ddim yn gallu cysoni dy ddadl ym mharagraff 1 a paragraff 2.

Unrhyw obaith am eglurhad?


Oes, dwi'n meddwl (dwi'n cymryd mai rhwng paragraff 2 a 3 ti'n gweld anghysondeb, nid 1 a 2).

Os ydi hi'n gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd, mae hi wedyn yn gyfrifol am erthyliad, sydd iddi hi, yn weithred bechadurus. Hi sy'n cyflogi'r sawl sy'n cyflawni'r llawdriniaeth.

Trwy fod yn gyfrifol am gydraddoldeb (beth bynnag ydi hynny) dydi hi ddim yn gyfrifol am weithredoedd gwrwgydiol fel y cyfryw. Mae pawb yn gyfrifol am ei enaid ei hun. Nid cyfrifoldeb RK ydi o.

Mae'r doctor mewn clinig erthylu yn gyfrifol am ei enaid ei hun. Ond, os wyt ti'n fabi heb ei eni mae'r fam am ei erthylu, does yna neb i edrych ar dy ol di - ag eithrio'r Gwasanaeth Iechyd. Os nad wyt ti'n gallu amddiffyn y babis sydd yn y sefyllfa yma, fedri di ddim arwain y Gwasanaeth Iechyd a bod yn aelod o Opus Dei. Dydi o ddim yn bosibl.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Darth Sgonsan » Iau 11 Mai 2006 10:14 am

GT a ddywedodd:Dydi'r ffaith bod RK yn ystyried gwrwgydiaeth yn bechadurus ddim yn golygu ei bod yn mynd i weithredu mewn ffordd sy'n anheg i wrwgydwyr.


ond dydi hi heb fod yn troi fyny i fotio ar faterion sy'n ymwneud efo hawliau hoywon.
Dwi ddim isho fotio dros lwfrgi fel Aelod Seneddol - dwisho un sy'n datgan barn yn onest a chroyw, nid yn cuddio pan mae angen fotio ar ddeddfwriaeth.
Ddyla Ruth Kelly o bawb fel Gweinidog Cydraddoldeb, wrthod datgan barn ar hoywon.
Os mai ei barn ydi 'mae hoywon yn pechu Duw' ddyla hi ddeud hynny, a gadael i'w hetholwyr benderfynu os yw'r safbwynt hyn yn dderbyniol.

drwy beidio fotio ar faterion hoywon, mae Ruth Kelly ar y gorau yn cuddio ei hegwyddorion, ond i fi dydi hi ddim yn bod yn onesd
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Postiogan GT » Iau 11 Mai 2006 3:06 pm

Darth Sgonsan a ddywedodd:drwy beidio fotio ar faterion hoywon, mae Ruth Kelly ar y gorau yn cuddio ei hegwyddorion, ond i fi dydi hi ddim yn bod yn onesd


Mae ei hagwedd yn amlwg, ac mae'r ffaith ei bod yn gwrthod pleidleisio gyda'r lli yn amlygu hynny. Mae hefyd yn amlygu dewrder yn wyneb agweddau'r consensws.

Mae edefyn yma'n ddihareb o'r oes sydd ohoni.

I'r rhan helyw o bobl yng Nghymru ac ym Mhrydain heddiw yr unig gwmpawd moesol ydi goddefgarwch. Mae goddefgarwch yn dda, ac mae diffyg goddefgarwch yn ddrwg.

Fwy neu lai yr unig grwpiau y gellir ymosod arnynt ydi rhai sy'n ymddangos i arddangos diffyg goddefgarwch. Felly mae RK yn cael ei phortreadu fel 'eithafwr' crefyddol. Diffyg goddefgarwch y mwyafrif 'goddefgar' tuag at bobl sy'n syrthio y tu allan i'w his strwythur moesol sydd tu cefn i'r agwedd yma.

Dydi RK ddim yn eithafwr crefyddol. Mae ei ffordd hi o resymu'n foesol yn nodweddu sut mae pobl Ewrop wedi rhesymu'n foesol am y rhan fwyaf o'r milawd diwethaf. Mae hefyd yn nodweddu'r ffordd mae canoedd o filiynau o bobl mewn rhannau eraill o'r byd yn rhesymu heddiw. Mae'n cymryd cryn bowldrwydd i bobl sydd a'u cefndir yn y traddodiad anghydffurfiol Cymreig alw eraill yn eithafwyr.

'Rwan, dydw i ddim yn dadlau bod is strwythur moesol RK o anghenrhaid yn fwy cywir nag ydi un Darth Sgonsan et al, ond mae'n sicr yn mynnu mwy o ymroddiad, mwy o onestrwydd, mwy o hunan aberth, a mwy o gariad at gyd ddyn. Ac ar ben hynny mae iddi fwy o ddyfnder a hygrededd deallusol.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 36 gwestai

cron