GT a ddywedodd:Mae ei hagwedd yn amlwg, ac mae'r ffaith ei bod yn gwrthod pleidleisio gyda'r lli yn amlygu hynny. Mae hefyd yn amlygu dewrder yn wyneb agweddau'r consensws.
Mae edefyn yma'n ddihareb o'r oes sydd ohoni.
I'r rhan helyw o bobl yng Nghymru ac ym Mhrydain heddiw yr unig gwmpawd moesol ydi goddefgarwch. Mae goddefgarwch yn dda, ac mae diffyg goddefgarwch yn ddrwg.
Rhag pechu Nic dyma ddyfynu dim ond rhan o gyfraniad GT. Dwi'n prysuro i ddatgan fy mod yn cytuno efo fo 100%.
Mae cyhuddo Ruth Kelly o fod yn llwfr yn bur anodd o ystyried ei bodlonrwydd i fod yn gyff gwawd y Guardian tra hefyd yn gyfrifol am bolisi addysg Llafur (wel tan wythnos diwethaf).