Pwy fydd y Cyntaf i fynd?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cymro13 » Gwe 05 Mai 2006 11:44 am

huwwaters a ddywedodd:10 pwynt i'r rhai a roddodd Charles Clarke yn gyntaf!

Ma braidd yn ddryslyd. Rhai ffynonellau yn deud ei fod wedi ymddeol on eraill fel y BBC yn deud ei fod wedi ei sacio.


Jyst Sbin Llafur sy'n awgrymu ei fod yn ymddeol
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 05 Mai 2006 11:54 am

huwwaters a ddywedodd:10 pwynt i'r rhai a roddodd Charles Clarke yn gyntaf!

Ma braidd yn ddryslyd. Rhai ffynonellau yn deud ei fod wedi ymddeol on eraill fel y BBC yn deud ei fod wedi ei sacio.


Dwi'n meddwl mai Prescott oedd y cyntaf i mewn ac allan o Rif 10 bore 'ma.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Cath Ddu » Gwe 05 Mai 2006 12:09 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Dwi'n meddwl mai Prescott oedd y cyntaf i mewn ac allan o Rif 10 bore 'ma.


Ond gafodd o'r sac? :?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Mici » Gwe 05 Mai 2006 12:36 pm

Ymateb cyn aelod o'r cabinet Frank Dobson i 're-shuffle' Llafur

would be like rearranging the deckchairs on the Titanic


:lol: :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 05 Mai 2006 12:43 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Dwi'n meddwl mai Prescott oedd y cyntaf i mewn ac allan o Rif 10 bore 'ma.


Ond gafodd o'r sac? :?


pa wahaniaeth?

Cath Ddu a ddywedodd:dwi'n gofyn cwestiwn syml - pwy fydd y cyntaf i fynd?


doedd dim awgrym fod rhaid iddyn nhw gael eu gwthio....
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Cath Ddu » Gwe 05 Mai 2006 2:15 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Dwi'n meddwl mai Prescott oedd y cyntaf i mewn ac allan o Rif 10 bore 'ma.


Ond gafodd o'r sac? :?


pa wahaniaeth?

Cath Ddu a ddywedodd:dwi'n gofyn cwestiwn syml - pwy fydd y cyntaf i fynd?


doedd dim awgrym fod rhaid iddyn nhw gael eu gwthio....


Ti'n camddeall Mr Gasyth. Dwi dan yr argraff fod John Prescott yn parhau yn y Cabinet. Dwi di colli rhywbeth? Os dio dal yn y Cabinet yna dio heb fynd nac ydi - dyna fy mhwynt. Ar hyn o bryd JP = 0 pwynt oni bai fy mod wedi colli newyddion diweddaraf y byd gwleidyddol.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Tegwared ap Seion » Gwe 05 Mai 2006 4:34 pm

krustysnaks a ddywedodd:...a Beckett fel ysgrifenydd tramor - sawl merch sydd wedi gwneud y gwaith yna o'r blaen?


Dim un a ddywedodd:Margaret Beckett leaves her job as secretary of state for environment, food and rural affairs to get one of the top jobs in government, becoming Britain's first ever woman foreign secretary.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Ffinc Ffloyd » Maw 09 Mai 2006 10:44 pm

Dwi wedi bod yn rhwbio 'nwylo efo cryn bleser wrth wylio cabinet Blair yn hunan-ddinistrio dros yr wythnosa diwetha.

Dwi'n flin bod Jack Straw wedi mynd, er nad ydw i'n ffan ohono fo'n bersonol, oherwydd 'mod i'n amau mae'r rheswm ydi ei fod o wedi deud 'no way' i ymgyrch filwrol yn Iran. Dwi'n ofni bod Tony yn bwriadu dilyn Bush yn ddall dros y dibyn yma hefyd, a mai'r cam cyntaf i sicrhau bod hynny'n bosib ydi cael gwared o Jack.

Un cwestiwn - pam bod Ruth Kelly yn y cabinet? Faswn i'm yn gadael i Gristion eithafol ac aelod o Opus Dei gyffwrdd pen 'i bys yn Addysg, na Chydraddoldeb, (lle mae hi rwan - ac mae'n ymddangos mae ei cham cyntaf hi ydi i gyhoeddi bod gwrywgydiaeth yn 'anghywir'. Jiniys) na unrhyw swydd arall yn y Cabinet i ddeud y gwir. Ma Prescott ar rew tenau fel ma hi a dwi'n mawr obeithio y ceiff Hewitt cic-owt yn y pen draw.

Ma'r reshuffle yma'n drewi o Blair yn cadw ei gronis yn agos a sbeicio gynnau Gordon Brown. Infighting - don't you just love it? Ydach, pan ma'r Blaid Lafur sy'n 'i neud o.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan Chwadan » Mer 10 Mai 2006 7:08 am

Ffinc Ffloyd a ddywedodd:Un cwestiwn - pam bod Ruth Kelly yn y cabinet? Faswn i'm yn gadael i Gristion eithafol ac aelod o Opus Dei gyffwrdd pen 'i bys yn Addysg, na Chydraddoldeb, (lle mae hi rwan - ac mae'n ymddangos mae ei cham cyntaf hi ydi i gyhoeddi bod gwrywgydiaeth yn 'anghywir'. Jiniys) na unrhyw swydd arall yn y Cabinet i ddeud y gwir.

Di hi di deud hynna? Nes i ddarllen yn rwla ddoe nad ydi hi di bod mewn unrhyw bleidlais seneddol ar hawliau hoywon ers iddi ddod yn AS. A hi di'r gweinidog dros gydraddoldeb...?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Cath Ddu » Mer 10 Mai 2006 10:22 am

Dwi'n amheus os 'di disgrifio Ruth Kelly fel Cristion eithafol yn deg. Be yn union mae hyn yn olygu? Eithafol i mi fyddai rhywun sy'n gwthio ei syniadaeth ar eraill a hynny trwy rym (boed yn rym democrataidd neu ddefnydd o drais). Ni chredaf fod Ruth Kelly yn syrthio i'r disgrifiad hwn.

Fe wrthododd ymateb i gwestiwn ddoe ar Radio 5 sef "ydi bod yn hoyw yn bechod?". Da iawn hi am wrthod ateb. Os ydi daliadau personnol yn golygu fod rhywun DDIM yn cael bod yn rhan o lywodraeth yna byddai Prydain a Chymru yn lle llawer tlotach. O ddifrif, mae glwad sy'n gallu cael cyn derfysgwr a llofrudd yn gyfrifol am addysg yng Ngogledd Iwerddon yn ddigon aeddfed, fe fyddwn yn gobeithio, i dderbyn pabydd didwyll fel aelod o'r cabinet.

Yn yr un modd, mae gan Hedd Gwynfor, Rhys Llwyd a Chardi Bach hawl i ymhyfrydu yng nghyfraniad cyn lywydd Plaid Cymru, Gwynfor Evans, i wleidyddiaeth Cymru. Cytuno neu anghytuon efo'r hyn wnaeth Gwynfor Evans anodd iawn fyddai dadlau y byddai ei gyfraniad wedi bod yr un fath oni bai am ei ffydd gristnogol gadarn.

Mae angen mwy o unigolion megis Ruth Kelly a Gwynfor Evans o fewn ein gwleidyddiaeth - nid llai.

Pwynt olaf - beth fyddai ymateb aelodau Maes e pe byddwn yn datgan nad oes llai i Fwslemiaid 'eithafol' yn y broses wleidyddol a bod angen gwahardd Respect oherwydd agweddau rhai aelodau tuag at fobl hoyw / hawliau merched? :rolio: Dwi'n credu fy mod yn gwybod beth fyddai'r ymateb. Cysondeb hogia, cysondeb.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai