Cath Ddu a ddywedodd:Fe wrthododd ymateb i gwestiwn ddoe ar Radio 5 sef "ydi bod yn hoyw yn bechod?". Da iawn hi am wrthod ateb.
ond drwy wrthod ateb, mae'n twyllo'r etholwyr. all gwleidydd ddim cael barn gyhoeddus ar rai pethau, gan osgoi rhai pynciau.
Mae ganddom ni'r trethdalwyr hawl i ddisgwyl gonestrwydd. Gyno ni hawl i wybod ei barn, er mwyn gallu ateb y cwestiwn 'Yda ni'n hapus fod ein haelod ethgoledig, sydd yn cael ei chyflogi ganddom, yn medru sicrhau cydraddoldeb i bawb?'
Drwy beidio ateb y cwestiwn, mae ruth Kelly yn rhoi'r argraff ei bod yn meddwl fod bod yn hoyw yn bechod.
Os ydi hyn yn wir, mae o fyny i ni'r etholwyr benderfynu wedyn os yda ni'n hapus i weld Ruth Kelly fel Gweinidog Cydraddoldeb.
alla Kelly ddeud 'dwi yn bersonol ddim yn meddwl fod bod yn hoyw yn naturiol. Ond dwi'n gaddo peidio gadael i fy naliadau personol effeithio ar fy ngwaith fel Aelod Seneddol'
ac eto, os ydi hi'n gwrthod fotio ar faterion yn ymwneud efo hoywon yn Nhy'r Cyffredin, mae ei chrefydd yn amlwg yn dylanwadu arni.
ond ddyla hi fod yn onasd. mae osgoi ateb cwestiwn mor syml yn gwneud iddi hi a gwleidyddiaeth edrych yn shabi