Pleidleisio Gorfodol

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Socsan » Maw 02 Mai 2006 10:14 am

Mae
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan ceribethlem » Maw 02 Mai 2006 1:01 pm

Socsan a ddywedodd:Mae
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Selador » Mer 07 Meh 2006 9:47 pm

Pledleisio gorfodol ydy'r syniad gwaethaf ers Democratiaeth.
Ma'n golygu fona ddega o filoedd o bobol sy'n dallt dim ac yn poeni dim am wleidyddiaeth yn mynd i gael effaith ar pa blaid fydd mewn pwer, ei min, mana reswm pam bonhw ddim yn pleidleisio yn toes?
Allai jest dychmygu riw foi o'r enw Jim yn sefyll mewn blwch pleidleisio yn crafu ei ben, ac yn penderfynu pleidlesio i'r BNP am ei fodo'n meddwl fodo'n sefyll am "Free Jam for All."
Yn wir, dwi'n meddwl ella safo'n syniad fod pobol yn medru gallu son am o leiaf dri polsi ma'r blaid manhw'n bleidleisio drosto yn ei hyrwyddo cyn cael dod o fewn canllath at feiro. Ffecin peasants.
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Postiogan Hen Rech Flin » Iau 08 Meh 2006 2:00 am

Selador a ddywedodd:Pledleisio gorfodol ydy'r syniad gwaethaf ers Democratiaeth.

Mae'r ddadl yma yn dwyn atgo’ o'r ddadl yn erbyn pob estyniad o'r hawl i bleidleisio. Dyma oedd y ddadl yn erbyn gadael i'r gweithiwr cyffredin cael pleidlais Bydd dynion cyffredin yn pleidleisio heb ystyriaeth na ddealltwriaeth; yn erbyn rhoi pleidlais i ferched does dim modd i fenywod ddeall pwysigrwydd y pynciau dan sylw ac ati.

Mae 'na wledydd, megis Awstralia, sydd yn gorfodi pleidlais, prin eu bod wedi ethol llywodraethau eithafol dan orfodi pleidlais ar y twpsod yn eu gwlad.

Y perygl mwyaf yw bod cyn lleied o bobl yn pleidleisio fel bod llywodraeth fwyafrifol yn cael ei hethol wrth i garfan fechan iawn o'r etholaeth pleidleisio.

Ers imi ddechrau ymddiddori yn y byd gwleidyddol (adeg etholiad 1970) yr hyn sydd wedi fy nharo yw pa mor bell mae'r pleidiau wedi eu hysgaru oddi wrth y pleidleiswyr.

Roedd adeg pan oedd modd i fi, fel aelod cyffredin o blaid cael syniad a'i gyflwyno i'r gangen leol. Os yn llwyddiannus yn y gangen bydda'r syniad yn cael ei osod gerbron yr adran Sirol, yna i'r rhanbarth ac yn y pendraw cael dadl yn y Gynhadledd Flynyddol Genedlaethol. O lwyddo cael syniad wedi ei dderbyn gan y Gynhadledd roedd yn bolisi maniffesto etholiad. - Dim mwyach! Ffocws grŵp neu gwmni PR sy'n pennu os yw pwnc yn cael ei drafod, nid barn yr aelodau.

Ble mae'r uchel seinyddion, y canfaswyr yn y drws, y posteri mewn ffenest, y sticeri ar labed? Ar ddifancoll lwyr mewn etholiad bellach. Pam? Oherwydd bod angen gweithwyr ar blaid i sicrhau eu bodolaeth, ond heb ddylanwad ar blaid be di'r pwynt gweithio drosti?

Gallasai bleidleisio gorfodol gorfodi pob plaid i ail gysylltu â'r etholwyr, ac, o bosibl eu gorfodi i roi democratiaeth yn ôl i aelodau'r pleidiau a'u rhyddhau o gyfrangau'r cwmnïau PR.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan ceribethlem » Iau 08 Meh 2006 8:52 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:
Selador a ddywedodd:Pledleisio gorfodol ydy'r syniad gwaethaf ers Democratiaeth.
Ma'n golygu fona ddega o filoedd o bobol sy'n dallt dim ac yn poeni dim am wleidyddiaeth yn mynd i gael effaith ar pa blaid fydd mewn pwer, ei min, mana reswm pam bonhw ddim yn pleidleisio yn toes?
Allai jest dychmygu riw foi o'r enw Jim yn sefyll mewn blwch pleidleisio yn crafu ei ben, ac yn penderfynu pleidlesio i'r BNP am ei fodo'n meddwl fodo'n sefyll am "Free Jam for All."
Yn wir, dwi'n meddwl ella safo'n syniad fod pobol yn medru gallu son am o leiaf dri polsi ma'r blaid manhw'n bleidleisio drosto yn ei hyrwyddo cyn cael dod o fewn canllath at feiro. Ffecin peasants.

Mae'r ddadl yma yn dwyn atgo’ o'r ddadl yn erbyn pob estyniad o'r hawl i bleidleisio. Dyma oedd y ddadl yn erbyn gadael i'r gweithiwr cyffredin cael pleidlais Bydd dynion cyffredin yn pleidleisio heb ystyriaeth na ddealltwriaeth; yn erbyn rhoi pleidlais i ferched does dim modd i fenywod ddeall pwysigrwydd y pynciau dan sylw ac ati.

Mae 'na wledydd, megis Awstralia, sydd yn gorfodi pleidlais, prin eu bod wedi ethol llywodraethau eithafol dan orfodi pleidlais ar y twpsod yn eu gwlad.

Y perygl mwyaf yw bod cyn lleied o bobl yn pleidleisio fel bod llywodraeth fwyafrifol yn cael ei hethol wrth i garfan fechan iawn o'r etholaeth pleidleisio.
Cytuno'n ;;wyr a't hyn ddywedaist uchod HRF.

Hen Rech Flin a ddywedodd:Ers imi ddechrau ymddiddori yn y byd gwleidyddol (adeg etholiad 1970) yr hyn sydd wedi fy nharo yw pa mor bell mae'r pleidiau wedi eu hysgaru oddi wrth y pleidleiswyr.
Dyma'r broblem gyda gwleidyddiaeth modern, mae'r gwleidyddion yn malu cachu cymaint, ac yn defnyddio cymaint o sbin, bod y mwyafrif o'r boblogaeth wedi colli diddordeb ynddynt. Os yw'r gwleidyddion am weld mwy o'r boblogaeth yn ymddiddori yn y byd gwleidyddol, mae'n ddyletswydd arnynt i wneud gwleidyddiaeth yn fwy accessible i'r boblogaeth.
Mae gwrthdystiadau megis yr un ytn erbyn rhyfel Irac yn y blynyddoedd diweddar, a'r rhai yn erbyn y Poll Tax yn ystod teyrnasiad Thatcher yn profi fod yna ddigon o ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth o hyd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Selador » Iau 08 Meh 2006 11:44 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:
Selador a ddywedodd:Pledleisio gorfodol ydy'r syniad gwaethaf ers Democratiaeth.
Ma'n golygu fona ddega o filoedd o bobol sy'n dallt dim ac yn poeni dim am wleidyddiaeth yn mynd i gael effaith ar pa blaid fydd mewn pwer, ei min, mana reswm pam bonhw ddim yn pleidleisio yn toes?
Allai jest dychmygu riw foi o'r enw Jim yn sefyll mewn blwch pleidleisio yn crafu ei ben, ac yn penderfynu pleidlesio i'r BNP am ei fodo'n meddwl fodo'n sefyll am "Free Jam for All."
Yn wir, dwi'n meddwl ella safo'n syniad fod pobol yn medru gallu son am o leiaf dri polsi ma'r blaid manhw'n bleidleisio drosto yn ei hyrwyddo cyn cael dod o fewn canllath at feiro. Ffecin peasants.

Mae'r ddadl yma yn dwyn atgo’ o'r ddadl yn erbyn pob estyniad o'r hawl i bleidleisio. Dyma oedd y ddadl yn erbyn gadael i'r gweithiwr cyffredin cael pleidlais Bydd dynion cyffredin yn pleidleisio heb ystyriaeth na ddealltwriaeth; yn erbyn rhoi pleidlais i ferched does dim modd i fenywod ddeall pwysigrwydd y pynciau dan sylw ac ati.

Ma honna'n ddadl wan iawn. Dydi'r bobol ma sydd ddim yn pleidleisio ddim eisiau pledleisio, yn wahanol iawn i'r gweithwyr a'r merched gynt. Tydi gorfodi pobol i bleidleisio hefyd ddim yn estyniad o'r hawl i bleidleisio, mae'n newid o hawl wedyn i fod yn orfodaeth.

Hen Rech Flin a ddywedodd: Mae 'na wledydd, megis Awstralia, sydd yn gorfodi pleidlais, prin eu bod wedi ethol llywodraethau eithafol dan orfodi pleidlais ar y twpsod yn eu gwlad.

Wel ia, dydi hyn ddim yn sioc mewn gwirionedd nadi? Mi wna'r rhan fwya o bobol sy'n cael eu gorfodi i bleidleisio wneud dewis random beth bynnag, ac ar gyfartaledd mi wneith eu pleidleisiau ganslo'i gilydd allan. Justice.

Hen Rech Flin a ddywedodd: Roedd adeg pan oedd modd i fi, fel aelod cyffredin o blaid cael syniad a'i gyflwyno i'r gangen leol. Os yn llwyddiannus yn y gangen bydda'r syniad yn cael ei osod gerbron yr adran Sirol, yna i'r rhanbarth ac yn y pendraw cael dadl yn y Gynhadledd Flynyddol Genedlaethol. O lwyddo cael syniad wedi ei dderbyn gan y Gynhadledd roedd yn bolisi maniffesto etholiad. - Dim mwyach! Ffocws grŵp neu gwmni PR sy'n pennu os yw pwnc yn cael ei drafod, nid barn yr aelodau.

Diddorol, ond off y pwynt yn llwyr. Os ydy pawb yn gorfod pleidleisio, yna mi fydd gan y blaid leol lai o amser byth i dreulio hefo aelodau cyffredin, gan y byddent yn gorfod trio ffeindio celebrity i fynd o gwmpas y dre yn honni eu bod nhw am bleidleisio i'r blaid honno achos ei bod hi'n "cwl".
Ffaith.
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 08 Meh 2006 12:42 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae 'na wledydd, megis Awstralia, sydd yn gorfodi pleidlais, prin eu bod wedi ethol llywodraethau eithafol dan orfodi pleidlais ar y twpsod yn eu gwlad.

O be dwi'n gofio o siarad efo pobol yno roedd gwleidyddiaeth Awstralia wedi'i ysgaru fwy o'r bobol nac yn fan hyn - ac mae pobol fel Pauline Hanson yn gallu dod i bwer oherwydd hyn. Peryg iawn.

Dwi'n tueddu tuag at farn Selador fan hyn, mae'r ddelfryd yn un braf, ond mae pobol am fod yn apathetig gorfodaeth neu beidio - ac mae gwrthod pleidleisio yn weithred ynddo'i hun cofiwch.

Tase na bleidlais orfodol buasai'n rhaid cael blwch 'neb' er mwyn cadw'r hawl hwn.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Tegwared ap Seion » Iau 08 Meh 2006 1:33 pm

Mi fydda 'na flwch "neb" yn ôl y sdori...

Tegwared ap Seion a ddywedodd:
fy linc bibisi uchod a ddywedodd:Think-tank The Institute for Public Policy Research's report suggests those who do not vote should be fined to combat low turnout at the polls.
.
.
.
Under the institute's plan, electors would be offered a "none of the above" choice or could simply spoil their papers.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan dave drych » Iau 08 Meh 2006 1:39 pm

Selador a ddywedodd:Ma honna'n ddadl wan iawn. Dydi'r bobol ma sydd ddim yn pleidleisio ddim eisiau pledleisio, yn wahanol iawn i'r gweithwyr a'r merched gynt. Tydi gorfodi pobol i bleidleisio hefyd ddim yn estyniad o'r hawl i bleidleisio, mae'n newid o hawl wedyn i fod yn orfodaeth

Cytuno.

Mae'r pobl sydd ddim yn fotio rwan yn fobl sydd wedi dewis peidio neu yn fobl sydd jysd heb unryw ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Mae gan pob un ohonom (bron iawn) y rhyddid i pleidleisio fel y mynnwn, be arall sydd angen?

Oes angen i'r wlad hefyd ysgrifennu ar y papur pleidleisio ini bobl hefyd, tra bod nhw wrthi'n deud ini be i neud?
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Huw Psych » Iau 08 Meh 2006 2:02 pm

dave drych a ddywedodd:Mae'r pobl sydd ddim yn fotio rwan yn fobl sydd wedi dewis peidio neu yn fobl sydd jysd heb unryw ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Mae gan pob un ohonom (bron iawn) y rhyddid i pleidleisio fel y mynnwn, be arall sydd angen?

Efallai y bydda hi'n syniad cael blwch dim diddordeb yn ogystal a neb. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig fod pobl yn rhydd i allu ddangos eu barn, drwy beidio pledleisio mae'n dangos di-faterwch, petae chi yn mynd i bledleisio a'i sbwylio bydda hi'n cyfri am rhywbeth. Dylsa mwy o werth gael ei roi ar bledleisia sydd yn cael sbwylio gan ei fod o'n dangos faint o ffydd sydd gan bobol mewn gwleidyddion. Ella nad sustem newydd sydd ei angen ond codi ymwybyddiaeth o bobl o'r cyfle i sbwylio'r bleidlais / pledleisio am neb.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron