Wythnos arall eitha poenus i Prescott. (ond pwy sy'n cwyno!?
)
Mae
Ian Dale a'r poblogaidd
Guido Fawkes dal i flogio am affêrs niferus Prezza - ddaru Two Shags llwyddo i osgoi'r cwestiwn
"have you had more affairs?" wyth o weithiau ar
Today ddoe.
Diddorol hefyd i nodi (yn fy marn i..) bo neb o rengau ucha'r llywodraeth yn dod allan i gefnogi Prezza nawr. A Peter
"Go Nuclear!" Hain sy'n barod i lenwi'i sgidie, os, fel mae ambell i flogiwr yn darogan, bydd Prescott yn rhoi'r ffidil yn y to cyn ddiwedd y mis.
Mae ei stori am beth yn union ddaru cael ei drafod rhwngth fe a Mr Anschutz wedi newid dros yr wythnos hefyd. Mae nawr yn ymddangos ei bod nhw WEDI trafod casino i'r Dome, a nid cyfle i ymddwyn fel cowbois oedd hi.
Mae'r drip-drip o honiadau yn parhau i ddod, ond mae cefnogaeth ei ffrindiau wedi sychu fyny. Ta-ta john.