John Tri Shag Presgot

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

John Tri Shag Presgot

Postiogan Darth Sgonsan » Maw 02 Mai 2006 3:57 pm

ma shagio ar bwrs y wlad pan ti fod yn gweithio i'w gymeradwyo, ond os ti'n cael dy ddal mae'n amser ymddiswyddo

mae'r cyfaill tew wedi bod yn anfon ei Shoffyr (a delir gyda'n trethi) i nol ei Shag, ymysg pethau eraill - mae wedi camddefnyddio ei safle a'i fraint fel dirprwy Brif Weinidog

rywun yn meddwl fod hyn i gyd yn fatar preifat, ag y dyla fo gael aros?
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Postiogan huwwaters » Maw 02 Mai 2006 4:58 pm

Gai roi cyfeiriad blog:

http://5thnovember.blogspot.com/ sy'n darlledu unrhyw 'leaks'. Yn
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Mici » Mer 03 Mai 2006 11:58 am

Hen bryd i'r lwmpyn 'champagne socialist' di-werth fynd. Be oedd o neud beth bynnag, dwi wastad wedi meddwl mai fel rhywfath o 'side-show' oedd Prescott i Blair,

"Yndw dwi'n siarad celwydd, ond ylwch ar Prescott yn hitio'r cyhoedd/gwastraffu arian cyhoeddus/shaggio o gwmpas/bwyta bloc o lard etc"

Heb Prescott yn actio'r ffwl, pwy sydd gan Blair i guddio ei ail a trydydd tymor trychinebus.
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Postiogan Hen Rech Flin » Iau 04 Mai 2006 3:58 am

Chware teg i'r hen John, mae gwybod pod creadur mor wrthun yn gallu ennill tudalennau blaen y papurau melyn am Sex Scandal yn creu gobaith mawr i bobl fath a fi :D
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Dili Minllyn » Iau 04 Mai 2006 10:08 am

Boris Johnson a ddywedodd:And as for John Prescott, there seems no point in the Opposition trying to elaborate on the magnificent efforts of the Daily Mail, a newspaper that pays hundreds of thousands of pounds for smut and then snarls with splendid disapproval of the pornography it has procured. What could anyone hope to add?

Difyr. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan huwcyn1982 » Gwe 07 Gor 2006 12:36 pm

Wythnos arall eitha poenus i Prescott. (ond pwy sy'n cwyno!? :winc: )

Mae Ian Dale a'r poblogaidd Guido Fawkes dal i flogio am affêrs niferus Prezza - ddaru Two Shags llwyddo i osgoi'r cwestiwn "have you had more affairs?" wyth o weithiau ar Today ddoe.

Diddorol hefyd i nodi (yn fy marn i..) bo neb o rengau ucha'r llywodraeth yn dod allan i gefnogi Prezza nawr. A Peter "Go Nuclear!" Hain sy'n barod i lenwi'i sgidie, os, fel mae ambell i flogiwr yn darogan, bydd Prescott yn rhoi'r ffidil yn y to cyn ddiwedd y mis.

Mae ei stori am beth yn union ddaru cael ei drafod rhwngth fe a Mr Anschutz wedi newid dros yr wythnos hefyd. Mae nawr yn ymddangos ei bod nhw WEDI trafod casino i'r Dome, a nid cyfle i ymddwyn fel cowbois oedd hi.

Mae'r drip-drip o honiadau yn parhau i ddod, ond mae cefnogaeth ei ffrindiau wedi sychu fyny. Ta-ta john.
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 09 Gor 2006 2:37 am

Nid wyf, ni fûm, ni fyddwyf byth yn ôr hoff o Mr Prescott, ond yr wyf yn teimlo bod agwedd y wasg tuag ato yn ystod yr wythnosau diwethaf yn peri gofid.

Mae'r wasg wedi penderfynu pigo ar Prescott, yn yr un modd ac mae nhw wedi pigo ar eraill o'i flaen. Mae pob dim mae'r dyn yn ei wneud, er da er drwg, yn cael ei osod o dan chwyddwydr mwy manwl na'r hyn sy'n cael ei osod uwchben unrhyw wleidydd arall. Mae pethau mwyaf diniwed megis chware gem gardd, neu gael diod feddwol yn cael ei chwythu i fewn i sgandal. Mae siarad a ddarpar buddsoddwr mewn busnesau Prydain (rhywbeth mae dyn yn disgwyl i weinidog y goron ei wneud) yn troi yn achos o lwgr, er na dderbyniodd y dyn druan ceiniog o lwgrwobrwyaeth.

Mae dyddiau John Prescott, fel grym gwleidyddol, yn amlwg, yn tynnu at eu terfyn, os na fydd y sgandal yma yn ei ddiweddu bydd y nesaf. Fe gaiff ei ddal yn pigo ei drwyn neu grafu ei din neu wneud rhywbeth arall gwbl ddiniwed a'i rhoi ar dudalennau blaen y papurau fel esiampl o'i ddiffyg gallu i fod yn wleidydd craff.

A ydy o'n iawn i bapurau newyddion cwrsio gwleidydd yn y fath modd?

Mae rhyddid y wasg yn bwysig i ddemocratiaeth. Onid oes berygl i wleidyddion ymateb i ymyrraeth annheg y wasg, megis cwrsio Prescott mewn modd afresymol, trwy ffrwyno eu rhyddid?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy


Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 29 gwestai

cron