Cymedrolwr: Mr Gasyth
Dwi'n gaeth i gaws a ddywedodd:pam fod arholiada dal yn digywdd yn Fangor?! gath un o'n narlithoedd i eu canslo yn ysdtod tymor achos bod y dalithydd ar streic - ok, dwim yn cael arholiad yn y pwnc yma ond ma raid fod na ddarlithwyr mewn pyncia erill ma ar streic?!
o'n i'n ama ella ma wbath fel ma odd y rheswm... blerwch bach o ran y brifysgol yn aber fyd swni'n ddeud llu??!!!!Rhys Llwyd a ddywedodd:3. Pryd ma deadline gosod papurau dy Brifysgol. Roedd rhanfwyaf nol mis Ebrill cyn ir streic ddechrau OND yn aber does dim dyddiad cau felly llawer ddim wedi gosod arholiadau cyn ir streic ddechrau
Ond ma nhw yn gofyn am 23%!!! Blydi hel - son am fod yn farus! A myfyrwyr wedyn yn diodde - Ma'r peth yn sic
Huw T a ddywedodd:Jyst ystyria, pa sawl swydd arall sy'n gofyn i ti astudio am tua 7 mlynedd (os ti'n lwcus) cyn dechre cael dy ystyried o ddifri. Allai ddim ond siarad o brofiad, ond mae'r tiwtoriaid fi di dod ar draws ymysg rhai o bobl mwya galluog y wlad, a alle fod yn gwneud ffortsiwn ym myd busnes. Yr unig beth sy'n sic yw fod tal academyddion mor isel a mai.
Onid y dywediad yw..."Those who can do, those who can't teach"!Huw T a ddywedodd:Yr unig beth sy'n sic yw fod tal academyddion mor isel a mai.
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Gwir y gair. Mae'n debyg bod [i]proffesyr[/] yng Nghaergrawnt - un o swyddi academaidd uchaf yn y byd, tybiwn i - yn cael dim ond 40 - 50 mil y flwyddyn. O feddwl bod prifathrawon rhai ysgolion yn cael 70 - 80, mae hyn yn warthus. Dylia bo' nhw'n cael swn 6 ffigwr yn hawdd.
Huw Psych a ddywedodd:Tegwared ap Seion a ddywedodd:Gwir y gair. Mae'n debyg bod proffesyr[/] yng Nghaergrawnt - un o swyddi academaidd uchaf yn y byd, tybiwn i - yn cael dim ond 40 - 50 mil y flwyddyn. O feddwl bod prifathrawon rhai ysgolion yn cael 70 - 80, mae hyn yn warthus. Dylia bo' nhw'n cael swn 6 ffigwr yn hawdd.
Efallai mae prifathrawon yr ysgolion ddylsai fod yn cael gostyngiad! Mae 40-50 mil y flwyddyn yn arian da iawn, ond pa wahaniaeth mae 20-20 mil arall am neud i'w bywydau? Ydi 20-30 mil am eu gneud nhw'n hapusach pobl?
Chwadan a ddywedodd:Gyda llaw - fy nhiwtor (sy'n broffesor economeg llafur) ddudodd hynna wrtha'i - ac mae o o hyd yn cwyno'i fod o'n sgint ac yn gorfod gwneud gwaith consulting am fwy o bres
Mr Gasyth a ddywedodd:Chwadan a ddywedodd:Gyda llaw - fy nhiwtor (sy'n broffesor economeg llafur) ddudodd hynna wrtha'i - ac mae o o hyd yn cwyno'i fod o'n sgint ac yn gorfod gwneud gwaith consulting am fwy o bres
Does run Professor yn mynd i fod yn enill llai na £40k. Os ydi o'n sgint ar hynny yna mae yna ateb syml - gwario llai a peidio byw tu hwnt i'w foddion fel ma pawb arall yn gorfod neud.
Rhods a ddywedodd:O ni yn gwedl ar wefan BBC bod y darliwthwyr di cael cynnig dros 12% o godiad dros 3 mlynedd!!!!!! Blydi gwd deal sa ti yn gofyn i fi!!! Ond ma nhw yn gofyn am 23%!!! Blydi hel - son am fod yn farus! A myfyrwyr wedyn yn diodde - Ma'r peth yn sic
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai