O ran effaith ar fyfyrwyr, derbyniwyd neges heddiw yn dweud pe na bai arholiadau yn gallu cael eu cynnal ar y diwrnodau penodedig, bydd y coleg yn ceisio eu cynnal yn wythnos olaf y tymor (mae fy arholiadau i o fewn y pythefnos nesa). I mi, mae'r coleg yn bod yn afresymol am hyn. Dylent ddweud un ffordd neu'r llall erbyn dydd gwener yma, cyn i'r arholiadau ddechrau p'un ai bydd arholiadau o gwbl neu beidio. Yr hyn mae'r coleg yn awgrymu yw "cariwch ymlaen i astudio nes bo ni'n dweud yn wahanol", ac yn ol y datganiad gall hyn fod am dair wythnos. Does bosib, oni ellir cynnal arholiad (e.e. ar y 18fed o fai), nad yw'n deg o gwbl i ddweud wedyn, "cariwch ymlaen i astudio, efallai cewch yn arholiad eto mewn pythefnos." (e.e. 2il o Fehefin).
Nid yw ychwaith yn deg y gall rhai arholiadau gael y cynnal ac nid eraill pe datrusid yr argyfwng yn ystod yr arholiadau, gan ei fod yn golygu llawer o amser astudio yn mynd yn wast i fyfyrwyr ar arholiadau sydd yn dod yn gyntaf.
Mae'n wir, nad yw'r coleg yn gwneud rhyw lawer er lles y myfyrwyr, i mi, mae'n edrych fel bod y coleg yn bod yn llwfr ac yn gwrthod gwneud unrhyw benderfyniad pendant, ac yn gobeithio y bydd cymodi a'r undebau yn dod a'r ateb yn naturiol.
dwi yn y drydedd flwyddyn, fy mlwyddyn olaf, a dwi jyst eisiau rhyw fath o sicrwydd, bod arholiadau neu ddim, dydi disgwyl i fyfyrwyr fyw mewn limbo am wythnosau ddim yn gwneuid daioni i neb yn y pen draw.
Mae'r hyn a ddyfynnir gan UMCA uchod yn drist iawn.
Ydi, mae hwn yn gorrach bach blin iawn. iawn.