Streic Darlithwyr Prifysgolion

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Streic Darlithwyr Prifysgolion

Postiogan UMCA » Maw 09 Mai 2006 1:16 pm

Mae darlithwyr Prifysgolion yn streicio- gallai hyn olygu bod arholiadau yn cael eu canslo, a fod pobl ddim yn graddio ac ati. Mae Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Aberystwyth wedi ymddiswyddo neithiwr er meyn dangod cefnogaeth i'r myfyrwyr.

Datganiad i'r Wasg

09/05/06
UMCA
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 22
Ymunwyd: Mer 27 Hyd 2004 5:07 pm

Postiogan Rhods » Maw 09 Mai 2006 1:33 pm

Dwi'n meddwl bod e'n warthus y gall myfyrwyr colli allan ar ei gradd eleni achos barusrwuydd rhai pobl yn y byd'ma...dylsai darlithwyr meddwl am bobl eraill yn lle eu hunian.
O ni yn cofio gweld piced yn Aber o nhw yn creu llinnell piceo rhyw chydig fisoedd yn ol...a roedd eun placads yn uniaith saseneg. Gwarthus
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan Cymro13 » Maw 09 Mai 2006 3:50 pm

Ydy e'n bendant fydd rhaid i'r myfyrwyr dalu ffioedd ychwanegol i ail sefyll arholiadau - surely os taw nid eu bai nhw yw hyn ac ar gael am yr arholiadau gwreiddiol
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Darth Sgonsan » Maw 09 Mai 2006 3:56 pm

Rhods a ddywedodd: Gwarthus


at ei gilydd, Rhechans Dof Ond Drewllyd ydi darlithwyr. Ofn eu cysgod a ballu, byth yn mynegi unrhyw farn o werth. syndod o'r mwyaf yw eu gweld yn byhafio fel hyn

ag am be ma nhw'n gwyno? mae nhw'n cael bywyd tawel rhwng cloria llyfra, amball diwtorial, neu ar y gwaethaf gorfod ymlwybro ryw ddeg llath i ddarllen nodiadau darlith. iawn, ma'r cyflog yn gymharol bitw, ond ma'n fwy na mae nhw'n haeddu...ddyla nhw anfon y cwynwrs i drio dysgu rhei o wehilion ein hysgolion uwchradd. wedyn fysa'r ffycars yn ddiolchgar. academics wir, be natho nhw o werth erioed?
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Postiogan Geraint » Maw 09 Mai 2006 4:08 pm

Dwi di clywed fod eu cyflog ymysg yr isaf yn Ewrop. A fod yr awdurdodau wedi gwrthod cwrdd i drafod y mater, tan iddynt bygwth streicio. Ma streicio ar yr amser yma yn mynd i gael effaith mawr, felly rhaid i'r adwurdodau dod atynt i drafod y mater yn lle eu anwybyddu fel mae nhw wedi bod yn gwneud. Os mae dyma be sydd rhaid iddynt wneud i wella ei achos, digon teg dwi'n meddwl. Ma myfyrwyr yn cwyno am loans, fees ac yn protestio byth a beunydd, ond unwaith i'r darlithwyr sefyll lan am eu achos, mae'n beth annerbyniol :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 09 Mai 2006 4:13 pm

Cymro13 a ddywedodd:Ydy e'n bendant fydd rhaid i'r myfyrwyr dalu ffioedd ychwanegol i ail sefyll arholiadau - surely os taw nid eu bai nhw yw hyn ac ar gael am yr arholiadau gwreiddiol


Y Brifysgol fydd yn talu costau unrhyw ail-sefyll. Lle ges di y syniad yn wahanol? Os or datganiad uchod yna mae en anghywir.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan CORRACH » Maw 09 Mai 2006 5:36 pm

O ran effaith ar fyfyrwyr, derbyniwyd neges heddiw yn dweud pe na bai arholiadau yn gallu cael eu cynnal ar y diwrnodau penodedig, bydd y coleg yn ceisio eu cynnal yn wythnos olaf y tymor (mae fy arholiadau i o fewn y pythefnos nesa). I mi, mae'r coleg yn bod yn afresymol am hyn. Dylent ddweud un ffordd neu'r llall erbyn dydd gwener yma, cyn i'r arholiadau ddechrau p'un ai bydd arholiadau o gwbl neu beidio. Yr hyn mae'r coleg yn awgrymu yw "cariwch ymlaen i astudio nes bo ni'n dweud yn wahanol", ac yn ol y datganiad gall hyn fod am dair wythnos. Does bosib, oni ellir cynnal arholiad (e.e. ar y 18fed o fai), nad yw'n deg o gwbl i ddweud wedyn, "cariwch ymlaen i astudio, efallai cewch yn arholiad eto mewn pythefnos." (e.e. 2il o Fehefin).
Nid yw ychwaith yn deg y gall rhai arholiadau gael y cynnal ac nid eraill pe datrusid yr argyfwng yn ystod yr arholiadau, gan ei fod yn golygu llawer o amser astudio yn mynd yn wast i fyfyrwyr ar arholiadau sydd yn dod yn gyntaf.

Mae'n wir, nad yw'r coleg yn gwneud rhyw lawer er lles y myfyrwyr, i mi, mae'n edrych fel bod y coleg yn bod yn llwfr ac yn gwrthod gwneud unrhyw benderfyniad pendant, ac yn gobeithio y bydd cymodi a'r undebau yn dod a'r ateb yn naturiol.

dwi yn y drydedd flwyddyn, fy mlwyddyn olaf, a dwi jyst eisiau rhyw fath o sicrwydd, bod arholiadau neu ddim, dydi disgwyl i fyfyrwyr fyw mewn limbo am wythnosau ddim yn gwneuid daioni i neb yn y pen draw.

Mae'r hyn a ddyfynnir gan UMCA uchod yn drist iawn.

Ydi, mae hwn yn gorrach bach blin iawn. iawn.

:drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Postiogan Chwadan » Maw 09 Mai 2006 7:07 pm

Dwi'n meddwl fod o'n eitha dan din mynd ar streic 'radeg yma o'r flwyddyn deud gwir. Yn Rhydychen ma cymaint o bwyslais ar arholiada terfynol (100% mewn sawl pwnc, yn cynnwys fy un i) fel bod popeth yn dibynnu ar y cyfnod tra ma'r streic ma'n digwydd. Dwi'n gwbod am bobl sydd heb gael eu hamserlen eto, er gwaetha addewid y brifysgol i'w cyhoeddi bump wythnos ymlaen llaw. Mi allsa'u harholiada terfynol nhw fod yn cychwyn unrhyw ddiwrnod :? Ffarsical braidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 10 Mai 2006 1:23 am

Chwadan a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod o'n eitha dan din mynd ar streic 'radeg yma o'r flwyddyn deud gwir.


dydio ddim jest tactegol! Hwna fel dweud dy fod tin credu fod chwistrellu slogan gwrth Lafur yn iawn ond ei fod en dan din neud e mewn lle cyhoeddus. Wel os nad yn neud e mewn lle cyhoeddus beth oedd y pwynt neud o gwbl.

Dwi'n cefnogi y streic yn llwyr. Peth bach iawn yw anghyfleustra tymor byr i ni giw academwyr is-raddedig i feddwl fod yr ymgyrch yma ar potensial i chwyldroi byd academia er gwell.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Chwadan » Mer 10 Mai 2006 7:04 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Chwadan a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod o'n eitha dan din mynd ar streic 'radeg yma o'r flwyddyn deud gwir.


dydio ddim jest tactegol! Hwna fel dweud dy fod tin credu fod chwistrellu slogan gwrth Lafur yn iawn ond ei fod en dan din neud e mewn lle cyhoeddus. Wel os nad yn neud e mewn lle cyhoeddus beth oedd y pwynt neud o gwbl.

Dwi'n cefnogi y streic yn llwyr. Peth bach iawn yw anghyfleustra tymor byr i ni giw academwyr is-raddedig i feddwl fod yr ymgyrch yma ar potensial i chwyldroi byd academia er gwell.

Dwi'n meddwl fod o'n dan din achos wedi dysgu is-raddedigion am ddwy-dair blynedd, ma nhw'n deud "stwffiwch chi" - yn amlwg, i'r undeb, ma pres yn dod o flaen dyletswydd dysgu. Dwi'm yn deud na ddylsan nhw fynd ar streic, ond dwi'n ei weld o'n eitha cachlyd adeg yma o'r flwyddyn. Mi ddylsan nhw o bawb wybod ma'r peth dwytha ma myfyrwyr flwyddyn ola stresd isio ydi amheuaeth os byddan nhw'n cael eistedd arholiad o gwbl.

A dio prin yn "chwyldro" nadi, isio mwy o bres ma nhw, ddim gwyrdroi cwrs addysg.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron