Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n cefnogi y streic yn llwyr. Peth bach iawn yw anghyfleustra tymor byr i ni giw academwyr is-raddedig i feddwl fod yr ymgyrch yma ar potensial i chwyldroi byd academia er gwell.
Mae'n amlwg mai rwan ydi'r adeg gorau i streicio er mwyn tynnu sylw at yr achos. Sylwch hefyd nad oedd Bec Corn yn awyddus i weld bai ar y darlithwyr ond yn hytrach ar 'uwch reolwyr' y prifysgolion. Mae 'na bobl mewn awdurdod allai atal y sefyllfa yma rhag gwaethygu, ond sy'n dewis peidio.
Dwi'm yn gweld y ddadl yma'n dal dwr:
Chwadan a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod o'n dan din achos wedi dysgu is-raddedigion am ddwy-dair blynedd, ma nhw'n deud "stwffiwch chi" - yn amlwg, i'r undeb, ma pres yn dod o flaen dyletswydd dysgu.
gan fod rhywrai, yn amlwg, yn graddio ganddyn nhw bob blwyddyn. Pan 'dach chi'n meddwl am y peth, mae rhyw chwe wythnos o bob tri deg - sef y flwyddyn academaidd ym Mhrifysgol Cymru - yn mynd i arholiadau, ac, o gynnal streic, mi fyddai'n anodd osgoi y rhain a gwaith cwrs a phopeth.
Ydi, mae'r streic yn anghyfleus. Does neb isio gorfod streicio. Ond y peth dwytha y dylai neb ei wneud ydi beio'r darlithwyr eu hunain am hyn. Mewn undeb mae nerth...