Bwa a Saeth St George a banner Cymru

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sanddef » Maw 06 Meh 2006 3:25 pm

nicdafis a ddywedodd:Ces i'r fraint y llynedd o weld prif-fardd meddw losgi Jac yr Undeb ar strydoedd Cricieth - ddylwn i fod wedi galw'r heddlu?


Na, dylet ti fod wedi prynu peint iddo.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 06 Meh 2006 3:27 pm

dafydd a ddywedodd:
Nimel a ddywedodd:Dyai'r fenwy ma di cael ffein oleua.

Ffein am saethu at baner Cymru fel jôc? Beth ydyn ni, America? Fe ddylen ni gael y rhyddid i ddifrio unrhyw faner neu symbol arall yr hoffen ni heb i'r 'nanny state' fod ar ein cefnau.


Cweit. A nawr mae 'na edefyn am y peth ar y Maes. Ma' pethe'n dirywio...
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan dawncyfarwydd » Maw 06 Meh 2006 3:38 pm

nicdafis a ddywedodd:Ces i'r fraint y llynedd o weld prif-fardd meddw losgi Jac yr Undeb ar strydoedd Cricieth - ddylwn i fod wedi galw'r heddlu?
Atgofion :D

Oedd o'n brifardd, ta jyst un yr Urdd? Ac mi o'n i'n meddwl mai ar lan y môr roeddan ni...ta waeth!

Dwi'n credu ei bod hi'n bryd i ni stopio cwyno am bethau bach fel hyn - iawn, dwi'n dallt ei bod hi'n dda i fynd ar ôl pethau fel Tony Blair a'i 'fucking Welsh' ond mewn difri, os ydi Saeson yn cychwyn casau'r Cymry dwi'n meddwl bod hynny'n beth da iawn. O leia maen nhw'n ein cymryd ni o ddifri ac mae o'n amlygu'r anferth o sglodyn sgynnyn nhw ar eu 'sgwyddau am fod gwlad maen nhw wedi ei gormesu yn dechrau dod yn wlad go-iawn o'r diwedd - dwi'n meddwl bod gweld Cymru'n dod yn fwy annibynnol yn annioddefol iddyn nhw am ei fod o'n ymgorfforiad o ddiwedd yr Ymerodraeth. Da iawn wir.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan huwwaters » Maw 06 Meh 2006 3:58 pm

Wel, dwi efo'r rhyddid i fynd i'r Rhyl, prynu baner enfawr San Sior, a'i roi ar dan yn y stryd. Byddaf siwr o gael ychydig o bobl i'm cynorthwyo.

Tydio ddim yn hiliaeth.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan bartiddu » Maw 06 Meh 2006 4:08 pm

Ewch i unrhyw siop Aldis a phrynwch becyn o 6 papur ty bach Saxon ( bargen gyda llaw!) a gwnewch protest bach ar ben eich hyn, yn eich amser eich hyn, yn y cyfnodau unig angerheidiol yna.... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Rhys » Maw 06 Meh 2006 4:11 pm

huwwaters a ddywedodd:Wel, dwi efo'r rhyddid i fynd i'r Rhyl, prynu baner enfawr San Sior, a'i roi ar dan yn y stryd. Byddaf siwr o gael ychydig o bobl i'm cynorthwyo.


Bydde ni ddim yn mentro :ofn:. Bydden'n cymryd person dewr neu dwp i wneud hynna yn Rhyl, ond os ti awydd trio fo allan, cysyllta a Sbecs, mae o a'i ffrindiau yn meddwl mynd i Rhyl i wylio gemau Lloegr yn ystod Cwpan y Byd. Bydd yn diweddu mewn dagrau fel dywed y Sais...
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan EsAi » Maw 06 Meh 2006 4:17 pm

dawncyfarwydd a ddywedodd: os ydi Saeson yn cychwyn casau'r Cymry dwi'n meddwl bod hynny'n beth da iawn. O leia maen nhw'n ein cymryd ni o ddifri


Cytuno.
Mwya mae nhw'n gweld ni'n wlad arwahan, a ddim yn perthyn iddyn nhw na'u Prydain gora'n byd.
Rhithffurf defnyddiwr
EsAi
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 436
Ymunwyd: Llun 08 Maw 2004 11:43 am

Postiogan Mwlsyn » Maw 06 Meh 2006 5:09 pm

Dylan a ddywedodd:wel mae'n amlwg 'roedd o leiaf un ohonyn nhw'n teimlo'n ddigon "Cymreig" i gwyno i'r blydi heddlu o bawb am y peth


Jôc oedd y cwyno:

BBC a ddywedodd:The complainant is understood to have reported her as a joke, which backfired when police arrived to question her.


Dyna pam does dim achos wedi'i dwyn yn ei herbyn.
Mwlsyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 148
Ymunwyd: Llun 23 Awst 2004 10:01 pm

Postiogan caws_llyffant » Mer 21 Meh 2006 6:41 am

Diddorol iawn . Dwi byth wedi meddwl am y seicoleg Saesneg tu nol i'r syniad o St George a 'slay the dragon' . Os mae nhw'n tyfu i fynny efo'r syniad o 'slay the dragon' , mae'r ddraig yn darged naturiol . Roedd y masters of spin y canol oesoedd yn gwybod eu stwff . Mae be mae'r ddynes na wedi wneud yn hollol resymol tu mewn i'r system meddwl na .

hypothesis : ddaru Lloegr ddewis St George fel nawddasant i drio lladd y syniad o Gymru .
"Does dim eisio mynd dros ben wal , medda finna . Mae dyn sioe wedi deud cawn ni gario dwr o Rafon iddo fo a mynd i mewn am ddim . "
caws_llyffant
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 357
Ymunwyd: Iau 17 Tach 2005 2:44 pm
Lleoliad: ar y ffordd i'r trofannau

Postiogan Nanog » Mer 21 Meh 2006 8:22 pm

caws_llyffant a ddywedodd:
hypothesis : ddaru Lloegr ddewis St George fel nawddasant i drio lladd y syniad o Gymru .


Diddorol. Beth yw llinell amser mabwydiadu'r baneri? Pan es i Twickenham i wylio rygbi, roedd rhai Saeson y tu ol i ni yn canu....George killed the dragon....George killed the dragon! Wrth-gwrs, hwyl oedd hynny, a mwy o fwyl fyth pan enillodd y ddraig!
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai