Gweler -
http://news.bbc.co.uk/1/hi/england/somerset/5051162.stm
Mae'r stori ma wedi fy'n hambygio i trwy'r dydd. Mae'r fenyw ma o Sommerset wedi cynnal parti St George, lle bu'r gwestai yn saethu saeth o fwa at banner Cymru i trio 'lladd' y ddraig. Mae hi'n deud na dim ond ychydig o hwyl a sbort odd e, ond dwi'n meddwl ei fod yn gwbwl amharchus. Os oeddem ni wedi neud yr un fath i'r Union Jack neu banner St George ar ddydd gwyl Dewi, bydden ni wedi cael ein galw pob enw dan haul a cael ein aresto.