Wy'i wastad yn prynu cig o gigydd y pentref. Mae bach yn fwy ddrud o ran pris y kilogram, ond does dim dwr 'di ychwanegu ato fe. A so'r ham i 'mrechdanau'n cynnwys siwgr ychwanegol. (Soi'n hoffi prynnu cig lle mae rhaid rhestri'r cynnwys ar y paced!) A mae'r holl lot yn dod wedi'i larpio mewn papur.
Roedd y lle ar gau ddydd llun a bu rhaid i fi fynd i Tesco i brynu cig ar gyfer stir-fry. Roedd mwy o ddwr nag o saim yn y ffrimpan pan benais i goginio'r cig...