7ennyn a ddywedodd:Dwi'n byw ym Mhen-y-groes - ydi hynny yn ddigon 'provincial'?
Mae yna fecws ardderchog dros y ffordd, siop drws nesa ond chwech yn gwerthu llysiau blasus lleol, Co-op tua 50 llath i ffwrdd sydd yn gwerthu pob dim 'Fairtrade' dwi angen, cigydd 'top notch' rownd y gornel a Spar sydd yn gwerthu pob math o ddanteithion 'Blas ar Fwyd' a ballu. Ella byswn i'n gwario ychydig yn llai ar fy neges wythnosol 'taswn i'n siopa yn Tesco, ond bysa'r arbedion yn dipyn llai na chost y petrol fyswn i'n ddefnyddio i nol y neges.
Ti mewn sefyllfa lwcus iawn ym Mhenygroes, a tydi pawb ddim mor ffodus. Dwi'n byw ym Methesda, sydd yn bentref ddigon tebyg. Dwi'n cael bara o Londis (o fecws Cwm y Glo), ond prin iawn ydi'r adegau pan dwi'n prynnu o siopau eraill y pentref. Mi agorodd 'na siop cigydd dda iawn ar y stryd fawr rhyw ddwy flynedd yn ol, ac mi ydw i'n prynnu cig o fanno yn achlysurol. Ond mae hi'n cau ei drysau cyn i mi gyrraedd adra o'r gwaith - yn wahanol i Tesco Bangor sydd yn gorad drwy'r dydd a'r nos. Toes 'na ddim siop lysiau ym Methesda (dwi'm yn meddwl), ac yn bendant toes 'na ddim cynnyrch Blas ar Fwyd yn Londis.
Gai ofyn i chdi, 7ennyn, be ti'n neud pan ti ishio coginio cyri, a hynny heb ddefnyddio saws o bot? Be os wyt ti ffansi stiw
chorizo? Neu tamaid o diwna ffresh? Be am botel o cava reit neis? Faint o'r rhein sy'n cael eu gwerthu ym Mhenygroes?
Tydw i ddim yn canu clodydd Tesco er mwyn bod yn
awkward. Dwi'n licio bwyd da, ac yn hoffi coginio. A dwi wedi darganfod fod yn rhaid i mi fynd i Tesco i brynnu llawer iawn o'r bwyd dwi'n ei fwynhau. Ac yn wahanol i be mae'r proffwyd o Barhain yn ei honi, tydi Tesco ddim wedi tanseilio'r farchnad leol mewn chorizo neu cava. Doedd y nwyddau yma ddim i'w cael ym Mangor cyn dyfodiad yr archfarchnad.
Oes, mae 'na well cynnyrch i'w gael - yma ac acw - yng ngogledd Cymru. Ond fel rheol mae o'n fwy prin, yn llai cyfleus, ac yn dipyn drytach na'r hyn mae Tesco yn ei gynnig.
Yr hyn sydd yn bwysig i'w gofio ydi mai cynnig dewis i bobl mae Tesco. Os ydi Tesco yn niweidio busnesau lleol, yr unig beth mae hyn yn ei olygu ydi fod yn well gan bobl leol ddefnyddio Tesco na'r siopau oedd yna cynt. Mae'n gas gen i'r agwedd nawddoglyd sydd yn collfarnu pobl am brynnu'r nwyddau mae nhw'n ei hoffi, yn hytrach na'r nwyddau y mae pobl fel Blewyn yn mynnu eu bod nhw i fod i'w hoffi.