Tudalen 1 o 5

Mini'r Mincs yn erbyn cyfalafiaeth

PostioPostiwyd: Gwe 09 Meh 2006 6:59 pm
gan Dili Minllyn
Mae'n debyg bod y cymeriad cartŵn Minnie the Minx wedi ymuno â'r frwydr yn erbyn y cyfalafwyr mawrion, gan ei bod hi'n poeni bod siopau bach Beanotown i gyd yn cau oherwydd siop fawr ar gyrion y dre' o'r enw "Toscos" (swnio'n gyfarwydd?). Wedi cyfarfod brys o'r siopwyr bychain, mae'r grotes bengoch yn rhedeg trwy'r archfarchnad gan ddychryn y cwsmeriaid yn ôl i hen ganol y dre'. 8) (Yn ôl y sôn, bydd y stori yn y rhifyn nesaf o'r comic).

PostioPostiwyd: Gwe 09 Meh 2006 8:55 pm
gan Nanog
Da iawn Mini. Wyt ti Dili yn cytuno gyda hi?

PostioPostiwyd: Sad 10 Meh 2006 6:25 pm
gan Dili Minllyn
Nanog a ddywedodd:Da iawn Mini. Wyt ti Dili yn cytuno gyda hi?

Mi dreuliais i'r bore 'ma, fel pob bore Sadwrn, yn mynd o siop fach i siop fach yn y Rhath yn prynu fy mwyd at yr wythnos, felly mae'n debyg 'mod i'n cytuno gyda ei hamacanion hi, os nad ei thactegau. :winc:

Am unwaith, dwi'n cytuno gyda Simon Heffer :ofn: am hyn.

Simon Heffer, 18 Chwefror 2006 a ddywedodd:If you really deplore what supermarkets are doing to our country, don't shop in them. Patronise the many excellent small stores that still thrive because they compete with the giants on quality - I wouldn't dream of buying my meat anywhere other than at my village butcher, because it is so much better than anything Tesco can throw at me.

PostioPostiwyd: Iau 06 Gor 2006 6:22 pm
gan Garnet Bowen
Mae hi'n hawdd iawn i bobl yn y Rhath neu (yn achos Simon Heffer) De-ddwyrain Lloegr ganu clodydd y siopau bychain. Ond y gwir ydi fod siopau bwyd bychain, o ansawdd, yn bethau prin iawn yn y "provinces". Diolch i Tesco, dwi'n medru prynnu bwydydd diddorol, amrywiol, estron o ansawdd uchel. Tria brynnu bwyd organic, neu fairtrade yn siopau Caernarfon, Bangor, neu Wrecsam cyn mynd ati i gollfarnu Tesco yn ormodol.

PostioPostiwyd: Iau 06 Gor 2006 8:53 pm
gan 7ennyn
Garnet Bowen a ddywedodd:. . . Tria brynnu bwyd organic, neu fairtrade yn siopau Caernarfon, Bangor, neu Wrecsam cyn mynd ati i gollfarnu Tesco yn ormodol. . .

Tria brynnu bwyd 'organic' sydd heb deithio o leiaf 200 ... naci 500 ... ym, gwna hynna yn 1000 o filltiroedd, cyn cyrraedd y silff yn dy Desco lleol. Bydd unrhyw fudd ddaw i'r amgylchedd o dras organic (honedig) dy lysiau wedi mynd i fyny mewn mwg, yn llythrennol.

Tria ofyn i'r 'cigydd' yn Tesco o ba ffarm mae dy sdec wedi dod, wedyn tria ofyn iddo fo am doriad anghyffredin o gig ar gyfer entyrteinio dy rieni yng nghyfrath. Y cwbl gei di fydd brych sbotiog yn syllu yn ol atat ti hefo golwg syn ar ei wynab.

Tria ofyn i'r 'pobydd' yn Tesco i gadw dau deisan wy i chdi o dan y cownter, achos ei fod o yn gwybod y bysa chdi yn llyncu mul fatha plentyn 4 oed os bydd y teisennau wy wedi gwerthu allan.

Tria brynu wyau 'free range' go iawn - yn ffresh o din yr iar. Dim cymhariaeth hefo wyau ffatri Tesco.

Tria brynu tatws newydd blasus - wedi eu tyfu yn gan ffermwr lleol sydd a balchder yn safon ei gynnyrch. Eto, dim cymhariaeth a'r lympiau diflas mae Tesco yn ei werthu.

Os wyt ti'n byw yng Nghaernarfon, Bangor neu Wrecsam, mae'n rhaid i chdi siopa yn y siopau bychain os wyt ti isio cynnyrch o safon uchel a'r gwasanaeth i fynd hefo fo. Ac os wyt ti isio 'bwydydd diddorol, amrywiol, estron o ansawdd uchel', mi wyt ti'n sboilt os wyt ti'n byw ym Mangor neu Wrecsam.

A dwi'n tosturio drosdat ti os wyt ti wir yn meddwl bod y rwtsh rhad mae Tesco yn ei werthu 'o ansawdd uchel'. Dos am dro i dy stryd fawr lleol - mi gei di dy synnu.

PostioPostiwyd: Iau 06 Gor 2006 9:10 pm
gan cen
Cytuno. Mae na ddigon o lefydd diddorol i siopa am fwyd ym Mangor (ee siop yn hirael, dimensions Bangor ucha) Mae na ddigon o lefydd tu allan i fangor (digon agos) sy'n gwerthu cynnyrch lleol da. Cyfleus ydi Tesco ond fedri di brynu dy fwyd masnach deg, organic ayb yn hawdd mewn siopau llai.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Gor 2006 12:47 pm
gan Garnet Bowen
7ennyn a ddywedodd:Tria brynnu bwyd 'organic' sydd heb deithio o leiaf 200 ... naci 500 ... ym, gwna hynna yn 1000 o filltiroedd, cyn cyrraedd y silff yn dy Desco lleol. Bydd unrhyw fudd ddaw i'r amgylchedd o dras organic (honedig) dy lysiau wedi mynd i fyny mewn mwg, yn llythrennol.


Mae hona'n ddadl wahanol. Nid am resymau amgylcheddol mae llawer iawn o bobl yn prynnu bwyd organic, ond am resymau iechyd.

Ond os wyt ti'n poeni am dy filltiroedd bwyd, mae Tesco yn cynnig dewis da iawn o fwydydd lleol. Tesco, wedi'r cyfan, ydi'r prynnwr mwyaf o gynnyrch Cymreig yn y byd. Os wyt ti wirioneddol ishio prynnu llefrith neu gaws Cymreig, mi gei di drafferth gwneud hynny mewn unrhyw siop "leol" ym Mangor. Ond mae 'an ddewis helaeth yn Tesco.

Ac mae'r un peth yn wir am Fairtrade. Mae cen wedi enwi dwy siop sy'n gwerthu cynnyrch organic ym Mangor. Dwi ddim yn gyfarwydd a'r siop yn Hirael, ond mae Dimensions yn codi crogbris am sdwff digon ciami. A toes 'na fawr o ddewis yno. Fel arall, fedra i ddim meddwl am rhyw lawer o siopa ym Mangor sydd yn cadw dewis go iawn o sdwff Fairtrade. Ar y llaw arall, mi fedra i fynd i neud neges yn Tesco, a prynnu pob un eitem tramor - o de i fananas - sy'n dwyn y label Fairtrade.

7ennyn a ddywedodd:
Tria ofyn i'r 'cigydd' yn Tesco o ba ffarm mae dy sdec wedi dod, wedyn tria ofyn iddo fo am doriad anghyffredin o gig ar gyfer entyrteinio dy rieni yng nghyfrath. Y cwbl gei di fydd brych sbotiog yn syllu yn ol atat ti hefo golwg syn ar ei wynab.


Os ti ishio dod i nabod dy stec, neu prynnu par o geillia tarw, yna dwi'n cydnabod fod 'na well llefydd na Tesco. Ond dwi'n ddigon bodlon i goginio a bwyta y cig dwi'n ei gael o'r archfarchnad.

7ennyn]
Tria brynu wyau 'free range' go iawn - yn ffresh o din yr iar. Dim cymhariaeth hefo wyau ffatri Tesco.[/quote]

Os 'di Tesco yn gwerthy wyau ffatri wedi eu labelu fel free range yna mae nhw'n torri'r gyfraith. Wyt ti'n honni mai dyna sy'n digwydd?

[quote="7ennyn a ddywedodd:
Tria brynu tatws newydd blasus - wedi eu tyfu yn gan ffermwr lleol sydd a balchder yn safon ei gynnyrch. Eto, dim cymhariaeth a'r lympiau diflas mae Tesco yn ei werthu.


Fel yn achos y cig, mater o farn ydi hyn. Dwi'n ddigon hoff o datws Tesco. Ond ella nad ydw i'n ddigon soffistidegid i werthfawrogi blas taten go iawn, wedi ei magu gan un o werin bobl Cymru.

7ennyn a ddywedodd:Os wyt ti'n byw yng Nghaernarfon, Bangor neu Wrecsam, mae'n rhaid i chdi siopa yn y siopau bychain os wyt ti isio cynnyrch o safon uchel a'r gwasanaeth i fynd hefo fo. Ac os wyt ti isio 'bwydydd diddorol, amrywiol, estron o ansawdd uchel', mi wyt ti'n sboilt os wyt ti'n byw ym Mangor neu Wrecsam.


Lle yn union? Dwi ddim yn nabod Wrecsam yn dda iawn, ond fedra i ddim meddwl am unman call i brynnu bwyd yng Nghaernarfon. A mae 'na reswm am hyn - mae Caernarfon yn dre ddi-freintedig, a felly toes 'na ddim digon o alw am siopau crand yn gwerthu bwyd "da". Mi gei di fechdan go lew, neu lwmp o gaws, o'r Pantri Cymreig, ond fedri di ddim nol negas wythnos oddi yno. Ac mae'r un peth yn wir am Fangor.

Ac eithrio'r cigydd a'r siop ffrwythau, fedri di enwi unrhyw siopau bwyd call ym Mangor neu Gaernarfon?

PostioPostiwyd: Gwe 07 Gor 2006 9:41 pm
gan Cath Ddu
Garnet Bowen a ddywedodd:Os ti ishio dod i nabod dy stec, neu prynnu par o geillia tarw, yna dwi'n cydnabod fod 'na well llefydd na Tesco. Ond dwi'n ddigon bodlon i goginio a bwyta y cig dwi'n ei gael o'r archfarchnad.


Mae 'na rinwedd mewn llawer o'th ddadl ond nid felly o ran cig. Mae bodloni ar gig Tesco fel bodloni ar CD yn lle Vinyl!

Garnet a ddywedodd:Lle yn union? Dwi ddim yn nabod Wrecsam yn dda iawn, ond fedra i ddim meddwl am unman call i brynnu bwyd yng Nghaernarfon. A mae 'na reswm am hyn - mae Caernarfon yn dre ddi-freintedig, a felly toes 'na ddim digon o alw am siopau crand yn gwerthu bwyd "da". Mi gei di fechdan go lew, neu lwmp o gaws, o'r Pantri Cymreig, ond fedri di ddim nol negas wythnos oddi yno. Ac mae'r un peth yn wir am Fangor.

Ac eithrio'r cigydd a'r siop ffrwythau, fedri di enwi unrhyw siopau bwyd call ym Mangor neu Gaernarfon?


Fe fyddwn yn ychwanegu becws at dy restr Garnet, ond fel arall ti'n weddol agos at dy le yn achos Caernarfon. Serch hynny, mae'r tri cigydd yn cynnig gwell cynnyrch na Tesco a hynny am bris cystadleuol a dwi'n prynu llysiau a ffrwythau gan ddosbarthwr o Landwrog sy'n dod i'r drws efo'i fan.

Ar y cyfan serch hynny mae Garnet yn gywir am Gaernarfon.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Gor 2006 10:50 pm
gan Tegwared ap Seion
Da ni'm yn siopa yn Tesco dim mwy, sglyfaths di-egwyddor 'di nhw. Wyddoch chi, ym Mangor pan adeiladwyd y siop newydd, cafwyd siop dros dro mewn pabell. Pan gaewyd yr hen siop roedd bwyd yn y siop newydd yn barod, symudwyd dim briwsionyn o un i'r llall dim ond taflu'r holl fwyd oedd yn yr hen siop. Hefyd, roedd sŵ Bae Colwyn yn arfer cael hen lysiau gan Tesco Bangor. Rŵan tydyn nhw ddim gan ei fod yn rhatach i Tesco daflu'r llysiau. :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 11 Gor 2006 11:29 pm
gan chutneyferret
Garnet Bowen a ddywedodd:
7ennyn a ddywedodd:[


Ges i wyau ffres gan ffrind sy'n cadw ieir yn ddiweddar - be oedd yn anhygoel oedd lliw y melynwy. Roedd yr wy di sgramblo yn oren o'i gymharu â'r melyn llipa, diliw dach chi'n cael o wyau siop.

Faint o amser sy na rhwng dodwy a chyrraedd y siop?