Tudalen 2 o 5

PostioPostiwyd: Mer 12 Gor 2006 8:49 am
gan y mab afradlon
Wy'i wastad yn prynu cig o gigydd y pentref. Mae bach yn fwy ddrud o ran pris y kilogram, ond does dim dwr 'di ychwanegu ato fe. A so'r ham i 'mrechdanau'n cynnwys siwgr ychwanegol. (Soi'n hoffi prynnu cig lle mae rhaid rhestri'r cynnwys ar y paced!) A mae'r holl lot yn dod wedi'i larpio mewn papur.

Roedd y lle ar gau ddydd llun a bu rhaid i fi fynd i Tesco i brynu cig ar gyfer stir-fry. Roedd mwy o ddwr nag o saim yn y ffrimpan pan benais i goginio'r cig...

PostioPostiwyd: Mer 12 Gor 2006 7:06 pm
gan 7ennyn
Garnet Bowen a ddywedodd:
7ennyn a ddywedodd:
Tria brynu wyau 'free range' go iawn - yn ffresh o din yr iar. Dim cymhariaeth hefo wyau ffatri Tesco.


Os 'di Tesco yn gwerthy wyau ffatri wedi eu labelu fel free range yna mae nhw'n torri'r gyfraith. Wyt ti'n honni mai dyna sy'n digwydd?

Paid a chael dy dwyllo! Dim ond dulliau ffatri all gyflenwi wyau ar y raddfa y mae Tesco eu hangen. Yr unig beth sydd yn rhaid i gyflenwyr ei wneud er mwyn cadw o fewn y gyfraith wrth alw eu cynnyrch yn 'free range' ydi bodloni'r amodau llac a ddiffinir gan Gyfarwyddyd y GE ar Les Ieir Dodwy.

Dwi wedi blasu wyau 'value', wyau 'sgubor, wyau 'free range' a wyau 'free range organic' o Tesco ac mae nhw i gyd mor ddiflas a'u gilydd.

PostioPostiwyd: Iau 13 Gor 2006 3:31 am
gan Hen Rech Flin
Un siop sydd yn y Llan 'ma bellach a mewnfudwr bia'r siop, yn hytrach na Chymro lleol. Mae nifer o Gymry lleol yn gweithio yn Tesco'r Gyffordd.

Mae rhan fwyaf o gynnyrch y siop leol (fel siopau y pentrefi cyfagos) yn dod drwy warws Bookers / Happy Shopper - cwmni sydd yn rhoi llawer llai o gefnogaeth i gynnyrch Cymreig nag ydyw Tesco, Asda, Morrison ac ati

Mae fy nyletswydd gyntaf at fy nheulu, ac mae cyllid y teulu yn bwysig imi yn hynny o beth. Hyd yn oed efo neges seml megis torth; llefrith; menyn te a siwgr bydd hyd at £5 o wahaniaeth rhwng pris Siop Llan a phris Tesco. Fel y rhan fwyaf o ben teuluoedd ‘rwy’n fethu fforddio talu y swm ychwanegol yma allan o gyllid y teulu fel elusen i geidwad siop y pentref.

Llongyfarchiadau i deuluoedd Mini Minx, Dili Minllyn a'r Gath Du am y ffawd sydd yn eu galluogi i dalu crocbris fel ffafr i berchenogion y siopau lleol - yn anffodus mae'r rhan fwyaf ohonom yn brin o'u braint. :crio:

PostioPostiwyd: Iau 13 Gor 2006 5:27 pm
gan Tegwared ap Seion
chutneyferret a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:
7ennyn a ddywedodd:[


Bwyd yr iar sy'n rhoi lliw felna - pys melyn mwy na thebyg

PostioPostiwyd: Gwe 14 Gor 2006 9:13 am
gan Dili Minllyn
Garnet Bowen a ddywedodd:Mae hi'n hawdd iawn i bobl yn y Rhath neu (yn achos Simon Heffer) De-ddwyrain Lloegr ganu clodydd y siopau bychain. Ond y gwir ydi fod siopau bwyd bychain, o ansawdd, yn bethau prin iawn yn y "provinces".

Digon teg. Dyna ti wedi cywiro fy rhagfarn ddinesig.

Cath Ddu a ddywedodd:Mae bodloni ar gig Tesco fel bodloni ar CD yn lle Vinyl!

Mynegiant campus. Rwyt ti'n arthylith eiriol, Mr Cath.

PostioPostiwyd: Gwe 14 Gor 2006 5:46 pm
gan 7ennyn
Garnet Bowen a ddywedodd:Mae hi'n hawdd iawn i bobl yn y Rhath neu (yn achos Simon Heffer) De-ddwyrain Lloegr ganu clodydd y siopau bychain. Ond y gwir ydi fod siopau bwyd bychain, o ansawdd, yn bethau prin iawn yn y "provinces". Diolch i Tesco, dwi'n medru prynnu bwydydd diddorol, amrywiol, estron o ansawdd uchel. Tria brynnu bwyd organic, neu fairtrade yn siopau Caernarfon, Bangor, neu Wrecsam cyn mynd ati i gollfarnu Tesco yn ormodol.

Dwi'n byw ym Mhen-y-groes - ydi hynny yn ddigon 'provincial'?

Mae yna fecws ardderchog dros y ffordd, siop drws nesa ond chwech yn gwerthu llysiau blasus lleol, Co-op tua 50 llath i ffwrdd sydd yn gwerthu pob dim 'Fairtrade' dwi angen, cigydd 'top notch' rownd y gornel a Spar sydd yn gwerthu pob math o ddanteithion 'Blas ar Fwyd' a ballu. Ella byswn i'n gwario ychydig yn llai ar fy neges wythnosol 'taswn i'n siopa yn Tesco, ond bysa'r arbedion yn dipyn llai na chost y petrol fyswn i'n ddefnyddio i nol y neges.

PostioPostiwyd: Sul 16 Gor 2006 10:03 am
gan Blewyn
Garnet Bowen a ddywedodd:A mae 'na reswm am hyn - mae Caernarfon yn dre ddi-freintedig, a felly toes 'na ddim digon o alw am siopau crand yn gwerthu bwyd "da".


Ffacin ell ddyn dwi'n rhefru reit aml ar y we am bob math o bethau, ond t'ydw i ddim yn meddwl fy mod erioed wedi contio a damio fel dwi'n teimlo gwneud rwan!! Y rheswm penodol dros dlodi Caernarfon ydy'r union ffacin archfarchnadoedd ti'n rhedeg atynt fel plentyn i'r siop tois !! Hynna a'r ffaith fod y llywaethion sy'n byw yn y dref honno yn mynegi'r un agwedd 'be fedri di neud ia' a chdithau !! Wyt ti ddim yn deall sut mae mer economaidd Caernarfon yn cael ei sugno o'i hesgyrn gan yr archfarchnadoedd ? Ta oes ddim ots gen ti, cyn belled dy fod yn cael dy bot o garlic hummus ?

PostioPostiwyd: Sul 16 Gor 2006 10:11 am
gan Blewyn
Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae fy nyletswydd gyntaf at fy nheulu, ac mae cyllid y teulu yn bwysig imi yn hynny o beth. Hyd yn oed efo neges seml megis torth; llefrith; menyn te a siwgr bydd hyd at £5 o wahaniaeth rhwng pris Siop Llan a phris Tesco. Fel y rhan fwyaf o ben teuluoedd ‘rwy’n fethu fforddio talu y swm ychwanegol yma allan o gyllid y teulu fel elusen i geidwad siop y pentref.

Hei cadwa dy sob storis, a pan mae bywyd dy bentref wedi marw heblaw am y ganolfan diwaith a'r pyb, cadwa nhw dro hynny hefyd.

PostioPostiwyd: Sul 16 Gor 2006 10:12 pm
gan Hen Rech Flin
Blewyn a ddywedodd:Hei cadwa dy sob storis, a pan mae bywyd dy bentref wedi marw heblaw am y ganolfan diwaith a'r pyb, cadwa nhw dro hynny hefyd.


Y sawl sydd yn wylo dros ddyfodol y siopau bach, ac yn disgwyl i deuluoedd cyffredin eu cadw ar agor o herwydd rhyw ddyletswydd foesol sydd yn euog o greu sob story.

Mae archfarchnadoedd yn ffaith. Does dim modd troi'r cloc yn ôl i'r dyddiau pan nad oeddynt yn bod. Pe bai holl archfarchnadoedd Caernarfon yn cau lawr fory nesaf, bydda wragedd ty'r dref ddim yn troi yn ôl i arferion siopa'r dyddiau a fu. Mi ant yn eu ceir i Fangor, Llandudno neu Gaer i chwilio am archfarchnad. Yr unig ffordd i sicrhau bod marchnata yn parhau mewn trefi megis Caernarfon yw trwy sicrhau bod y cwmnïau mawr yn cael caniatâd i adeiladu eu siopau yn y dref.

Onid rhagrith yw i unigolyn sy'n byw ym Mahrain (er lles ei incwm personol, mae'n debyg) cyhuddo pobl o Gaernarfon sydd yn siopa yng Nghaernarfon o fod yn llywaeth am ddefnyddio eu harchfarchnad leol er lles eu hincwm teuluol?

PostioPostiwyd: Llun 17 Gor 2006 6:07 am
gan Blewyn
Hen Rech Flin a ddywedodd:
Blewyn a ddywedodd:Y sawl sydd yn wylo dros ddyfodol y siopau bach, ac yn disgwyl i deuluoedd cyffredin eu cadw ar agor o herwydd rhyw ddyletswydd foesol sydd yn euog o greu sob story.

I'r gwrthwyneb - ddim dyletswydd moesol rhamantaidd ydy cynnal bywyd economaidd a chymdeithasol pentref, ond cyfle i sefyll fel cymuned annibynnol. Ddim ymarferiad ydy bywyd HRF ! Os na wneith pobl fel chdi (ennillwyr y bara beunyddiol a chynhalwyr teulu a chymdeithas) wneud ymdrech, wneith neb, a chi gollith allan, neb arall.
Mae archfarchnadoedd yn ffaith. Does dim modd troi'r cloc yn ôl i'r dyddiau pan nad oeddynt yn bod.

Nonsens llwyr. Y cwbl sydd angen yw i gynghorwyr lleol gymryd cyfrifoldeb dros fywyd economiadd tymor-hir eu tiriogaeth ac i bobl fel chi gynnal y rhai sydd yn ymdrechu i ddod a gwasanaethau i'r pentref. Os ydy prisiau'r siop gornel yn uchel, dweud wrth y perchennog pa bris fysat fodlon talu, h.y. gadael iddo wybod fod dy fusnes ar gael, am y pris iawn. Neu ella dy fod eisiau rhyw nwydd neu wasanaeth alla fo gyflenwi ?
Pe bai holl archfarchnadoedd Caernarfon yn cau lawr fory nesaf, bydda wragedd ty'r dref ddim yn troi yn ôl i arferion siopa'r dyddiau a fu. Mi ant yn eu ceir i Fangor, Llandudno neu Gaer i chwilio am archfarchnad. Yr unig ffordd i sicrhau bod marchnata yn parhau mewn trefi megis Caernarfon yw trwy sicrhau bod y cwmnïau mawr yn cael caniatâd i adeiladu eu siopau yn y dref.

Mae'r ddadl hyn mor llwath a mor ddiog a mor isel ei amcan t'ydwi ddim yn gwybod lle i ddechrau. Dyma ateb syml i lawer o broblemau Caernarfon - cau bob archfarchnad, a mynnu fod cwmniiau twristiaeth yn gwneud ymdrech sylweddol i arwain eu cwsmeriaid o gwmpas y dref o fewn y waliau yn ogystal ac o gwmpas y castell. Mi ryfeddat mor fentrus fydd pobl y dref pan ddaw gwacter yn y farchnad cyflenwi bwyd....
Onid rhagrith yw i unigolyn sy'n byw ym Mahrain (er lles ei incwm personol, mae'n debyg) cyhuddo pobl o Gaernarfon sydd yn siopa yng Nghaernarfon o fod yn llywaeth am ddefnyddio eu harchfarchnad leol er lles eu hincwm teuluol?

Dwi'n siopa mewn nifer o siopau bychain lleol am bob math o bethau, ac yn cyfrannu i'm economi lleol. Wrth gwrs mae'n anodd peidio mewn gwlad fechan fel hon, gan fod yr economi dan reolaeth y teulu sy'n rheoli, ac felly yn cael ei gadw'n dynn i'r ynys, ond y pwynt yw y dylia pobl Cymru ddeffro o'u cwsg a gwneud yr un peth - rhedeg economi Cymru er lles Cymru, a hynny o'r top (prif weinidog a llywodraeth yng Nghaerdydd rhyw ddydd inshallah) i lawr drwy cynghorwyr i'r gwaelod - pobl cyffredin sy'n rheoli eu bywydau eu hunain, fel chdi.