Tudalen 1 o 1

Bil Hawliau Cameron

PostioPostiwyd: Iau 29 Meh 2006 1:48 pm
gan sanddef
Testun araith David Cameron AS

A fydd hyn yn codi ffrae efo Brwsel? A fydd hawliau "Prydeinig" yn cynnwys hawliau iaith? A hawliau Cymru fel cenedl? Ydy Cameron yn siarad lol? Be' di eich barn chi?

Re: Bil Hawliau Cameron

PostioPostiwyd: Iau 29 Meh 2006 2:03 pm
gan gronw
sanddef rhyferys a ddywedodd:A fydd hawliau "Prydeinig" yn cynnwys hawliau iaith?

ww, cwestiwn diddorol! heb glywed na darllen lot am y syniad ma gan dai cameron eto, felly sgen i ddim llawer o farn. ond os gwnawn nhw hyn, dwi'n siwr mai dim ond lles y bydde hynny'n gneud i'r Gymraeg ac i Gymru. achos os oes unrhyw gyfeiriad at iaith er enghraifft (er mwyn cadw'r 'holl' fewnfudwyr i brydain yn eu lle), bydd yn anodd iawn peidio crybwyll y Gymraeg hefyd (fel sylwodd blyncet pan geisiodd roi gofynion 'english language skills' i fewnfudwyr)

PostioPostiwyd: Gwe 30 Meh 2006 10:48 am
gan sanddef
Dyma ddau ymateb Ceidwadol diddorol i'r syniad:

Ken Clarke a ddywedodd:Xenophobic and legal nonsense


(Gweler)

Michael Portillo a ddywedodd:Clumsy