Adolygiad ynni o blaid Ynni Niwclear

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Adolygiad ynni o blaid Ynni Niwclear

Postiogan Tegwared ap Seion » Maw 11 Gor 2006 9:30 pm

O'r diwedd!

Gobeithio bydd pethau'n dechra symud tuag at Wylfa B rŵan. Erthygl Saesneg gan y BBC am yr adolygiad ac Ynni Niwclear.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan huwwaters » Maw 11 Gor 2006 10:15 pm

Diangen.

Er dwi heb dim yn erbyn ynni niwclear, byse gwario'r un nifer o bres ar gynlluniau i arbed ynni yn lle ei wastraffu yn cael mwy o effaith.

Ma pobl fel nPower wedi cyfaddef hyn mewn cyfarfod cyhoeddus. Bwriad nhw yw codi fferm melinnau gwynt ffwrdd arfordir Llandudno. Gofynnodd fy nhad os byse nhw'n gwario'r un pres ar arbed ynni byse ni o ganlyniad efo mwy i'w hennill? Yr ateb oedd ie.

Mae fel Awdurdod Dwr Tafwys yn gofyn am mwy o gronfeydd dwr i fwydo eu rhwydwaith, pan yn barod ma 50% yn cael ei golli mewn gollyngiadau.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan huwwaters » Maw 11 Gor 2006 10:22 pm

Gai hefyd ychwanegu pwynt gododd y papur newydd The Independent sydd wedi gohebu bod mabwysiadau cammau fel newid i fylbiau golau effeithlon am arben 16,000,000,000 tunnell o CO2 a mwy na £1,300,000,000,000 mewn pres dros y 25 mlynedd nesaf.

The simple use of current technology could have a dramatic impact on global warming, if only we would adopt it. The low-energy light bulb and other efficient lighting systems could prevent a cumulative total of 16 billion tons of carbon from being added to the world's atmosphere over the next 25 years, according to a report by the International Energy Agency.

The agency said it would not need any technology that is not already widely available and - far from costing money - it would save more than £1,300bn. The light used for homes and offices is a major cause of climate change and also creates "light pollution", which means that city children grow up never seeing the stars.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Rhods » Gwe 14 Gor 2006 2:31 pm

Newyddion da i Wylfa ac i economi Sir Fon a Chymru. Ar diwedd y dydd, mae'n iawn i trendi lefftis dosbath canol CND, mynd ymlaen am 'Free Niwclear' a bod nhw yn erbyn y datblygiadau angenrhediol sydd eu hangen ar gyfer y blyynyddoedd nesa, ond y realiti yw fe fydd yna llawer yn colli eu gwaith yn Sir Fon sa CND yn cael eu ffordd .Fe fydd hyn yn drychineb i'r economi. Y gwirionedd yw ma brigad y CND yn bobl lwcus iawn - gyda'u bywydau moethus cosmopolitan, mae'n iawn iddyn nhw mynd o gwpas a trefnu ralis am 'Achub y Byd',a byw mewn rhyw ffantasi, ond NI fydd y bobl ma byth mewn sefyllfa i wynebu diweithdra ac ansicrwydd bywyd, fel bydde gweithwyr Wylfa, sa gweledigaeth a polisiau CND yn cael ei weithredu.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan Macsen » Gwe 14 Gor 2006 3:16 pm

Welodd unrhyw un y rhaglen yma ddoe, oedd yn dadlau bod perygl ymbelydredd wedi ei orliwio'n gyfan gwbwl, a bod ychydig bach o ymbelydredd yn dda i'r corff?

Dyma grynodeb. Petai hyn yn wir byddai'r Prif Weinidog yn cael lot llai o drafferth argyhoeddi pobol Ynys Môn bod angen gorsaf niwclear newydd yno.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan huwwaters » Gwe 14 Gor 2006 3:38 pm

Macsen a ddywedodd:Welodd unrhyw un y rhaglen yma ddoe, oedd yn dadlau bod perygl ymbelydredd wedi ei orliwio'n gyfan gwbwl, a bod ychydig bach o ymbelydredd yn dda i'r corff?

Dyma grynodeb. Petai hyn yn wir byddai'r Prif Weinidog yn cael lot llai o drafferth argyhoeddi pobol Ynys Môn bod angen gorsaf niwclear newydd yno.


Ma nifer o bobl sydd wedi bod yn mynychu i ddyfroedd Baden Baden yn yr Almaen yn deud bod nhw'n teimlo gwellhad fawr i'w cyrff. Ma'r dwr yma yn cynnwys Radon. Lefelau isel o Radon.

Cawn hefyd gofio fod ystadegau'n dangos bod llefydd fel Penmaenmawr sydd efo lefelau uchel o Radon gyda mwy o bobl yn dioddef o bethau fel Leukaemia; anifeiliad yn ogystal a phobl.

Pathetig yw'r ddadl o tynged y byd yn erbyn swyddi. Os chisio rhoi pethe fewn i gyd-destun fedrwn ni hefyd trafod fod damweiniau ffyrdd yn codi'r GDP.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan gronw » Gwe 14 Gor 2006 4:47 pm

Macsen a ddywedodd:Petai hyn yn wir byddai'r Prif Weinidog yn cael lot llai o drafferth argyhoeddi pobol Ynys Môn bod angen gorsaf niwclear newydd yno.

gwir. mae'r amseru yn anhygoel...
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm


Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 37 gwestai

cron