Mae'r Byd yn Wallgof: ymddiswyddo am gusanu merch

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan joni » Gwe 14 Gor 2006 2:56 pm

HBK25 a ddywedodd:Hefyd, mi fuasech yn cael mamau tew mewn tracsiwts yn llusgo'u plant i brostestio hefyd. :ofn: :?:

Gan amlaf wedi camsillafu'r gair paedophile ar eu placards hefyd. Sai'n amddiffyn paedo's o gwbl. Jyst rhai weithiau mae pethau'n rhy gormod.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Dili Minllyn » Sad 15 Gor 2006 6:22 pm

Dwi'n meddwl bod y pryder am bethau fel hyn wedi mynd yn llawer rhy bell. Mi gafodd y meibion (1 oed a 3 oed) eu hala mas o bwll padlo cyhoeddus ar ddiwrnod chwilboeth o heulog gwpl o wythnosau'n ôl am fod yn noeth. (Roedd arwyddion wrth y pwll ymhob man hefyd yn gorchymyn pobl i beidio â ffilmio na thynnu lluniau.)

Roedd gadael i blant bach badlo'n noeth yn beth digon cyffredin pan o'n i'n blentyn ddechrau'r '70au, a dwi'n siwr bod llawn cymaint o bedoffiliaid pryd hynny ag sydd nawr.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Re: Mae'r Byd yn Wallgof: ymddiswyddo am gusanu merch

Postiogan Blewyn » Sul 16 Gor 2006 9:35 am

HBK25 a ddywedodd:Yn nifer o bapurau newydd heddiw, cafodd ficer o Tam orth o'r enw Alan Barret ei reportio i'r heddlu am roi cusan ar foch merch yn yr ysgol lle mae'n llywodraethwr


T'ydy hyn ddim yn golygu fod cusanu merch ar y foch yn erbyn y gyfraith.....dim ond fod rhywun yn ddigon hysterig i alw'r heddlu. Tawaeth, mae'r dyn wedi camweddu un o reolau ei weithle, yn union fel petae gwesteiwraig awyren yn rhoi snog fawr i mi yn fy sedd tra'n fflio. Mi fysa hithau yn colli ei gwaith, a yn yr un modd mi gymodd y dyn y penderfyniad iawn. Yr unig wahaniaeth yw na fyswn i wedi galw'r heddlu.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Mali » Sul 16 Gor 2006 10:20 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dw i'n meddwl ei fod yn drist iawn, iawn bod y byd wedi cyrraedd y ffasiwn stad.


Ydi mae o . Does 'na ddim diniweidrwydd mwyach, ac mae rheolau o bob math yn troi rhywbeth fel cusan ar foch yn weithred budr.
Oes , mae isho diogelu y plant rhag y bobl ddrwg , ond mae gen i ofn ein bod wedi mynd yn rhy bell.
:(
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 35 gwestai

cron