Na, nid eu dosbarthu o gwmpas y lle, ond eu dosbarthu yn ôl faint mor ddrwg ydyn nhw i chi.
Mae grwp o Aelodau Seneddol (y Science Select Committee) wedi edrych eto ar system dosbarthu (classification) cyffuriau Prydian gan ffurfio tabl o gyffuriau gan eu rhestru yn ôl trefn niwed.
Yn ddigon o syndod (i'r prevailing thought efallai) mae alcohol a thybaco wedi dod yn llawer uwch nac LSD a Ecstasy, er fod y ddau diwethaf yn gyffuriau "Dosbarth A" a thybaco ac alcohol heb ddosbarthiad o gwbl.
Ddylai'r llywdoraeth newid y system ddosbarthu hynafol hwn? Neu ydi o'n gwneud synnwyr i ail ddosbarthu cyffuriau yn ôl y raddfa hwn gan gynnwys alcohol a thybaco? Neu a oes angen dosbarthu o gwbl? Ydi hi'n well cael dim rheolaeth ar gyffuriau?