Sdim byd yn well na plismon Almaeneg yn rhoi yffarn o glowt gyda'i trunchen i hwligan Lloegr...yes...get in!!!!
Ond o weld y rhaglen, o ni yn gweld coppers Almaen yn sofft iawn!!!
O edrych ar y rhaglen, nid ydym yn sylwi y gwaith caled ma plismyn yn neud, ar ffaith eu bod yn rhoi eu bywydau mewn risg (son yn gyffredinol ydw i am coppers). Ma plismyn ni yn gwneud gwaith gwych mewn gemau pel droed, dwi yn teimlo. Mae yna lot fwy o gyfathrebu rhwng y ffans a'r heddlu. Oce, falle odd y cops bach yn heavy handed yn y gorffennol - ond nawr, dwi yn teimlo eu bod wedi gwella ac yn gwneud job da iawn. Es i i dros 20 o gemau oddi cartre llynnedd gyda'r Swans ac odd yr heddlu yn gret ym mhob un gem. Pam aethon, ni i Notts Forest cawsom ni police escort o'n bws mini i'r tafarn le odd ffans Abertawe yn ymgynnull!!! Gwych - yr heddlu yn amddiffyn ac yn gwarchod y cyhoedd.
A dwi yn cefnogi yn llwyr eu gweithredoedd yn erbyn hwliganiaid pel droed. Os ma ffans yn creu trwbwl - ma hwnnw yn haeddu clowtan - itha reit weda i, dysgu gwers i'r diawled!!
Diolch byth ma pethe llawer gwell gyda ffans Cymru. Oni bai am ffans Caerdydd yn mynd ar y rampage yn Wolves llynnedd, odd pethe yn dawel y tymor diwethaf. Trist, er hynny, oedd clywed am ffans Caerdydd yn ymuno a brigad hwliganiaid Lloegr yn Cwpan y Byd ac ymosod ar Almaenwyr diniwed a oedd yn cynnyws menywod a phlant.