Daffyd a ddywedodd:Macsen a ddywedodd:Rhaglen braidd yn ddibwynt
Ma huna'n bolycs llwyr.
Dwi'n gwbod fod na blant yn marw o AIDS yn Affrica fyd, ond os fysa na raglen awr am y peth dwi'n siwr fysw ni yn gwybod mwy am y peth, ac hefyd lot mwy o bobl yng ngweddill y DU. Ac yr un peth am y rhalgen yma. Ma na lawer, yn cynnwys fi, yn gwbod ffyc ol am betha felma.
Roedd y rhaglen yma yn agoriad llygad, nid yn unig i mi, ond i llawer o bobl eraill dwi'n siwr.
Macsen, ti'n deud dy fod yn gwybod bod na hwligans yn cwpan y byd, felly rhaglen dibwrpas. Nage. Pwrpas y rhaglen yma oedd dangos nad oedd, yn y bon, llawer o wahaniaeth rhwng hwliganiaeth saesneg yn 2006 nac oedd na mewn cwpanau eraill.
Achos dwnim faint o weithiau aeth y newyddion cyffredinol esbonio i'r cyhoedd bod ffans lloegr yn bahafio llawer gwell na erioed oblaen, gan bwyntio allan bod na fwy o deuluoedd o Loegr yn troi fynu i'r gwledydd i fwynhau'r holl beth sydd yn lleihau'r trwbwl. Hyn yn wir mewn ffordd. Be wnaeth y rhaglen ddangos oedd bod yr un math o wancars yna yn eu canoedd fel bob cwpan arall wrthi. Doedd hyn ddim yn sioc i chdi, na finna chwaith a dweud y gwir(er fy mod i ddim yn disgwl iddyn nhw fod mor ddrwg). Ond siwr i ti, roedd nifer o Loegr yn meddwl, ac yn falch, bod ffans Lloegr wedi byhafio drwy'r twrnament, well na erioed o'r blaen. Ond nath rhaglen neithiwr yn dda iawn i gwrthbrofi hynnu.
Joni a ddywedodd:Hwn oedd y scrawny little shit yma oedd yn gwawdio cefnogwr Brasil am ddim rheswm.
Oedd pob ffan Lloegr tu ol iddo yn neud yr un peth. Criw gyfan o fongs. A be oedd ymateb nhw pan aeth ffans Brasil atynt yn HOLLOL gyfeillgar? Dwyn y fflag a trio losgi fo. Sgym llwyr.
Ac am y boi ti'n son, Joni: Galw'r dyn camra yn "scumbag" am ffilmio y ffans Lloegr.
Pwy aeth weld yr Almaenwr na oedd yn trefnu ffeit ac yn flin achos bod na ddim ffeit wedi digwydd? Y peth gwaetha am hynnu oedd nid oedd yn edrych fel hwligan o gwbl.