Pan mae unigolion yn hollol euog o droseddau yn ymwneud hefo’r pwnc hyn mae’n ffiaidd wrth gwrs, ac maen’t yn haeddu pob cosb sy’n dod.
Ond fel mae HBK25 yn son mae’n anodd erbyn hyn gwybod pwy sy’ wir yn euog a pwy sy’n cael eu dal fynnu yn hollol ddiniwed fel mewn myrdd o engrheifftiau diweddar.
Dim ond i rhywyn neu rhywrau grybwyll y gair
p… dyddie ‘ma, ma’r paranoia’n cicio mewn ac mae rhywyn wedi’i barddio ac yn euog, gyda’r amheuon wedi glynnu am oes, arf peryglus iawn.
Fel yn yr engraifft
yma os yw’r unigolyn yn euog, iawn mae’n haeddu cosb, ond galwch fi’n sinig ond handi iawn fod y pethau hyn wedi digwydd troi fynny yn union pan oedd yr unigolyn yn ystyried herio’r gyfraith yn y llys am esgeulustod ar raddfa go uchel.
Gobeithio nad yw cam ddefnydd o gyhuddiad o’r fath yn cael ei ddefnyddio fel arf newydd mewn modd i bardduio unigolion, pan nad oes dim arall yn sticio.
Mae’n hala chi feddwl yn tydy.