Mae cylchgrawn Country Life (nid fy newis gylchgrawn fel arfer, ond mae eisiau bod yn effro i bob dylanwad, on'd oes?) wedi cyhoeddi Maniffesto Cefn Gwlad.
Dwi'n meddwl y galla' i gytuno â phwyntiau 1, 3, 8, 9 a 10 yn rhwydd ; ddim mor siwr am 7 ; a dwi ddim gwybod beth yw ystyr 4.
Mae pwynt 8 yn arbennig o bwysig (er ei fod yn swnio'n eitha diflas): mi gododd y Torïaid y Dreth ar Werth ar atgyweirio adeiladau yn aruthrol yn yr 1980au, gan eu gwneud yn rhatach codi adeiladau newydd yn aml, gan arwain yn ei dro at esgeuluso llawer o hen dai hyfryd a'u gadael i adfeilio.
Maniffesto Country Life
1. Gorfodi'r siopau mawr i lenwi o leiaf 10% o’u silffoedd â bwyd lleol.
2. Gwersi cefn gwlad mewn ysgolion.
3. Mwy o fuddsoddi mewn tanwydd gwyrdd.
4. Datganiad cynllunio i bob pentref a sir.
5. Dod â phlismyn lleol yn ôl i bentrefi.
6. Diogelu awyr y nos rhag llygredd goleuni.
7. Difa'r wiwer lwyd, y minc, a chimwch afon America.
8. Cysoni Treth ar Werth yn 5% ar adeiladau newydd ac atgywerion.
9. Mesurydd dŵr i bob tŷ.
10. Gwahardd bagiau siopa plastig.