HBK25 a ddywedodd:Dydi gwyl ddim y lle gorau i roi cyngor diogelwch tan beth bynnag.
Pam? Mae nhw'n gwneud yr un fath o beth yn yr Eisteddfod. Os fase dynion tân yn gwrthod gweithio yn yr Eisteddfod oherwydd bod nhw'n wrth-Gymraeg, byddet ti'n cefnogi eu safiad?
HBK25 a ddywedodd:ond testun sbort basa'r dynion yma wedi bod tase nhw mynd yna.
Ow cym on, ti'n teimlo trueni dros y dynion tân bach sensitif, methu cymryd chydig bach o dynnu coes?
Dwi di gweld stondin gan y fyddin ym Mardi Gras Caerdydd, gyda milwyr mewn iwnifform yn ceisio darbwyllo pobl i ymuno â'r lluoedd arfog. Roedd yn olygfa diawledig o od, ond weles i neb yn rhoi trafferth iddyn nhw. Roedd y milwyr yn mwynhau'r sylw dwi'n meddwl!
Os di'r fyddin digon meddwl-agored i wneud hynny, dwi'm yn gweld be di'r brolem efo'r gwasanaeth tân.