Mae'r un ddadl ar y fforwm sonwyd amdano eisioes. Does neb yn sôn yma am sgwotio mewn tai lle mae pobl yn byw, ond sgwotio mewn ail dai pobl cyfoethog, tai sy wedi mynd mas o gyrraedd pobl lleol.
Dydy Rent Free Cornwall ddim yn sôn am ddenu "hipis" i mewn i Gernyw er mwyn sgwotio'r tai haf 'ma am dipyn o hwyl, ond am bobl lleol Cernyw symud mewn i dai sy'n eistedd yn wag am y rhan fwya o'r flwyddyn.
Falle dy fod di'n anghytuno â fe fel tacteg, ond dyw sgwotio ddim yn anghyfreithlon ynddo ei hunan, ac mae'r blog yn ofalus iawn i beidio annog pobl i dorri'r cyfraith.