Y peth mwya diddorol ydi bod y Daily Mail wedi torri'r rheol anonymity gan roi clamp o lun ohoni ar y blaen. Hyd yn oed os ei gwyneb hi o'r golwg mae hyn dal yn erbyn y gyfraith.
Dwi'n meddwl mai'r unig ateb ydi fod y sawl sy'n cael ei gyhuddo hefyd yn aros yn ddi-enw hyd nes mae wedi ei brofi yn euog. Ar hyn o bryd, mae'r system yn anghytbwys ac yn cynyddu'r siawns o gyhuddiad ffug.
Ers Criminal Justice Act 1988 does dim anonymity i'r diffynnydd, ond fydd papur yn amal iawn ddim yn datgelu'r enw achos mi all enwi'r diffynnydd arwain at amlygu enw'r dioddefwr, er engraifft pan bod gwr yn treisio gwraig.
Dwi'n meddwl ei fod o'n ddigon teg bod anonimity y ddynes yn parhau er na gafodd y boi ei gael yn euog. Os na fyddai'r gyfraith yn cynnig anonimity tan farwolaeth fyddai nifer o ferched sydd wedi dioddef trosedd rhywiol heb y dewrder i ddod ymlaen a cyhuddo rywun.