Blewyn a ddywedodd:rooney a ddywedodd:Os am dorri'r undod a Lloegr... lle mae'r trethi am ddod o i ariannu'r holl swyddi sector cyhoeddus + budd-daliadau yng Nghymru?
Oddiwrth yr incwm treth mawr fysa'n llifo oddiwrth y busnesau newydd yn symud i mewn i Gymru ar ol i'r llywodraeth ostwng costau busnes - ac wrth gwrs drwy dalu llai iddynt (y sector gyhoeddus, hy). Torri'r cot yn ol y brethyn ynte ?
Sori Blewyn, ond dwi ddim yn deall dy ddadl di - ti'n son am ostwng costau busnes i gael cwmniau i symud mewn i Gymru, ond yn yr un frawddeg rwyt ti'n son am eu trethi nhw. Os wyt ti yn mynd i ostwng costau busnes, yna dwi ddim yn gweld fod gen ti lawer o sgop i'w trethi nhw (dwi ddim yn siwr, ond dwi'n credu ei bod hi'n gam eitha cyffredin i gynnig cynnifer o flynnyddoedd yn dreth-rydd i gwminau sy'n budsoddi). Mae hefyd yn wir fod polisiau llywodraeth Prydain
ar y funud yn rai o'r rhai mwyaf ffafriol yn y byd tuag at fusnesau, felly dwi ddim yn gweld pa sgop fyddai gan Gymru annibynnol i ddenu mwy o fudsoddiad.
Ti hefyd yn son am dalu llai i'r sector gyhoeddus - gan gydnabod y byddai gwasanaethau Cymru yn derbyn llai o fudosddiad wedi torri'r undod a Lloegr. Dyw hyn ddim yn swnio fel trade off da i mi.
Fy mhrif broblem economaidd gyda torri'r undeb a Lloegr (neu Prydain) yw'r cwestiwn o 'comparative advantage'. Yr un diwydiant (ar y funud) lle mae gan Brydain fantais dros gystadleuwyr eraill yw'r diwydiant gwasanaethau ariannol. Mae'r manteision yma wedi ei ffurfio ar brofiad, gwybodaeth a hyfforddiant, yr iaith Saesneg, a lleoliad daearyddol (o ran timezones), ac wedi ei ganoli ar 'y ddinas' yn Llundain. Does gan Gaerdydd ddim i'w gymharu a hyn, felly rwy'n poeni beth sydd gan economi Cymru i'w gynnig i'r byd (ar werth fel petai) y tu hwnt i sector gynhyrchu fach (sy'n gorfodbrwydro'n ddyddiol i aros yn gystadleuol).