Cadw'r Undod a Lloegr

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan rooney » Sul 14 Ion 2007 5:32 pm

Fydd hi yn anodd i Gymru begera ar yr Undeb Ewropeaidd am arian- bydd gwledydd newyddd yr UE yn cael blaenoriaeth.
Pa fusnesau sydd wedi beio aelodaeth Cymru o'r DU fel rheswm i beidio symud yma?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Blewyn » Sul 14 Ion 2007 6:14 pm

Huw T a ddywedodd:Sori Blewyn, ond dwi ddim yn deall dy ddadl di - ti'n son am ostwng costau busnes i gael cwmniau i symud mewn i Gymru, ond yn yr un frawddeg rwyt ti'n son am eu trethi nhw.

Gostwng = lleihau, nid dileu. Mi fysa trethi is yn hybu busnes i ddatblygu, a mi fysa datblygiad mewn busnes (yn enwedig busnes yn allforio a troelli arian tu fewn i economi Cymru) yn arwain at gynydd mewn incwm treth i'r wlad. Y tric wrth gwrs yw gosod lefel sy;n mynd i gyflawni hyn heb lewygu'r wlad yn y proses - ond dyna pam ti'n cyflogi economwyr/wragedd.

Y pwynt sylfaenol yw y gallwn ddewis polisiau economaidd ar gyfer economi Cymru, yn hytrach na gorfod boddhau efo polisiau economiadd sydd o reidrwydd yn cael eu ffurfio at anghenion Lloegr.

Huw T a ddywedodd:(dwi ddim yn siwr, ond dwi'n credu ei bod hi'n gam eitha cyffredin i gynnig cynnifer o flynnyddoedd yn dreth-rydd i gwminau sy'n budsoddi).

Ddim o reidrwydd. Os oes arian i'w wneud, mi fydd rhywun yn barod i'w wneud o. Y sialens yw i agor y drws. Fedr llywodraeth Prydain ddim gwneud hyn, gan nad oes ganddynt y rhyddid i addasu polisiau Prydeinig i siwtio Cymru yn arbennig.
Huw T a ddywedodd:Mae hefyd yn wir fod polisiau llywodraeth Prydain ar y funud yn rai o'r rhai mwyaf ffafriol yn y byd tuag at fusnesau, felly dwi ddim yn gweld pa sgop fyddai gan Gymru annibynnol i ddenu mwy o fudsoddiad.

Petae hyn yn wir, mi fysa'r lle yn orlif mewn buddsoddiadau. Y peth ydy, t'ydy buddsoddiadau ddim bob tro er lles yr economi lleol - ddim pwynt cael busnes llwyddiannus os ydy'r elw i gyd yn llifo allan o;r economi. Yn wir, gall fod yn wrth-gynhyrchiol. Y pwynt yw i fagu economi hunan-gynhaliol ar sail diwydiannau naturiol addas i Gymru, a cheisio magu diwydiannau newydd.
Huw T a ddywedodd:Ti hefyd yn son am dalu llai i'r sector gyhoeddus - gan gydnabod y byddai gwasanaethau Cymru yn derbyn llai o fudosddiad wedi torri'r undod a Lloegr. Dyw hyn ddim yn swnio fel trade off da i mi.

Cwbl dwi'n ddweud udu fod rhaid i wlad dorri ei got yn ol ei frethyn. Os ydy hynny'n golygu fod rhaid i bobl Cymru dderbyn y lefel gwasanaeth fedr y wlad afforddio, a'r cyflogau fedr y wlad afforddio, dyna fo. Efallai fod yna ormod o fwrdwn sector gyhoeddus ar Cymru, i gymharu a gweddill Prydain ?
Huw T a ddywedodd:Fy mhrif broblem economaidd gyda torri'r undeb a Lloegr (neu Prydain) yw'r cwestiwn o 'comparative advantage'. Yr un diwydiant (ar y funud) lle mae gan Brydain fantais dros gystadleuwyr eraill yw'r diwydiant gwasanaethau ariannol. Mae'r manteision yma wedi ei ffurfio ar brofiad, gwybodaeth a hyfforddiant, yr iaith Saesneg, a lleoliad daearyddol (o ran timezones), ac wedi ei ganoli ar 'y ddinas' yn Llundain. Does gan Gaerdydd ddim i'w gymharu a hyn, felly rwy'n poeni beth sydd gan economi Cymru i'w gynnig i'r byd (ar werth fel petai) y tu hwnt i sector gynhyrchu fach (sy'n gorfodbrwydro'n ddyddiol i aros yn gystadleuol).

Yn ol dy ddisgrifiad mae Cymru cael ei lywodraethau dan gyfundrefn economaidd sydd wedi ei addasu at economi sydd wedi ei danseilio gan wasanaethau ariannol (a hefyd olew). D'oes dim o hyn yn elwa Cymru. Yn wir, mae Cymru yn colli allan achos mae'r effaith ar brisiau tai a thir yn golygu fod yna fewnlifiad o bobl 'economically inactive' - sef pobl wedi ymddeol ac 'economic refugees' yn chwilio am fywyd rhatach - sydd yn llewygu'r economi, a pobl di-Gymraeg eu hiaith, sy'n llewygu'r economi ddiwylliannol Gymraeg. Mae gan Cymru botensial mawr iawn fel gwlad sy'n cynhyrchu bwyd o safon uchel, cyflenwi gwasanaeth twristiaeth uchel, a pwy a wyr efallai ffendiwn ni olew ym Mor yr Iwerydd rhyw ddydd... ond er mwyn magu diwydiannau fel hyn, mae RHAID gyrru economi Cymru yn y cyfeiriad priodol, gyda pholisiau penodol, nid polisiau sy'n benodol i Lloegr gyda Cymru'n gorfod gobeithio am y gorau.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Blewyn » Sul 14 Ion 2007 6:19 pm

rooney a ddywedodd:Fydd hi yn anodd i Gymru begera ar yr Undeb Ewropeaidd am arian- bydd gwledydd newyddd yr UE yn cael blaenoriaeth.

Bydd. Gwell i Gymru ddechrau meddwl am sut i sefyll ar ei draed ei hun felly yntydi ?
Huw T a ddywedodd:Pa fusnesau sydd wedi beio aelodaeth Cymru o'r DU fel rheswm i beidio symud yma?

Pob busnes sy'n ennill elw yn Nghymru a prif swyddfa yn Llundain, achos mae absenoldeb llywodraeth yng Nghaerdydd yn golygu nad oes rheswm iddyn nhw fod yno.

Petae SkyTV yn gwerthu eu gwasanaeth i Gymru annibynnol, fysa na fwy, neu lai o weithwyr Sky yng Nghymru ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan y mab afradlon » Sul 14 Ion 2007 8:46 pm

Dadleuon difyr gan Blewyn.

Yn gryno, byddai Cymru byth yn gallu ennill annibyniaeth ariannol fel mae hi, oherwydd nad yw hi'n annibynol ar hyn o bryd. Ry'n ni'n dubynnu ar arian Lloegr oherwydd ei fod e yno, a nad oes unrhyw ysgogiad i ni drio ariannu'n hunain, a nad oes hyd yn oed modd mesur os ydyn ni'n ariannu'n hunain.

Beth yw gwerth dwr, nwy (gyda'r bibell newydd), elw cwmniau sydd a changen yng Nhgymru (Tesco ac ati, Interbrew, Texaco ayb ayb)... Beth yw cyfraniad trethdalwyr at wasanaethau militaraidd Lloegr? Faint sy'n dod nol mewn cyflogau ac ati?

Faint o bensiynwyr o Loegr sy'n defnyddio gwasanaethau Cymraeg oherwydd eu bod nhw wedi symud yma?

Mae gymaint o gwestiynau fel hyn yn codi unwith i chi geisio gwneud y symiau, mae bron yn amhosib amcangyfrif gwerth economi Cymru.

Wedi dweud hynny, mae'n gwbl sicr y gallen ni fyw fwl gwlad annibynol. Beth sy'n ansicr yw, a fyse ni'n gweld cwymp yn ein safon o fyw? Ac ar ba mesurau?
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Postiogan Nanog » Sul 14 Ion 2007 9:02 pm

Wrth wrando ar rai yma sy'n amau a allai Gymru lwyddo, mi allen feddwl taw darn o dir ar Tierra del Fuego yw. Mae'n wlad sydd a digon o ddwr, tir amethyddol eitha da, prydferth ac yn dennu twristiaid, lefel eitha da o addysg, gwledydd llewyrchus bob ochr iddi sy'n golygu marchnadoedd, glo dan y ddaear, digon o gyfle ar gyfer creu ynnu adnewyddol fyd......ayyb ayyb. Yr unig un peth sydd angen arni......asgwrn cefn!
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Geraint Edwards » Sul 14 Ion 2007 10:20 pm

Nid yn unig asgwrn cefn (sydd yn gwbl greiddiol gyda llaw!), ond hefyd uchelgais. Mae'n destun cywilydd o'r mwya gweld pa mor anuchelgeisiol yw pobl Cymru yn eu dyheadau at ddyfodol Cymru, yn enwedig pan fo trwch o boblogaeth yr Alban yn barod gefnogol i annibynniaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan Jon Bon Jela » Sul 14 Ion 2007 11:06 pm

Rhaid cyfaddef fy mod i'n dipyn o "Lennonite" pan mae'n dod i faterion fel hyn. Dwi'n ddigon o berson i fod yn Gymro ar sail fy hun ac nid oes angen unrhyw drefn wleidyddol newydd arna' i i gyfiawnhau fy Nghymreictod.

Why can't we just all get along?

Ond mae'r syniad o gael Cymru annibynnol yn cystadlu yn yr Eurovision song contest yn apelio...
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan Blewyn » Llun 15 Ion 2007 4:17 am

Geraint Edwards a ddywedodd:Nid yn unig asgwrn cefn (sydd yn gwbl greiddiol gyda llaw!), ond hefyd uchelgais. Mae'n destun cywilydd o'r mwya gweld pa mor anuchelgeisiol yw pobl Cymru yn eu dyheadau at ddyfodol Cymru, yn enwedig pan fo trwch o boblogaeth yr Alban yn barod gefnogol i annibynniaeth.

Mae'n codi cywilydd arnaf fod rhai am y cyntaf i ofyn os fysa'r gwasanaethau sector gyhoeddus yn gwaethygu. Yn y 70au yn Dre r'oedd'na ysgol meithrin o'r enw Feed My Lambs - merched lleol oedd yn rhedeg y lle yn wirfoddol, dim angen am gyllid mawr na chyflogau. Fel dwedais yn barod, mi all Cymru dorri ei got yn ol ei frethyn, a'r cwestiwn ddylia bobl ofyn yw "sut fedrwn ni wneud hyn y ffordd orau ?" nid "be di'r peth gwaethaf fedr ddigwydd i ni tasa ni'n dewis hunan-reolaeth ?"
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Nanog » Llun 15 Ion 2007 7:23 am

Jon Bon Jela a ddywedodd:Rhaid cyfaddef fy mod i'n dipyn o "Lennonite" pan mae'n dod i faterion fel hyn. Dwi'n ddigon o berson i fod yn Gymro ar sail fy hun ac nid oes angen unrhyw drefn wleidyddol newydd arna' i i gyfiawnhau fy Nghymreictod.

Why can't we just all get along?



Pwy sy'n siarad am ymosod ar wlad arall? A fydd Cymru annibynol neu Alban annibynol wedi ymuno a Bush yn Irac? Nag wyt ti'n meddwl fod gan Cymru wahanol ofynion i Loegr? Nid matter o gasau neb yw e.......
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Griff-Waunfach » Llun 15 Ion 2007 10:34 am

rooney a ddywedodd:Fydd hi yn anodd i Gymru begera ar yr Undeb Ewropeaidd am arian- bydd gwledydd newyddd yr UE yn cael blaenoriaeth.
Pa fusnesau sydd wedi beio aelodaeth Cymru o'r DU fel rheswm i beidio symud yma?


Oni fyddai Cymru annibynol yn 'Gwlad newydd yr EU'? os bossib bod sustem ariannu Ewrop yn seliedig ar pa mor 'newydd' wyt ti i'r undeb!? :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 30 gwestai