Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Sad 07 Hyd 2006 3:48 pm
gan Dylan
Mr Gasyth a ddywedodd:
sanddef rhyferys a ddywedodd:Dewis rhwng Bordon Grown a Rohn Jeid? :ofn: Gwell gen i droi'n anorecsig!


Out of order boi, ymhell bell allan ohoni.


?

PostioPostiwyd: Sad 07 Hyd 2006 4:27 pm
gan Y Celt Cymraeg
Fel trio dewis pa nytar i redeg y seilam!

Brown neu Reid

PostioPostiwyd: Maw 17 Hyd 2006 7:31 pm
gan Guto Morgan Jones
Mi fysa well gen i weld Gordon Brown fel PMc ar Brydain.
Fel dywed un o gymeriadau "Yes, Minister", Sir Arnold Robinson wrth Sir Humphrey (sydd wedi ei gyfiaethu):

"Dewis anodd! Fatha gofyn pa lwnatic ddylia redeg y selam!"

Wedi dweud hyn mae Brown yn edrych yn foi iawn i gymharu a Reid a dylia Brown fod yn rhif 10.

PostioPostiwyd: Gwe 01 Rhag 2006 12:37 am
gan Huw T
Yn ol ffrind i ffrind, mae Gordon Brown, ar lefel personnol, yn foi hynod o ffein. Ac ma'n rhaid cyfaddef ei fod wedi bod yn ganghellor llwyddiannus iawn. Yn bersonnol (gan gofio rhai o'i areithie i'r cynhadleddau yn nechre'r ddegawd hon), dwi'n credu ei fod en cadw'n dawel am ei wreiddie sosialaidd tan y bydd en Brif weinidog, ac yna fe fydd e'n rhoi'r 'llafur' nol fewn i 'Lafur newydd' 8)

Yn ol colofn yn y Guardian rai wythnosau'n ol, ma na sibrydion am Lab-Lib coalition rhwng Gordon a Ming a fydd yn cyflwyno electoral reform cyn yr etholiad nesaf. Byddai hwn yn coup rhyfeddol, ac hefyd, bron yn fwy pleserus, byddai'n screwio Dave Cameron a'i ffrindie mewn i'r llyfrau hanes.

Troubleshooter bulldogaidd Blair yw Reid. Dim byd mwy.

PostioPostiwyd: Iau 17 Mai 2007 8:45 pm
gan Dili Minllyn
Felly, Brown biau hi. Dwi'n meddwl bod methiant McDonnell, a methiant truenus o wael at hynny, yn dangos pa mor bell mae'r Blaid Lafur wedi teithio oddi wrth unrhyw syniadaeth sosialaidd.

PostioPostiwyd: Iau 17 Mai 2007 11:01 pm
gan huwwaters
O bawb a oedd yn y ras, byse well gyn i di gweld Alan Johnson, ond fel mae Dili yn nodi, ni plaid i'r chwith mo Llafur bellach.

PostioPostiwyd: Gwe 18 Mai 2007 9:21 am
gan Dielw
"Yn ol ffrind i ffrind, mae Gordon Brown, ar lefel personnol, yn foi hynod o ffein" - ERRRRMMMMM

PostioPostiwyd: Sul 20 Mai 2007 8:23 pm
gan Huw T
Dielw a ddywedodd:"Yn ol ffrind i ffrind, mae Gordon Brown, ar lefel personnol, yn foi hynod o ffein" - ERRRRMMMMM


Pan nes i ddarllen hwn, nes i'n sydyn feddwl 'Hmm, fi'n cofio clywed hynna hefyd' nes sylweddoli mai fi yn wir nath gynnig y pwt na o wybodaeth :rolio:
Pam yr ebychaid tu ol i'r dyfyniad tho? Mae'r ffrind i ffrind yn gwybod ei fod yn foi ffein ar lefel personol am ei bod yn gweithio gydag ef.