Blewyn a ddywedodd:Na, dadlau ydw i o blaid i'r bobl Brydeinig wrthod ac ymwneud a unrhyw un sydd yn gorchuddio eu gwyneb. Dwi'n credu yn y rhyddid i orchuddio eich gwyneb, r'un faint a dwi'n credu yn y rhyddid i wrthod delio efo rhywun sydd ddim yn dangos eu gwyneb.
A, dwyt ti ddim yn dadlau yn erbyn deddfu felly, os 'dwi'n dy ddeall yn iawn, ond dadlau y dylai aelodau'r grwp rwyt yn ei ddiffinio fel y garfan yr wyt ti dy hun yn perthyn iddi (Prydeinwyr) wrthod cyfathrebu, neu wneud busnes gyda phobl sy'n gwisgo mewn ffordd nad yw wrth dy fodd.
Pum pwynt.
(1) Prydeinwyr ydi'r rhan fwyaf o'r merched sy'n gwisgo gorchudd ym Mhrydain.
(2) Mewn llawer o sefyllfaoedd byddai gwrthod ymwneud a phobl ar sail yr hyn maent yn ei wisgo yn anghyfreithlon ynddo'i hun. Er enghraifft byddai'n anghyfreithlon i weision sifil, gweithwyr post, athrawon ac ati beidio a delio gyda charfan o'r cyhoedd.
(3) Ni fyddai busnesau am i'w gweithwyr beidio a delio efo carfannau o'i cwsmeriaid.
(4) Yn nhyb llawer o bobl byddai esgymuno un carfan fach o bobl - sydd yn ymylol i'r gymdeithas ehangach yn afresymol ac yn greulon.
(5) Mae achos cymharol ddiweddar yn y Deyrnas Unedig o un gymuned yn ceisio dibrisio diwylliant cymuned arall trwy (ymysg pethau eraill) eu rhwystro rhag arddangos eu
totems diwillyannol yn gyhoeddus. Yng Ngogledd Iwerddon oedd hynny, a chafwyd rhagor na chwarter canrif o dywallt gwaed yn strydoedd culion Belfast a chaeau gwyrdd Tyrone yn sgil hynny.
Blewyn a ddywedodd:Onid ydynt yn amlwg ? Beth am gyflogi athrawes er enghraifft - os ydy hi'n gorchuddio, sut all di fod yn siwr nad ydy'n gyrru ei chwaer i'r ysgol i ddysgu yn ei lle ambell ddydd ? Os angen perfformio check (gan ferch, wrth gwrs) ? Pa mor aml ? Bob dydd ? Bob awr ? Os ti eisiau enghreifftiau o ddynion yn gwisgo'r abaya/niqab er mwyn ennill mynediad i lefydd sydd i ferched neu deuluoedd yn unig yn y dwyrain canol, just googla'r papurau newyddion yma - mi weli o'n digwydd yn rheolaidd.
Dwi'n meddwl fy mod yn ei gwneud yn hollol glir eisoes fy mod yn credu ei bod yn rhesymol i orfodi i bobl wisgo mewn ffordd addas yn eu man gwaith. Son ydw i am sut mae pobl yn gwisgo yn ystod eu hamser eu hunain.