Yn y ddadl yma dw i'n credu bod angen gwahaniaethu rhwng y cylch preifat a'r cylch cyhoeddus. Yn y cyd-destun hwn dw i'n defnyddio'r 'cylch cyhoeddus' i gyfeirio at faes y llywodraeth, yn yr ystyr ehangaf. Fel seciwlarydd, dw i ddim yn credu y dylai crefydd gael unrhyw ffafriaeth yn y cylch cyhoeddus. Dw i ddim y credu y dylai'r wladwriaeth ariannu ysgolion crefyddol. Dylai pob ysgol a ariennir gan y llywodraeth fod yn agored i bob plentyn a yw'n dod o gefndir crefyddol ai peidio. Os yw rhieni eisiau rhoi addysg grefyddol i'w plant cân nhw wneud hynny ar eu cost eu hunain ac yn eu hamser eu hunain. Mae ysgolion crefyddol yn rhannu cymdeithas ar seiliau afresymol.
Felly yn achos y fenyw a'r niqab yn yr ysgol, ysgol eglwys Loegr oedd yr ysgol, felly yn y lle cyntaf, dw i'n gwrthywnebu bod trethi pobl yn mynd i gynnal ysgol i sect grefyddol. Ond gan fod yr ysgol yn bodoli, ac yn cael ei chynnal gan arian cyhoeddus, mae'n gwbl briodol bod yr ysgol yn cael gosod telerau ac amodau gwaith rhesymol. Yn yr achos hwn lles y plant yw'r egwyddor bwysig, a chan fod cuddio wyneb yn rhwystr wrth gyfathrebu (beth bynnag yw'r rheswm am y cuddio) am fod elfennau all-ieithyddol yn cael eu mynegi gan yr wyneb, roedd yn gwbl briodol i'r ysgol ofyn iddi dynnu'r niqab wrth ddysgu. Mae'r ffaith bod y niqab yn rhan o'i chrefydd yn hollol amherthnasol.
Hwyrach mod i'n credu yn y 'sêr', ac mae'r 'sêr' yn dweud wrtho i y dylwn i fynd i'r gwaith â mwgwd Tony Blair ar fy wyneb, a minnau'n gweithio fel nyrs mewn ysbyty. Ddylwn i ddisgwyl i bawb ddweud, 'O chware teg, dyna yw ei grefydd e. Mae'n rhan o'i hunanieth e, rhaid i ni ei barchu'.? Go brin. Rhaid cofio bod merched yn enwedig yn dioddef o hyd oherwydd syniadau crefyddol dynion. Mewn cymdeithas wareiddieidig rhaid inni gytbwyso rhyddid crefyddol yn erbyn hawliau dynol. O'm rhan i caiff pobl credu bod y lleuad yn gaws, a felly yn 'sanctaidd' heb ymyrraeth gan y wladawriaeth, ond cyn gynted ag maen nhw'n gweithredu ar sail y gred honno e.e. drwy ladd pobl sy'n bwyta brechdanau caws (am fod hynny gyfystyr â duw-laddiad), mae'n rhaid dweud 'stop!'
Dw i'n byw mewn tref lle dw i'n gweld merched yn gwisgo'r holl amrediad o hijabs, niqabs a burkas bob dydd. Dw i'n gofyn i fy hyn i ba raddau maen nhw'n gwneud hynny o ddewis, ond chaf i ddim gwybod yr ateb, ac os ydyn nhw'n gwneud hynny o ddewis, dylai fod rhyddid iddyn nhw wneud hynny. Dw i'n gwisgo hwd weithiau. Ond petai un o'r merched hyn yn feddyg NHS, ac fy mod i'n mynd i'w gweld, byddwn yn disgwyl iddi dynnu'r niqab neu'r burka er mwyn siarad â fi achos mae fy hawl i fel claf yn bwysicach na'i hawl hi i wisgo dilledyn arbennig.