Fel yr wyf wedi nodi mewn llawer o edeifion eraill, yr wyf yn Wesla di gyfaddawd. Rwy'n credu mai'r farn Anghydffurfiol Wesleaidd Efengylaidd Gymreig Traddodiadol yw'r gair olaf mewn crefydd a bod pob barn arall yn methu prawf gwirionedd.
Oherwydd fy mod yn ymwybodol bod y farn yma yn un lleiafrifol ofnadwy (hyd yn oed ym mysg y Weslead bellach, ysywaeth) mae rhyddid crefyddol yn hynod bwysig imi.
Mae'r rhyddid sydd gennyf fi i arddel barn grefyddol leiafrifol, heb ofn cosb na gormes, wedi ei ennill wrth y stanc ac ar y grocbren gan bobl a fyddai'n anghytuno'n groch a'm marn. Nid wyf am wneud na dweud dim sydd yn ymyrryd ar hawliau eraill i fwynhau'r un fraint a mi, er gwaetha'r ffaith fy mod yn
credu hyd gwybod bod eu barn yn farn cwbl gyfeiliornus.
Mae'r aberth, y syniadaeth a'r mudiadau sydd wedi eu deillio o ryddid crefyddol hefyd wedi arwain at ryddfreiniau eraill yn y
byd Cristionogol, megis rhyddid y ferch.
Mae'r Nicab a'r Byrca yn adlewyrchiadau o'r ormes ar ferched a fu yn yr Eglwys Gristionogol ers llawer dydd:
1 Corinthiaid 11:5 a ddywedodd:Eithr pob gwraig yn gweddïo neu yn proffwydo, yn bennoeth, sydd yn cywilyddio ei phen; canys yr un yw â phe bai wedi ei heillio. Canys os y wraig ni wisg am ei phen, cneifier hi hefyd ac ati
Pe bai Cristion yng Ngwledydd Prydain yn awgrymu bod rhaid i ferch gwisgo het am ei phen neu gael ei chneifio - mi fyddai'n cael ei feirniadu yn hallt (ac yn haeddiannol) gan y chwith di grefydd.
Ond yr un beirniaid, ar y cyfan, sydd yn amddiffyn hawl y grefydd Fwslimaidd (a chrefyddau eraill) i drin merched yn anghyfartal ac yn amddiffyn hawl y Fwslim wrywaidd i drin merch fel baw i sgubo o dan garped ei ryddid ffydd.
PAM???
Nid rhyddid crefyddol yw alwad y chwith na'r rhyddfrydwyr mwyach - ond
gwrth Gristionogaeth. Dyma paham mae Cristionogion yr Amerig, yn arbennig, ag ambell i un Ewropeaidd yn cael eu gwthio fwyfwy i'r de peryglus. Sefyllfa sy'n peri gofid mawr i mi fel Cristion eithaf rhyddfrydig.