Rhods a ddywedodd:Ugain I Un a ddywedodd:Trwy'u hanes mae'r Liberals wedi cefnogi "Our boys" i lofruddio yn Iweddon, Suez, Cyprus, Aden, Kenya, Palestine, Burma, Afghanistan, India, De Africa, Sudan . etc etc etc etc .. (sori dwi ddim wedi cofio enw pob un wlad trwy hanes ble mae'r Brits wedi bod yn gwneud llanast o bethe)
Ie, ond cofia oni bai am 'Our boys' yn ymladd y natsiaid yn yr ail rhyfel byd ac aberthu eu bywydau - ni fyddwn ni di cael y rhyddid i byw bywydau i ni yn byw heddiw. (Mae'n gweithio'r ddwy ffordd) Cofia - bydd yn ddiolchgar.
Yndan, wrth gwrs da ni gyd yn ddiolchgar, roedd na fygythiad real adeg hynnu. Ond dydi hynnu ddim yn esgusodi nifer o ryfeloedd a ymosodiadau eraill da "ni" wedi bod ynddo. Roedd rhan fwyaf o'r fyddin 60 mlynedd yn ol wedi ymuno oherwydd y bygythiad. Mae'r sefyllfa yn hollol wahanol heddiw.
Dyma ddwedis i chydig yn ol mewn edefyn arall:
Mae byddin A yn cwffio efo byddin B yn erbyn gwald C er mwyn ehangu cyfoeth a phwer gwlad B(dim i wneud "y byd yn saffach" fel mae gwlad B yn honni) gan greu llanast yng ngwlad C, felly bols i fyddin A.
Mae'r fyddin Brydeinig yn cwffio efo byddin America yn erbyn Irac er mwyn ehangu cyfoeth a phwer America(dim i wneud "y byd yn saffach" fel mae America yn honni) gan greu llanast yng Irac, felly bols i'r fyddin Brydeinig. Dyna dwin feddwl beth bynnag.
Yn lle rhoi cefnogaeth ychwanegol i'r fyddin achos na "ni" ydio, dwin defnyddio fy rhesymeg a dod i gasgliad o beidio cefnogi'r fyddin. Ni allaf gefnogi unrhywbeth sydd yn ymosod ar rhywbeth arall di-fygythiol oherwydd rhesymau celwyddog gan wneud pethau hyd noed gwaeth nac oedda nhw.
Dwi ddim cweit yn dallt sut fuasai'r ymchwiliad yn niweidio moral y milwyr (yn enwedig yn Affganistan gan mai ymchwiliad am Irac ydio). Maent yn gwybod am lefel y gwrthwynebiad sydd yma beth bynnag, a hefyd rhaid eu bod erbyn wan yn dallt mae celwyddau oedd yr holl beth, sydd go brin yn
morale-booster ei hun. A dwim yn meddwl y tro nesa bydd milwr yn saethu at "suspected" militants wneith o feddwl dwywaith gan ddweud "well i mi beidio neu fydd Adam Price yn flin". A nid yw'r ymchwiliad yn erbyn y fyddin, mae'n erbyn y llywodraeth.