Adnewyddu Trident

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A ddylai Prydain ddatblygu taflegrau newydd i gymryd lle Trident?

Na ddylai, heddwch yn ein hamser
28
76%
Dylai, rhagofn
9
24%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 37

Adnewyddu Trident

Postiogan Huw T » Mer 29 Tach 2006 5:20 pm

Mae Tony Blair wedi gofyn am 'drafodaeth genedlaethol' ar y mater. Felly, trafoder.

Mae'r erthygl isod yn gyflwyniad da

http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk_politics/4805768.stm
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Rhods » Iau 30 Tach 2006 11:11 am

O blaid - dyna beth yw'r peth cyfrifol i'w neud.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan huwwaters » Iau 30 Tach 2006 12:38 pm

Rhods a ddywedodd:O blaid - dyna beth yw'r peth cyfrifol i'w neud.


Cyfrifol?

Os ma'r DU efo arfau niwclear yna mae'n rhoi rheswm i bobl erill ceisio cael rhai. Paid disgwyl i neb fel Iran na Gogledd Korea gwrando ar pobl fel yr UDA a Phrydain yn deud "na, chi'm yn cael bod efo nhw". Do as I say and not as I do.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Meiji Tomimoto » Iau 30 Tach 2006 1:04 pm

O.K, elli di esbonio sut mae o'n beth cyfrifol i neud Rhods? Tydi'r rhyfel oer ddim yn rwbath nes i astudio yn ysgol. Oedd yr 80au yn gyfnod ofnus iawn i fi fel plentyn.
Os mai "deterrent" ydi pwrpas arfau niwcliar, pam bod bynceri niwcliar dal i fod ar hyd a lled y wlad yma.
At bwy fasa ti isho saethu un fellu?
Tawn i'n smecs Alec! Y Meicroffilm!
Rhithffurf defnyddiwr
Meiji Tomimoto
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 485
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 3:45 pm

Postiogan Macsen » Iau 30 Tach 2006 2:08 pm

Beth am adeiladu 'Doomsday Device' gyda Balthorium G fel yn y ffilm Dr Strangelove, fel arf ataliol i ryfel niwclear?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Rhods » Iau 30 Tach 2006 2:08 pm

Ga i ofyn cwestiwn i ti Meiji -

Sa'r deteerant niwclaer ddim di bod yna dros y 60 mlynedd diwetha, a gyda'r perthynas gyda UDA a Rwsia fel yr oedd - wyt ti yn meddwl bydde 3ydd rhyfel byd di digwydd ?? Ie neu Na (a bydd yn hollol onest nawr)

I ateb dy gwestiwn di ac un Huw - mae'n beth cyfrifiol i gadw'r deterant achos nag i ni yn gwbod be sydd yn mynd i ddigwydd yny dyfodol - a ma ishe'r deternant arno ni - jyst rhag ofn, Fi yn bersonnol yn teimlo yn llawer saffach da hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan Dan Dean » Iau 30 Tach 2006 2:21 pm

Rhods a ddywedodd:O blaid - dyna beth yw'r peth cyfrifol i'w neud.


Cyfrifol!! :lol:

Delwedd

Sgin i ddim syniad be sydd yn gyfrifol am wario o leia £15,000,000,000 ar rhywbeth dibwrpas sydd yn mynd i wneud gwledydd eraill feddwl "hmmm os di Prydain efo un o rheini ella dyla ni gael un hefyd" (rhai yn amcangyfrif hyd at £75,000,000,000). Cyfrifol buasai gwario'r arian ar rhywbeth sydd yn mynd i wneud ein bywydau yn well a hefyd annog pob gwlad yn y byd stopio adeiladu pethau sydd gyda un pwrpas yn unig - dinistr llwyr.

Rhods a ddywedodd:Ga i ofyn cwestiwn i ti Meiji -

Sa'r deteerant niwclaer ddim di bod yna dros y 60 mlynedd diwetha, a gyda'r perthynas gyda UDA a Rwsia fel yr oedd - wyt ti yn meddwl bydde 3ydd rhyfel byd di digwydd ?? Ie neu Na (a bydd yn hollol onest nawr)

I ateb dy gwestiwn di ac un Huw - mae'n beth cyfrifiol i gadw'r deterant achos nag i ni yn gwbod be sydd yn mynd i ddigwydd yny dyfodol - a ma ishe'r deternant arno ni - jyst rhag ofn, Fi yn bersonnol yn teimlo yn llawer saffach da hynny.


Dim os oes na deterant neu beidio ydi'r pwynt. Y ffaith ydi mae na ormod o arfau niwcliar yma fel y mae, hen ddigon i ddeterant, a ni elli di gyfiawnhau gwario gymynt o arian na hynnu ar wella'r system.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Macsen » Iau 30 Tach 2006 3:11 pm

Rhods, petai Trident ddim yno fyddai gan Brydain dal llwyth o arfau niwclear. Mae Trident yn gasgliad o arfau niwclear mewn llongau danfor, fel bod modd lansio'r arfau o leoliadau strategol yn y môr. Felly petai Prydain yn colli Trident fyddai fo'm yn ddi-amddiffyn.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Meiji Tomimoto » Iau 30 Tach 2006 5:47 pm

Rhods a ddywedodd:Ga i ofyn cwestiwn i ti Meiji -

Sa'r deteerant niwclaer ddim di bod yna dros y 60 mlynedd diwetha, a gyda'r perthynas gyda UDA a Rwsia fel yr oedd - wyt ti yn meddwl bydde 3ydd rhyfel byd di digwydd ?? Ie neu Na (a bydd yn hollol onest nawr)

Fuodd o bron digwydd sawl gwaith eniwe, a hynnu'n defnyddio taflegrau niwcliar. Ffor ffycs sec oedd 'na 2nd rate actor cowboi efo'i fys ar y botwm. oedd yr arfau yn cyflyru tensiynnau. Dyna ydi "arms race" ynde?
cael a chael ydi hi bod ni dal yma yn fy marn i. fellu dwi'm yn atab a na b.

Ti dal heb atab fi though rhods, pwy genedl wyt ti isho ei ddileu o wynab y blaned yma fellu?
Tawn i'n smecs Alec! Y Meicroffilm!
Rhithffurf defnyddiwr
Meiji Tomimoto
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 485
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 3:45 pm

Postiogan Dili Minllyn » Iau 30 Tach 2006 8:38 pm

Mi welais i longau tanfor niwclear Prydain gwpl o weithiau, yn llechu yn aber Afon Clyd, a finnau ar daith i'r Alban, a dyna'r peth mwyaf brawychus welais i erioed. Mae'n hen bryd cael gwared ar Trident, a hynny heb wastraffu miliynau ar system fwy dieflig fyth i gymryd ei le.

Yn ogystal â bod yn anfoesol, mae arfau niwclear yn filwrol ddibwrpas, gan allwn ni byth eu defnyddio. Fyddai neb yn meiddio eu defnyddio yn erbyn gwlad heb arfau niwclear, a tasen ni'n mentro eu defnyddio yn erbyn gwlad a chanddi arfau niwclear, basen ni'n dwyn dinistr sicr ar eu pennau. Dyfynnaf y diweddar Enoch Powell, hen filwr oedd yn gwybod digon am ryfel. Soniodd e yn Nhŷ'r Cyffredin yn 1983 am bosibilrwydd ymosod niwclear gan yr Undeb Sofietaidd ar Brydain:

Enoch Powell a ddywedodd:What would the United Kingdom do? Would it discharge Polaris or Trident or whatever against the main centres of population of the Continent of Europe or European Russia? If so, what would be the consequence? The consequence would not be that we should survive, that we would repel our antagonist – nor would it be that we should escape defeat. The consequence would be that we would make certain, as far as is humanly possible, the virtual destruction and elimination of the hope of the future in these islands...I would much rather that the power to use [nuclear weapons] was not in the hands of any individual in this country at all.

Ac er gwaetha'r holl sôn trwy'r blynyddoedd am "amddiffyniad niwclear annibynnol" Prydain, dyw Trident ddim yn annibynnol o gwbl: mae'r taflegrau'n gwbl ddibynnol ar loerenni America i'w tywys at eu targedau. Felly, chaiff Prydain ddim o'u defnyddio nhw heb ganiatâd y Tŷ Gwyn, 'ta waeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 36 gwestai

cron