Adnewyddu Trident

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A ddylai Prydain ddatblygu taflegrau newydd i gymryd lle Trident?

Na ddylai, heddwch yn ein hamser
28
76%
Dylai, rhagofn
9
24%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 37

Postiogan Huw T » Maw 09 Ion 2007 7:54 pm

Dili Minllyn
Huw T :
Rwy'n dod i'r un casgliad a Nye Bevan, y byddai anfon ysgrifennydd tramor Prydeining i gynhadledd a heb bwer niwclear yn gyffelyb a'i anfon yno yn borcyn!


Roedd Mohandas K Gandhi yn hoff o ddyfynu'r sylw yma gan Bevan, gan iddo yntau fynd bron yn hollol noeth, ar wahan i glwt am ei ganol, i'r ystafell gynadledda i gyda chynrychiolwyr ymerodraeth fwya'r byd.
[/quote]

Sori fod yr ymateb yma wedi cymryd cyn hir i droi lan, ond dim ond newydd sylweddoli/cofio ydw i - Soniodd Bevan am fynd yn noethlymu heb arfau niwclear yng nghynhadledd Llafur 1957. Cyn hynny, bu'n wrthwynebydd i arfau niwclear (gweler http://www.socialistworker.co.uk/articl ... le_id=9936)
Yn anffodus, roedd Gandhi, oedd "yn hoff o ddyfynu'r sylw yma gan Bevan" yn farw ers 1948.

Fi'n falch gweld nad i ni'n gadael i ffeithiau ymyrryd a gwneud pwynt!
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Dili Minllyn » Iau 15 Maw 2007 10:07 pm

A dyma sut y gwnaethon nhw bleidleisio ar y mater.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan dawncyfarwydd » Iau 15 Maw 2007 10:52 pm

Mae 'na un peth sy'n fy mhoeni i.

Mae Tony Blair ar ei ffordd allan, ac yn trio cael rhyw fath o legacy. Mae'i olynydd o wedi siarad yn gry iawn yn erbyn y Trident cynta. Mae'r gair 'niwclear' bron fel rheg ac yn codi ofn ar bobl. Mae'r gost yn eithriadol o uchel. Mae'r Llywodraeth Lafur wedi colli peth o deyrngarwch aelodau'r blaid oherwydd Trident. Ac eto, mae'r arweinyddiaeth yn bwrw 'mlaen efo'r cynlluniau. Dwi'n cael trafferth dallt pam bysa Blair yn benderfynol o gael hwn drwodd efo cymaint â hynna yn y fantol pe na bydda Trident yn ofnadwy o bwysig mewn rhyw ffordd.

Ella ma fi sy wedi 'nal ormod gan wleidyddiaeth delwedd. Ond dwi ddim yn dallt pam bysa 'na gymaint o aberthu ar gynllun ymddangosiadol hurt oni bai ei fod o'n hanfodol.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan GT » Iau 15 Maw 2007 11:31 pm

Rhods a ddywedodd:O blaid - dyna beth yw'r peth cyfrifol i'w neud.


Mae'n debyg gen i bod rhywun yn Iran yn defnyddio union yr un frawddeg (mewn Farsi) i gyfiawnhau rhaglen niwclear y wlad honno, heddiw.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan sanddef » Gwe 16 Maw 2007 5:06 am

Sut Pleidleisiodd Ein Haelodau Seneddol Ni

Stephen Crabb (Ceidwadol, Gogledd Penfro a Phreseli) IE
David Davies (Ceidwadol, Mynwy) IE
David Jones (Ceidwadol, Gorllewin Clwyd) IE
Nick Ainger (Llafur, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro) IE
Kevin Brennan (Llafur, Gorllewin Caerdydd) IE
Chris Bryant (Llafur, Y Rhondda) IE
Wayne david (Llafur, Caerffili) IE
Hywel Francis (Llafur, Aberafon) IE
Peter Hain (Llafur, Castell Nedd) IE
David Hanson (Llafur, Delyn) IE
Kim Howells (Llafur, Pontypridd) IE
Huw Irranca-Davies (Llafur, Ogwr) IE
Martyn Jones (Llafur, De Clwyd) IE
Ian Lucas (Llafur, Wrecsam) IE
Alun Michael (Llafur, De Caerdydd a Phenarth) IE
Madeleine Moon (Llafur, Pen y bont) IE
Paul Murphy (Llafur, Torfaen) IE
Albert Owen (Llafur, Ynys Môn) IE
John Smith (Llafur, Bro Morgannwg) IE
Mark Tami (Llafur, Alyn a Dyfrdwy) IE
Don Touhig (Llafur, Islwyn) IE
Alan Williams (Llafur, Gorllewin Abertawe) IE
Martin Caton (Llafur, Gwyr) NA
Paul Flynn (Llafur, Gorllewin Casnewydd) NA
Nia Griffith (Llafur, Llanelli) NA
Dal Havard (Llafur, Merthyr Tudful a Rhymni) NA
Siân James (Llafur, Dwyrain Abertawe) NA
Julie Morgan (Llafur, Gogledd Caerdydd) NA
Betty Williams (Llafur, Conwy) NA
Lembit Opik (DemRh, Trefaldwyn) NA
Mark Williams (DemRh, Ceredigion) NA
Roger Williams (DemRh,Brycheiniog a Maesyfed) NA
Jennifer Willot (DemRh, Canol Caerdydd) NA
Elfyn Llwyd (PC, Meirionnydd Nant Conwy) NA
Adam Price (PC, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) NA
Hywel Williams (PC, Caernarfon) NA
Dai Davies (Annibynnol, Blaenau Gwent) NA
Ann Clwyd (Llafur, Dyffryn Cynon) HEB BLEIDLEISIO
Jessica Morden (Llafur, Dwyrain Casnewydd) HEB BLEIDLEISIO
Chris Ruane (Llafur, Dyffryn Clwyd) HEB BLEIDLEISIO

IE

Ceidwadwyr: 3
Llafur: 19

CYFANSWM: 22

NA

Llafur: 7
Plaid Cymru: 3
Democratiaid Rhyddfrydol: 4
Annibynnol: 1

CYFANSWM: 15

HEB BLEIDLEISIO

Llafur: 3

CYFANSWM: 3
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Dylan » Llun 19 Maw 2007 7:29 pm

a dyna'r gronyn bach olaf o barch oedd gen i tuag at Ann Clwyd yn mynd lawr y toilet
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Rhods » Maw 20 Maw 2007 1:49 pm

Dylan a ddywedodd:a dyna'r gronyn bach olaf o barch oedd gen i tuag at Ann Clwyd yn mynd lawr y toilet


Da iawn Ann Clwyd weda i - mae hi yn cymryd lot o gyts i gyfadde bo hi yn rong fel odd hi a gweddill cronies New Labour (gynt y lwni lefft yn y 70au/80au)...

Roedd Trident/arfau niwclear yn bwysig yn y gorffennol fel detterant i amddiffyn Prydain ac fe weithiwyd. Gall y CND ar chwith ffasiynol dosbarth canol cwyno trwy'r dydd am ei 'ffeilion', ond y ffaith yw mi wnath i lwyddo fel detternat - gallent ddim wadu hwnna HY dim ymosodiad ar Prydain a dim rhyfel byd..

Odi - ma'r byd wedi newid ac rwyf yn croesawi'r ffaith bod na doriad o rhyw 20% yn system Trident ond ni all neb fod yn siwr beth gall ddigwydd yn y dyfodol - dyna pam fod cal security cryf yn hanfodol i amddiffyn ein hunain. Byddai polisi o 'Dim Trident' o gwbl yn wallgo llwyr. Toriad ie - ond dim cael gwared a hi yn llwyr.

Da iawn toris a llafur am uno a rhoi gofal y wlad a'i phobl yn gyntaf yn lle rhyw sgorio pwyntiau gwleidyddol yn erbyn eu gilydd.

Rwyf yn hapus iawn iawn ar canlyniad yma yn y senedd wythnos diwetha. Gwych
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan sanddef » Maw 20 Maw 2007 3:14 pm

Rhods a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:a dyna'r gronyn bach olaf o barch oedd gen i tuag at Ann Clwyd yn mynd lawr y toilet


Da iawn Ann Clwyd weda i - mae hi yn cymryd lot o gyts i gyfadde bo hi yn rong


Sut? Roedd hi heb bleidleisio! Mae hynny yn "cop out".
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Rhods » Maw 20 Maw 2007 3:21 pm

LLyncaf fy ngeiriau Sanddef! Ti'n iawn cop out - gan Ann Clwyd!! :winc: :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan sanddef » Maw 20 Maw 2007 4:51 pm

Rhods a ddywedodd:LLyncaf fy ngeiriau Sanddef! Ti'n iawn cop out - gan Ann Clwyd!! :winc: :crechwen:


Dyna beth oeddwn yn feddwl :winc:
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron