A ddylid cyfreithloni puteindra?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan S.W. » Maw 12 Rhag 2006 3:49 pm

Dwi'n credu y dylid cyfreithloni puteindra mewn puteindai yn unig. Bydd hyn yn golgu bod modd i'r awdurdodau gadw mwy o reolaeth dros be sy'n digwydd ynddynt a chynnig cymorth i unrhyw rhai sydd angen y cymorth e.e. gyda chyffuriau ac ati. Trwy ganiatau puteindai gellid felly cael gwared o'r 'angen' i fod allan ar strydoedd tywyll a rhoi eu hunain mewn risg.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan ceribethlem » Maw 12 Rhag 2006 4:11 pm

S.W. a ddywedodd:Dwi'n credu y dylid cyfreithloni puteindra mewn puteindai yn unig. Bydd hyn yn golgu bod modd i'r awdurdodau gadw mwy o reolaeth dros be sy'n digwydd ynddynt a chynnig cymorth i unrhyw rhai sydd angen y cymorth e.e. gyda chyffuriau ac ati. Trwy ganiatau puteindai gellid felly cael gwared o'r 'angen' i fod allan ar strydoedd tywyll a rhoi eu hunain mewn risg.
Cytuno, mae'n ffordd o sicrhau diogelwch o ran pobl treisgar a heintiau.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Positif80 » Maw 12 Rhag 2006 4:14 pm

Dwi'm isio bod yn gas, ond mae llofrudd yn rhydd ar strydoedd Ispwich a mae dal ambell i ferch dwl yn gweithio ar y strydoedd. Yn amlwg dydyn nhw ddim yn haeddu cael eu lladd, ond mae gweithio ar adeg fel hyn yn gofyn am drafferth.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Ray Diota » Maw 12 Rhag 2006 4:55 pm

Positif80 a ddywedodd:Dwi'm isio bod yn gas, ond mae llofrudd yn rhydd ar strydoedd Ispwich a mae dal ambell i ferch dwl yn gweithio ar y strydoedd. Yn amlwg dydyn nhw ddim yn haeddu cael eu lladd, ond mae gweithio ar adeg fel hyn yn gofyn am drafferth.


Ti'n swnio fel bo ti'n siarad o brofiad...

... edefyn digon dibwynt a doji yw hwn ar y foment onide?
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan S.W. » Maw 12 Rhag 2006 5:02 pm

2 gorff arall wedi eu darganfod.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Socsan » Maw 12 Rhag 2006 5:04 pm

Ray Diota a ddywedodd:... edefyn digon dibwynt a doji yw hwn ar y foment onide?


Ia ella dy fod di'n iawn a deud y gwir, dim yr adeg gora i fod yn trafod pros a cons puteindra ayyb. Gobeithio mai'r ddwy yma fydd yr ola rwan.
Sbrangeg
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan Barbarella » Maw 12 Rhag 2006 6:45 pm

[ Wedi newid teitl yr edefyn i adlewyrchu pwnc y drafodaeth yn well. Wela'i ddim o'i le ar drafod y cwestiwn yna mewn ffordd cyffredinol, ond sdim angen mynd i fanylion am yr achos penodol yn Ipswich ]
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Positif80 » Maw 12 Rhag 2006 7:42 pm

Ray Diota a ddywedodd:Ti'n swnio fel bo ti'n siarad o brofiad...

... edefyn digon dibwynt a doji yw hwn ar y foment onide?


Shit! Rymbled! :x :crechwen:


Jest codi trafodaeth ynglyn a phwnc oedd yn perthyn i'r achos yma. Basa'r peth ond yn "doji" (ai fo oedd ffrind Mr Miagi yn Karate Kid 3?) taswn i neu rywun arall yn gweund jociau cas neu enwi rywun fel y llofrydd neu rywbeth.

Trafod rywbeth ehangach o fewn cyd-destun stori newyddion pwysig cyfamserol.

Shit!Wnes i bron swnio'n gall yn fanna rwan.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Dili Minllyn » Maw 12 Rhag 2006 8:50 pm

Ray Diota a ddywedodd:Edefyn digon dibwynt a doji yw hwn ar y foment onide?

Dim o gwbl. Trafodaeth berthnasol iawn. Mae yna gryn le i ddadlau, tasai punteiniaid yn gweithio mewn puteindai dan drwydded, a'r fath lefydd yn cael eu harchwilio gan yr awdurdodau'n rheolaidd, a'r staff yn cael eu gweld gan feddygon yr un mor rheolaidd; yna y byddai gweithio fel putain - gwaith sy'n sicr o fynd ymlaen beth bynnag yw'r gyfraith - yn llai peryglus o dipyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Mali » Maw 12 Rhag 2006 10:34 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:Edefyn digon dibwynt a doji yw hwn ar y foment onide?

Dim o gwbl. Trafodaeth berthnasol iawn. Mae yna gryn le i ddadlau, tasai punteiniaid yn gweithio mewn puteindai dan drwydded, a'r fath lefydd yn cael eu harchwilio gan yr awdurdodau'n rheolaidd, a'r staff yn cael eu gweld gan feddygon yr un mor rheolaidd; yna y byddai gweithio fel putain - gwaith sy'n sicr o fynd ymlaen beth bynnag yw'r gyfraith - yn llai peryglus o dipyn.


Dwi'n cytuno efo ti Dili.
Mae achos Robert Pickton , y ffermwr moch , ar fin cychwyn yn Vancouver mis nesaf. Mae'n cael ei gyhuddo o ladd oleiaf 26 o ferched o'r Eastside ...y rhan fwyaf ohonynt yn buteiniaid. Mae'n achos drist iawn i'r teuluoedd.
Fel mae pethau ar hyn o bryd , mae puteiniaid yn fwy agored i drais ofnadwy oherwydd eu bod yn gweithio o'r stryd.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai