A ddylid cyfreithloni puteindra?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Ramirez » Mer 13 Rhag 2006 12:21 am

Positif80 a ddywedodd:Cael ryw fath o regulation ar y peth, fel bod y merched yma ddim yn gweithio mewn amgylchiadau tywyll, peryglus


Be, fel cael rhywun i oruwchwylio bob dim :? ?


Positif80 a ddywedodd:y dyn yma

:?:
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Darth Sgonsan » Mer 13 Rhag 2006 10:11 am

Positif80 a ddywedodd:Dwi'm isio bod yn gas, ond mae llofrudd yn rhydd ar strydoedd Ispwich a mae dal ambell i ferch dwl yn gweithio ar y strydoedd. Yn amlwg dydyn nhw ddim yn haeddu cael eu lladd, ond mae gweithio ar adeg fel hyn yn gofyn am drafferth.


mae'r merched ifanc yma fel arfer yn gaeth i gyffuriau caled ac angen gwario £150 y dydd er mwyn osgoi mynd yn ddifrifol wael.
fysa neb yn ei iawn bwyll yn dewis puteinio yn Ipswich pan mae llofrudd ar droed, ond ma'r ffaith bod puteiniaid dal i werthu eu cyrff (hyd nes i'r heddlu ganfod y cyrff eraill o leia) yn dangos pa mor desbret ydyn nhw.

dw i ddim yn meddwl fedra ni farnu pobol mewn sefyllfaoedd mor eithafol

mae angen tynnu puteiniaid oddi ar y stryd, a'u gosod i weithio mewn puteindai - ond dwi dal yn amau fydd rhai dynion dal isho puteiniaid yn eu ceir, oherwydd natur gyfrinachol a thrill y peth, felly dwyt ti jesd byth yn mynd i neud puteinio yn 100% diogel

a dwi hefyd yn meddwl ddyla nhw grogi'r llofrudd
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Postiogan Positif80 » Mer 13 Rhag 2006 10:56 am

Dwi ddim yn eu barnu nhw o ran egwyddorion - dydw i ddim yn well nac yn waeth berson na nhw - jest o ran yr angen i gymeryd cyffuriau vs cael eich stranglo gan whackjob mewn ryw stryd bach tywyll.

Dwi'n daeall fod pobl sy'n gaeth i gyffuriau yn weithio ar lefel meddyliol gwhanol i'r rhai sydd ddim, ond eto basa mynd heb cyffuriau mor drwg yn y tymor fyr?

Dywedodd un ferch am y rhgalen Today ar Radio 4 fod rhai yn gweithio jest er mwyn cael pres ar gyfer y ffecin 'Dolig! :ofn:

Mae'n rhaid cael rhyw fath o reolau yn y maes yma. Dwi'm yn gwybod beth yn union, ond eto nid fi fydd yn gorfod datrys sefyllfa erchyll yma.

Nid yw hi'n dderbyniol fod merched yn 2006 yn gorfod iselhau eu hunain i weithio ar strydoedd tywyll, peryglus. Os oedd llefydd fel sydd yn yr UDA a llefydd gwledydd eraill, efalla na fydd teulu arall yn gorfod mynd trwy'r uffern o
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan S.W. » Mer 13 Rhag 2006 3:09 pm

Dwi'n cytuno na ddylai merched (nag dynion i fod yn deg) fod ANGEN gwerthu eu hunain i gael pres am be bynnag reswm. Ond, mae nhw yn neud.

Mae'n amlwg nad yw gwahardd y peth ddim yn gweithio, felly be am approach arall? Fel ddudis i, dwi'n credu dylid cyfreithloni Putendra mewn putendai arbennig yn unig. Dylid trwyddedu'r llefydd hyn gan Awdurdodau Lleol. Bydd hyn yn golygu gellid cadw llygad ar y math o bobl sy'n defnyddio'r merched, cael gwared o orddylanwad y pimp sy'n aml yn eu gorfodi i aros yn y 'maes' hwn, rhoi cymorth cyffuriau i'r rhai sy'n defnyddio cyffuriau, sicrhau nad oes gymaint o risg o HIV ac AIDS, a sicrhau bod y puteiniaid yn ddiogel ar bob achlysur.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Sili » Mer 13 Rhag 2006 4:33 pm

'It's the oldest job in the book', a waeth pa mor gryf yw'r bygythiad mi fydd yr 80,000 o enethod drwy Brydain dal yn fodlon gwerthu eu cyrff am arian sydyn, yn enwedig gan fod 95% o'r genod hyn yn gaeth i gyffuriau hefyd.

O leiaf os fyddai puteindra yn cael ei gyfreithloni, yna byddai modd cadw gwell golwg ar y genod, eu hiechyd a'u cwsmeriaid. Ma na dwn i ddim faint o frothels anghyfreithlon acw yn Cathays a ma pawb yn gwybod yn union ble mae nhw, felly siwrli er mwyn lles y bobl sy'n gweithio yno mi fyddai'n well cyfreithloni ambell un? O leiaf y byddai gen puteiniad le mwy saff i weithio yn hytrach na cherdded y strydoedd, fel ddudodd Dili Minllyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan gronw » Mer 13 Rhag 2006 5:18 pm

Positif80 a ddywedodd:Dwi'n deall fod pobl sy'n gaeth i gyffuriau yn weithio ar lefel meddyliol gwhanol i'r rhai sydd ddim, ond eto basa mynd heb cyffuriau mor drwg yn y tymor fyr?

i bobl sy'n gaeth i gyffuriau caled, bydde! y tymor byr yw'r broblem gyda bod yn gaeth, yn amlwg. nid smocio mymryn o fwg drwg ar y wicend mae'r bobl yma. mae'n amlwg nad wyt ti wedi bod yn y sefyllfa yna, neu fyddet ti ddim yn gofyn.

dwi'n cytuno efo lot o bobl yma sy'n dweud y dylid symud tuag at gael puteindai cyfreithlon. yn un peth byddai'n gwanhau'r cysylltiad gyda cyffuriau, fel dywedodd rhywun arall. mae pobl sy'n mynd yn gaeth i gyffuriau yn cael eu gorfodi i fynd yn buteiniaid, sydd jyst yn ariannu'r caethiwed ac felly'n ei waethygu. heb sôn am ddylanwad puteinfeistri (diolch Briws!) o ran cael pobl ar gyffuriau ac i mewn i'r proffesiwn yn y lle cynta, fel nododd SW.

gan fod puteindra yn mynd i ddigwydd doed a ddêl, gwell ei wneud mor ddiogel â phosibl.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Positif80 » Iau 14 Rhag 2006 9:35 am

gronw a ddywedodd: mae'n amlwg nad wyt ti wedi bod yn y sefyllfa yna, neu fyddet ti ddim yn gofyn.


No shit, Sherlock! Methu daeall eu sefyllfa ydw i, a mae'n amhosib i mi gwneud.

Rhywbeth sy'n fy mhoeni i am y sefyllfa presennol yw'r ffordd mae'r cyfryngau yn categoreiddio'r rhai sy'n defnyddio puteiniaid fel pobl drwg, peverted. Dydyn nhw ddim i gyd fel hyn; a mae'n beth peryg iawn i feddwl eu bod nhw.

Mae'n siwr fod dipyn ohonyn nhw'n wedi cael eu trin yn ddrwg gan cymdeithas hefyd, neu pam fasen nhw'n gwneud peth mor israddol?

Ond eto, fydda i byth yn daeall eu sefyllfa nhw chwaith.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan ceribethlem » Iau 14 Rhag 2006 12:02 pm

Positif80 a ddywedodd:Rhywbeth sy'n fy mhoeni i am y sefyllfa presennol yw'r ffordd mae'r cyfryngau yn categoreiddio'r rhai sy'n defnyddio puteiniaid fel pobl drwg, peverted. Dydyn nhw ddim i gyd fel hyn; a mae'n beth peryg iawn i feddwl eu bod nhw.
Dyma rhan o'r broblem ondife, mae puteindra wedi bod yn rhywbeth anghyfreithlon, a dark-alley, sleazy ayyb ers cyhyd mae cymdeithas yn ei weld yn y modd gwael yma. Er fod nifer o bobl yn eu mynychu mae'r mwyafrif yn pallu a chyfaddef iddynt wneud oherwydd yr agwedd cymdeithasol yma. Pe bai puteindra yn cael ei wneud yn gyfreithlon o fewn puteindai cyfreithlon glan, diogel, byddai'r stigma cymdeithasol yma yn cael ei leihau.
Yn yr un modd a siopa am born. Mae yna siopau cyfreithlon yn bodoli bellach sy'n gwerthu stwff caled, sdim rhaid bod mor sleazy am y peth, ac mae bellach yn beth mwy derbyniol fod rhywun yn edrych ar born caled. Fi'n credu byddai rhywbeth tebyg yn digwydd pe bai puteindra yn cael ei chyfreithlonni.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Darth Sgonsan » Gwe 15 Rhag 2006 11:27 am

ceribethlem a ddywedodd: mae bellach yn beth mwy derbyniol fod rhywun yn edrych ar born caled. Fi'n credu byddai rhywbeth tebyg yn digwydd pe bai puteindra yn cael ei chyfreithlonni.


anghytuno. yn ein byd macismo ma' boi efo porn yn 'ddipyn o foi', ond ma' dyn sy'n goro talu am secs yn cael ei weld fel sado pathetig.
ma'r farn hon yn anheg, achos dydi pawb ddim yn gallu ffeindio dynas, ond fela mae a fela fydd hi
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Postiogan ceribethlem » Gwe 15 Rhag 2006 2:06 pm

Darth Sgonsan a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd: mae bellach yn beth mwy derbyniol fod rhywun yn edrych ar born caled. Fi'n credu byddai rhywbeth tebyg yn digwydd pe bai puteindra yn cael ei chyfreithlonni.


anghytuno. yn ein byd macismo ma' boi efo porn yn 'ddipyn o foi', ond ma' dyn sy'n goro talu am secs yn cael ei weld fel sado pathetig.
ma'r farn hon yn anheg, achos dydi pawb ddim yn gallu ffeindio dynas, ond fela mae a fela fydd hi
Mae derbyniad porn yn beth gymharol newydd i fod yn browd ohoni, fi'n cofio dyddie lle'r dirty mack brigade oedd yn defnyddio porn, a'u bod yn gadael y siop gyda'u coler lan a het lawr gyda phecyn papur brown. Serch hynny, fel mae pethau'n sefyll ti'n iawn, a dyna oedd fy mhwynt. Pe bai'r stigma cymdeithasol yn cael ei gymryd o'r syniad o buteindra fydde hwnna ddim o reidrwydd yn parhau.

Fi'n nabod digon o bobl yn barod sy'n cyfaddef eu bod yn ymweld a phutain yn rheolaidd, fi'n ame bydde hwnna'n cynyddu pe bai puteindra yn cael ei gyfreithlonni.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 39 gwestai

cron