Cymedrolwr: Mr Gasyth
Positif80 a ddywedodd:Yn dilyn llofruddiaethau tair ddynes yn Ipswich, fasa cyfreithloni putaniaeth (hynna'r 'di'r term cywir?) yn rhwystrio psychos rhag lladd y rhai sy'n gwneud y gwaith yma?
Geraint a ddywedodd:Sut fasa cyfreithloni nhw'n neud gwahaniaeth?
Fi wedi dweud ers tro fod cyfreithlonni puteiniaid yn syniad da. Fi ddim yn gwybod faint o wahaniaeth y byddai'n gwneud yn yr achos yma, ond mae llawer o buteiniaid yn gallu mynd mewn i drwbwl gyda phobl treisgar a gyda chyffuriau. Bydden i ddim yn credu dylid gwneud hyn fel rhyw fath o knee-jerk reaction i'r llofruddiaethau diweddaraf, ond mae'n rhywbeth y dylid trafod pan fod pobl yn gallu meddwl mewn ffordd call heb fod emosiynau yn cymylu'r drafodaeth.Positif80 a ddywedodd:Yn dilyn llofruddiaethau tair ddynes yn Ipswich, fasa cyfreithloni putaniaeth (hynna'r 'di'r term cywir?) yn rhwystrio psychos rhag lladd y rhai sy'n gwneud y gwaith yma?
Socsan a ddywedodd: Os unrywun yn gwybod os ydio'n wir fod y ddwy ferch gynta heb gael eu treisio neu eu assultio mewn unryw ffordd rywiol? Ella mai fi sydd wedi camddeallt, ond os ydi o'n wir, mae o'n fy nharo i fel rhywbeth mwy sinistr fyth mewn ffordd.
Huw T a ddywedodd:Gan roi'r achos presennol i'r naill ochr am funud, nage'r peth pwysicaf y dylai'r llywodraeth fod yn anelu ato yw gwella amodau byw rhan dlotaf cymdeithas fel na fydd neb yn y sefyllfa lle bydd yn rhaid iddyn nhw droi at buteindra?
I fi, bydde cyfreithloni puteindra yn 'tacit admission' gan y llywodraeth na allan nhw newid amodau byw pobl.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai