Griff-Waunfach a ddywedodd:Mae 187 o bobl yn y sector gyhoeddus yn derbyn cyflogau uwch na'r Prif Weinidog, y Rt Hon Tony Bler!
Sgwnni faint yn y sector breifat sydd? Mae yna o leia 22 ar bob cae pel-droed Uwchgynghrair Lleogr i gychwyn arni!
Cymedrolwr: Mr Gasyth
Griff-Waunfach a ddywedodd:Mae 187 o bobl yn y sector gyhoeddus yn derbyn cyflogau uwch na'r Prif Weinidog, y Rt Hon Tony Bler!
rooney a ddywedodd:Er mor ffond yw'r Cymry Cymraeg o S4C , a ddylai pennaeth S4C gael mwy o gyflog na Phrif Weinidog Cymru, a Phrif Weinidog Prydain?
ok. Ofcom. Sefydliad di-elw. Dim cystadleuaeth. Felly pam ddylai nhw gael cyflogau yn agos i uwch reolwyr cwmniau'r FTSE?
O ran yr angen i ddenu pobl o safon- mae hyn yn joc. Mae llawer o'r pobl sydd yn y swyddi yma wedi gweithio trwy gydol eu hoes yn y sector gyhoeddus. Heb weithio yn y byd go iawn o gwbl. Felly pam talu cyflog y byd go iawn i nhw? Dyw nhw erioed wedi profi eu hunain yn y byd go iawn.
Fel arfer, mae'r dawnus, creadigol, mentrus a'r uchelgeisiol yn heidio am y sector breifat lle gall nhw lwyddo lot mwy. Ychydig iawn o'r rhain wneith drafferth mynd i weithio i'r sector gyhoeddus beth bynnag fo'r cyflog. A'r rheiny fyddai yn cael eu denu i'r sector gyhoeddus- gwestiwn gen i os mai pobl o galibr uchel yw'r rhain. Mwy tebygol fod nhw allan o'u dyfnder yn y byd go iawn ac eisiau swydd haws. Ac roeddwn i'n arfer meddwl fod pobl yn hoffi gweithio yn y sector gyhoeddus gan fod nhw'n credu mewn cynnig gwasanaeth cyhoeddus... ? haha!
Oscar Wilde a ddywedodd:A cynic... a man who knows the price of everything and the value of nothing
rooney a ddywedodd:http://www.taxpayersalliance.com/PublicSectorRichList.pdf
beth am wneud rhestr tebyg i tax abusers Cymru?
Madrwyddygryf a ddywedodd:Yn bersonol, buaswn ni yn hoffi ffeindio allan pwy dyfeisiodd y term 'Tax Payers Money' a'i saethu fo. Y term mwya hyll yn ngwleidyddiaeth Prydeinig.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 35 gwestai