rooney a ddywedodd:Madrwyddygryf a ddywedodd:Yn bersonol, buaswn ni yn hoffi ffeindio allan pwy dyfeisiodd y term 'Tax Payers Money' a'i saethu fo. Y term mwya hyll yn ngwleidyddiaeth Prydeinig.
Ddim yn deall dy broblem hefo'r term yma. Mae fel dy fod yn gwadu lle mae'r arian yn dod. Mae llawer o'r ymatebion yn yr edefyn yma gan dy ffrindiau hefyd yn amddiffynol ac yn gwadu y realiti.
Wel mae'r arian y llwyodraeth yn dod o wahanol ffynnonellau. Er engrhaifft, mae treth incwm dim ond yn cyfrannu tua chwarter i refeniw y llywodraeth. Felly i ddeud bod yn o'n arian ni ddim yn gywir.
Ar mater arall, roedd y Tax Payers Alliance wedi plannu y stori hwn yn y Sunday Times. Ond mae rhaid gofyn i ble byddai y 10 miliwn eisiau mynd i tybed ? Dim i America oherwydd bydd yr arian bydd nhw'n achub o drethi isel yn gorfod talu am yswiriant iechyd. A bydd raid anghofio am mwyafrif o wledydd Ewrop oherwydd mae nhw talu mwy o drethi na ni.