Os ydi hynny'n swnio fel jôc gwael i chdi, mae Tony Benn yn dal i fod o fewn trwch blewyn i ennill (neb arall hyd yn oed yn agos). Mae'n cau dydd Iau...
http://news.bbc.co.uk/1/hi/programmes/p ... 161847.stm
Cymedrolwr: Mr Gasyth
Huw T a ddywedodd:Haha, i fod yn deg, it's hardly a strong field fel mae nhw'n dweud!
Dwi'n dueddol o gytuno a'r hyn ma Rhys Llwyd yn ei ddweud (am unwaith !) Do, fe ddrylliwyd cymunedau lu o ganlyniad i gau'r pyllau glo a diwydiannau eraill. Ond mewn gwirionedd, mewn economi gyfalafol fyd eang, roedd hyn yn anochel yn hwyr neu'n hwyrach. Does na ddim os i statws Prydain gael ei drawsnewid dani o fod yn ddyn sal Ewrop i fod yn un o economai cryfa'r byd. Dwi'n amau mai dim ond Thatcher a allai fod wedi ymladd ac ennill rhyfel y Falklands hefyd, digwyddiad arall a fu'n hwb mawr i statws a hunan hyder y wlad yn y cyfnod.
Wrth gwrs, mae Thatcher yn ffigwr controversial, ac ar ol yr hyn wnaeth hi i wasanaethau cyhoeddus, does gen i ddim llawer o gariad tuag ati. Wedi dweud hynna, dwy ddim yn credu fod hi'n haeddi'r casineb di-feddwl sy'n typical o agweddau presennol (Maes-E) tuag ati.
Rhys Llwyd a ddywedodd:
Sylwadau diddorol Huw. Gyda llaw, wyt ti dal ar y chwith? Dwi wedi symud rywfaint i'r dde ers ein cyfnod fel dau comrad comiwnyddol yn gwrando ar y Manics yn ysgol, ond dwi dal ar y chwith jest ddim mor galed ag o ni!
Griff-Waunfach a ddywedodd:Be, nid wyt ti yn eistedd yn dy ystafell gewly yn darllen y Communist Maniffesto rhagor?! Come the revolution ac ati!
Rhys Llwyd a ddywedodd:
Oedd gena i gyfieithiad cymraeg or maniffesto cred neu beidio!
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 40 gwestai