Annibyniaeth i'r Alban yn arwain at annibyniaeth i Gymru?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Annibyniaeth i'r Alban yn arwain at annibyniaeth i Gymru?

Postiogan Griff-Waunfach » Mer 10 Ion 2007 9:25 am

Mewn erthygl ar we-fan y Westernmail, mae'r Arlwydd Falconer yn dweud byddai Annibyniaeth i'r Alban yn arwin at diddymu;r undeb rhwn Cymru a Lloegr hefyd.

Scottish independence would lead to the separation of Wales and England as well


Gweler yr erthygl yn fan hyn...
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Mer 10 Ion 2007 9:56 am

Wel, dim cachu, Sherlock. Pwy 'sa'n meddwl y byddai cwestiynnu un rhan o'r Deyrnas Unedig yn codi cwestiwn am y gweddill? Next week, Lord Falconer announces that bears do, indeed, shit in the woods.

Wrth gwrs, Cymru fydd yr olaf o goncwestiaethau y Normaniaid i'w chael ei diddymi o wladwriaeth ganolog Llundain - first in, last out, fel petai.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan Griff-Waunfach » Mer 10 Ion 2007 10:10 am

Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:Wel, dim cachu, Sherlock.
:?

Ok Watson, nad wyt ti yn gweld e'n od bod aelod o lywodraethh Lloegr yn dweud y fath beth, be yw ots gan etholwyr yr Alban am ddiddymiad undeb Cymru a Lloegr?
Er i fod yn deg, Lloegr "goncwestiaeth" cyntaf y Normaniaid (1066).
I digress, fel petai. Pam wyt ti mor ymosodol yn dy ymateb i fy neges i de?
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Mer 10 Ion 2007 10:35 am

Dydw i ddim yn dy ymosod di, Griff - pwyntio allan ydw i i'r bonheddig Arglwydd Falconer nad dydi dweud y byddai diddymi undeb 1707 yn codi cwestiynnau am undeb 1536 ddim y cyhoeddiad mwyaf cyhraeddgar yn y byd. Mae o'n ddywediad sy'n gwahodd yr ymateb, "Wel, d'uuh!"

Nid er mwyn iechyd pobol yr Alban mae Falconer yn dweud hyn, ond isio ralio aelodau Llafur yn erbyn unrhyw beth fasa'n diddymu'r Undeb, oherwydd mae Llafur yn gwybod eu bod nhw angen Teyrnas Unedig er mwyn cael unrhyw siawns o gadw gafael ar lywodraethu heb orfod creu clymbleidiau. Dim ond trwy gyfuno seddau yn y tair rhanbarth y maent yn gallu creu mwyafrif seneddol - mae seneddau Caeredin a Chaerdydd wedi profi na allwn warantu mwyafrifoedd yno, ac fe wyr pawb na fedrwn gael mwyafrir yn Lloegr ar ei phen ei hun.

Yr oedd yr hen Whigiaid a'r Toriaid o blaid yr Undeb drwy gymysgedd o imperialiaith a'r farchnad "rydd", ac mi oedd Cymru ac Albanwyr o'i blaid oherwydd y manteision materol a ddaeth yn ei sgil - agweddau a all newid dros yr oesoedd pan mae pobol yn sylwi nad yw'r Undeb, o reidrwydd, yn dod a llwyddiant iddynt. A dyma lle mae gan Lafur broblem - mae llwyddiant hanesyddol y blaid yn gwbwl ddibynnol ar yr Undeb canys mai hi yw'r unig blaid wirioneddol Brydeinig, wedi ei chreu mewn oes lle'r oedd Prydain, yn seicolegol i'r mwyafrif llethol o bobol, yn un wlad ac lle gwelai gweithwyr Prydain eu hundod ar sail dosbarth nid lleoliad hanesyddol. Dyna ydi'r broblem i Lafur efo datganoli - plaid ganolog yw hi, angen gwlad ganolog er mwyn sicrhau ei pharhad.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan Griff-Waunfach » Mer 10 Ion 2007 10:42 am

Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:Dyna ydi'r broblem i Lafur efo datganoli - plaid ganolog yw hi, angen gwlad ganolog er mwyn sicrhau ei pharhad.


Cytunaf yn llwyr!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Geraint » Mer 10 Ion 2007 12:11 pm

Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:Wrth gwrs, Cymru fydd yr olaf o goncwestiaethau y Normaniaid i'w chael ei diddymi o wladwriaeth ganolog Llundain - first in, last out, fel petai.


Hei Watson, Cernyw fyddai'r un olaf allan :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan S.W. » Maw 16 Ion 2007 11:46 am

Ymddengys bod yr Alban esioes yn annibynol (sylwch bod arian yr Alban werth llai nag arian Prydain er ei fod yr un werth....

Linc i'r llun sy ddim yn torri'r dudalen

Sori doeddwjn i ddim yn gwbod sut i neud o'n llai.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan nicdafis » Maw 16 Ion 2007 12:36 pm

[Wedi symud yr isod o fan hyn. Cadwch y drafodaeth mewn un lle, ie?]

Ugain I Un a ddywedodd:Mae'r Canlynol yn dod o dalen flaen wefan
http://www.scottishsocialistparty.org/

Pechod does gan y Cymry yr un hyder ac sydd gan yr Albanwyr


Time to haul down the butchers apron

We must haul down the Union Jack and break with the blood stained British state.
An independent, democratic Scottish republic can be a beacon of hope for the millions across the globe searching another path delivering social justice, environmental sustainability and an end to war.
Political independence is a vital first step to shaping a new economic and social road for Scotland which harnesses our vast natural resources and human skills for people not profit. Such a path will energise the Scots and would bring new hope to people all across the planet
The 1707 Union is major roadblock in the path of such an approach which empowers big business and it faithful suited servants in Holyrood and Westminster.
It’s long beyond time the union was ended. 300 years are long enough



('Butchers apron' yw enw ar yr iwnion jac gyda llaw)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan SbecsPeledrX » Maw 16 Ion 2007 12:50 pm

Achos ma wedi ei staenio efo gwaed ... gyda llaw
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Maw 16 Ion 2007 1:31 pm

Dwi ddim isio pisio ar barêd neb, ond rhaid cofio dipyn o betha.

Syniad Iago’r VI o’r Alban oedd uno’r ddwy goron – pan ddaeth o’n frenin Lloegr yn 1603, mi oedd o’n blino pawb efo’i syniadau, o alw’r ynys yn “Great Britain”, o gael fflag yn cyfuno croesau Andreas a Sior. Y gwrthwynebiad mwya i hyn oedd o Loegr, yn flin ei fod o’n dod a’i entourage o ffefrynnau i lawr o’r Alban i redeg y llys (nid peth un ffordd ydi rhannau o Brydain yn cwyno fod pobol ddwad yn cael gormod o rym). Mi wnaeth Lloegr ddim ond symud at y syniad pan ddaeth hi’n ecspediant yn wleidyddol i wneud hynny (ac roedd yr Alban wedi gwneud y fersiwn gwladol o roi’r rhent i gyd ar y Loteri efo’r fenter yn Darien.)

Nid gweision sifil Seisnig a gyfunodd i greu cyflafan Glencoe drwy dwyll.

Ac nid Saeson yn unig adeiladodd yr ymerodraeth Brydeinig – mae lle i ddadlau fod entreprenwriaeth ac anturiaeth gwyddoniaethol Caer Edin yn gymaint tu ol i lwyddiant Prydain yn a ddwy ganrif wedi’r uno.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 30 gwestai

cron