gan sanddef » Llun 12 Maw 2007 5:17 pm
Mi fyddai annibyniaeth yn yr Alban yn codi proffeil cwestiwn annibyniaeth yng Nghymru, ond dw'i ddim yn derbyn y byddai'n arwain yn uniongyrchol at Gymru annibynnol. Fel y mae pethau'n sefyll ar hyn o bryd, wrth ddod yn annibynnol fe fyddai'r Alban yn gorfod ymadael â'r UE ac wedyn mynd trwy'r broses o ailymuno, a pwy a wyr pa effaith fyddai hynny'n cael ar ei heconomi yn y cyfamser? Gallai fod yn ddigon negyddol i argyhoeddi'r Cymry i beidio cefnogi annibyniaeth.
Meh