Mae cyfraddau llog wedi bod ar lefel na welwyd eu tebyg ers 40 o flynyddoedd. Mae hyn wrth gwrs yn golygu nad hyn yw'r norm. Mae'r Blaid Lafur yn hoffi son am hyn fel rhywbeth mae nhw wedi bod yn gyfrifol amdano ond y gwir yw, fod yr un peth yn bodoli mewn nifer o lefydd ar draws y byd....o Siapan i Ewrop. Mae China wedi bod yn rhannol gyfrifol wrth llifo'r farchnad gyda pethau rhad. Wrth gwrs, gan fod chwyddiant wedi bod yn isel, mae'r cyfraddau llog hefyd. Mae nhw'n defnyddio cyfraddau llog i ymladd chwyddiant ond yw nhw....Gan fod cyfraddau llog mor isel, a digon o arian
chep yn hedfan o biti'r lle, mae lot fawr o bobl wedi benthyg a benthyg. Benthyg gormod i brynnu ty. Llawer o'r rhai sydd gyda tai wedi ail forgeisio er mwyn byw'r bywyd bras gan feddwl taw dim on lan yr eith prisie tai ac yn isel y bydd cyfradde llog yn aros. Ond os yw pethau yn mynd i fod fel mae nhw wedi bod yn hanesyddol, mi fydd prisiau tai yn cwympo ar ol cymaint o godiad (boom). Yr cyfartaledd yw 3% bob blwyddyn.....ond faint mae prisiau tai wedi codi yn y blynydde diwetha....dwbli mewn tua pedai blynedd?
Mi wnaeth Gordon Brown chwarae o biti gyda'r ffigyrau. Yn old bob tebyg mae e wedi tynnu prisiau tai oddi wrth y mesur chwyddiant sef yr RPI dwi'n meddwl. Felly, mae chwyddiant lot yn uchelach 'na beth mae'r gwalch yn dweud wrthym. Bydd rhaid i gyfraddau llog godi. Bydd hyn yn gwneud prisiau tai yn fwy tebygol i gwympo. Gan fod pobl yn awr yn teimlo yn gyfoethog o achos fod eu tai gwerth cymaint.....bydd gweld y cwymp yn y prisiau yn gwneud pobl i ail feddwl cyn splasho mas ar gar newydd a gwylie tramor. Ni fydd posibl benthyg yn erbyn gwerth y ty gan fod y perchennog mewn 'negative equity' a bod cyfradde llog yn dal i godi a'r taliadau misol yn mynd yn uwch.......
Gan fod y pethau uchod sef dyled, cyfraddau llog a prisiau tai (dy ni ddim yn creu fawr o ddim erbyn hyn) yn sylfaen i'r economi a'i bod yn dechrau dangos straen trwy fethdaliadau, mi rydym ni mewn am amser caletach yn y dyfodol heb fod ymhell. Wrth gwrs, problem rhyw ganghellor arall fydd hynny.
ON
Mi wnes i anghofo dweud hefyd fod y cyflogau'r Chineaid yn codi hefyd. Ac wrth mi ddylai fod.....