Mae 'na ddigon o sôn am swydd y Dirprwy Brif Weinidog unwaith y bydd Blair wedi mynd, ond dwi heb weld lot am job y Canghellor er bod honno i weld yn dipyn pwysicach. Pwy 'dach chi'n meddwl geith hi? Miliband?
Cwestiwn da. Ma'n dibynnu i radde os neith rywyn sefyll yn erbyn Brown. Petai Reid yn sefyll a chiolli, yna efallai galli disgwyl y Ganghelloriaeth. neu gall Alan Johnson ei chael am beidio sefyll.
Byddai Ed balls rhy amlwg, met gorau Gordon. Bydd Gordon angen tynnu Blairites i mewn er mwyn eu cadw'n hapus. Blairite fydd y Canghellor.
Alistair Darling dwi'n credu yw'r son. Roedd ar ysgwydd Brown draw yn India ddoe. Dydi Balls ddim yn cabinet eto, felly fyddai'n anarferfol iawn iddo chael ei ddyrchafu mor gyflym. Sgotyn arall, wrth gwrs!