Pabyddion i gau'u hasiantaethau mabwysiadu!

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 29 Ion 2007 12:00 am

Dydw i ddim yn homoffobic.

* Dyma ydy homoffobia sy'n cael ei bledio gan your run of the mill non-relegious Brit rhagfarnllyd:
"Dwi'n casau pobol gay ma nhw'n sick"
"Ma ishe nhw dynu eu hunen at ei gilydd"
"Salwch yw e siwr iawn"
"Ishe nhw gal hunanreolaeth sy"

* Dyma ydy safbwynt ôl-farn y Cristion yn seiliedig ar y Beibl:
Ydy mar beibl yn glir fod rhyw hoyw yn erbyn dymuniad Duw OND "rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n edrych mewn blys ar wraig, eisoes wedi cyflawni godineb â hi yn y galon"(Math 5:28). Ac felly nid wyf i yn waeth na gwell na fy ffrindiau sy'n ymarfer rhyw hoyw. Dwi ar run lefel a nhw, mae PAWB yn gyfartal gerbron Duw - yn farw yno fi fy hun ond yn fyw yng Nhrist.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 29 Ion 2007 12:02 am

Dylan a ddywedodd:[Ok mi wna i sefydlu crefydd newydd fory...

Ac mae gen i gymaint yn union o hawl â'r Cathlics


Ond ti di saethu dy hun yn dy droed gan gyfaddau bo ti jest di neud y grefydd fyny. Rhaid ti gofio fod Cristnogion yn credu fod Duw yn ddwyfol, dio ddim yn man made - thats the whole point.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Barbarella » Llun 29 Ion 2007 12:32 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:* Dyma ydy safbwynt ôl-farn y Cristion yn seiliedig ar y Beibl:

Ond rwyt ti (a HRF) yn camddeall ystyr y gair rhagfarn. Mae'n fwy na jysd "cyn meddwl". Dyw'r ffaith bod ti di meddwl am y peth ddim yn golygu nad yw'n rhagfarnllyd.

Dyma ma 'ngeiriadur i'n dweud ydi "prejudice":

Oxford English Dictionary a ddywedodd:1 preconceived opinion that is not based on reason or experience. 2 unjust behaviour formed on such a basis.

(Fy mhwyslais i). Hynny yw, mae gan Gristnogion safbwynt "preconceived" (o'r Beibl) a does na ddim dadl rhesymegol i gefnogi'r safbwynt. Felly mae'n rhagfarnllyd.

Ond dwi ddim yn meddwl bod ti'n homoffobig ;-)

Rhys Llwyd a ddywedodd:Ond ti di saethu dy hun yn dy droed gan gyfaddau bo ti jest di neud y grefydd fyny. Rhaid ti gofio fod Cristnogion yn credu fod Duw yn ddwyfol, dio ddim yn man made - thats the whole point.

Dim ots be mae Cristnogion yn credu, Duw yn ddwyfol neu beth bynnag. Pam na ddyliwn i gael bwyta babis os dwi'n credu bod hynny'n gywir? Falle bod fy nghrefydd i ddim yn ddwyfol, dwi jysd yn hollol ffyddiog bod bwyta babis yn gywir ac yn gyfiawn.

Be os dwi'n credu bod y byd wedi'i greu gan <a href="http://www.venganza.org/">Anghenfil Spaghetti Hedfanog</a>? (Mae'n "eglwys" go iawn, ffurfiwyd fel ymateb i benderfyniad ysgolion Kansas i ddysgu "creationism" i blant, i bwysleisio -- yn llwyddiannus -- pa mor wirion oedd rhoi triniaeth arbennig i grefydd. Dwi'n arbennig o hoff o'r "dystiolaeth" bod twymo byd-eang yn digwydd oherwydd y cwymp mewn nifer o môr-ladron :-D )
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 29 Ion 2007 9:42 am

Barbarella a ddywedodd:....mae gan Gristnogion safbwynt "preconceived" (o'r Beibl) a does na ddim dadl rhesymegol i gefnogi'r safbwynt. Felly mae'n rhagfarnllyd.

Ond dwi ddim yn meddwl bod ti'n homoffobig ;-)


Yr unig beth alla i ddweud am hyn (heb fynd y drafod athroniaeth rheswm) yw datgan o waelod fy nghalon, er fod yna ddysgeidiaeth gan Gristnogaeth ar rhyw hoyw dydy hynny ddim yn neud neb yn well nac yn waeth gerbron Duw. A'r hyn sydd wedi fy nghyru i mewn i'r ddadl yma yw nid y busnes hoyw per se ond yn hytrach yr issue o berthynas eglwys a gwladwriaeth.

Mae yna reswm tu ol fy safbwynt - jest ddim dy reswm di - pobl sy'n "erbyn gays" heb unrhyw fath o ddadl sy'n homoffobig. Dwi ddim yn "erbyn gays" mwy nag ydwi yn erbyn fy natur hetrorywiol flys fi fy hun :(
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Barbarella » Llun 29 Ion 2007 10:02 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:pobl sy'n "erbyn gays" heb unrhyw fath o ddadl sy'n homoffobig. Dwi ddim yn "erbyn gays" mwy nag ydwi yn erbyn fy natur hetrorywiol flys fi fy hun :(

Na, dwi'n gwybod bod ti ddim, jysd sôn am agweddau cyffredinol o'n i, nid ti yn benodol!

Rhys Llwyd a ddywedodd:A'r hyn sydd wedi fy nghyru i mewn i'r ddadl yma yw nid y busnes hoyw per se ond yn hytrach yr issue o berthynas eglwys a gwladwriaeth.

Ti'n iawn, dyna'r pwynt pwysig. Felly i fynd nôl at hwnna, ond ar drywydd chydig yn wahanol, gweld <a href="http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk/6308683.stm">yn y newyddion heddiw</a> bod 37% o Fwslemiaid Prydeinig ifainc yn dymuno byw dan gyfraith Sharia yn hytrach na chyfraith Prydeinig (gyda, er enghraifft, <a href="http://en.wikipedia.org/wiki/Sharia_law#The_penalty_for_theft">cosb o dorri dwylo lladron i ffwrdd</a>).

A ddylai nhw gael gwneud? Os di Catholigion yn cael eithrio eu hunain o'r gyfraith oherwydd cydwybod/credoau, oni ddylai Mwslemiaid cael gwneud hefyd...?
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Rhods » Llun 29 Ion 2007 2:02 pm

Fel un sydd yn gatholig gallaf ddeall o le ma'r Eglwys yn dod - er fy marn personnol i yw cyn belled a bod y plant/plentyn yn cael ei mabwysiadu gan rhieni (boed yn gyplau hetro-rhywiol neu hoyw) sydd yn cynnig cartre a magwraeth da - dwi ddim yn gwbod be yw'r broblem. Dwi yn nabod rhai cyplau hoyw sydd a phlant sydd yn rhieni gwych.

Dwi yn derbyn fod hyn yn fater sensetif a bod yna ddadleon teilwng ar y 2 ochr - ond dwi yn ffeindio'r sefylllfa yn anghyffyrddus le ma hawliau pobl hoyw yn cael ei gwadu jyst oherwydd eu rhyw - o n i yn meddwl bo ni yn byw yn yr unfed ganrif ar hugain :?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan dave drych » Llun 29 Ion 2007 3:03 pm

Gan bod plant yn gallu bod yn greaduriaid câs, yn enwedig mewn grpiau mawr, dwi'n eitha sicr geith plant efo rhieni hoyw eu bwlio. Rhaid ini gofio bod teimladau a hawl y plentyn rhag gael ei bwlio yn bwysig.

Dydi plant ddim yn mynd i feddwl "Hmm, chware teg mae mam a mam/dad a dad Sion/Sian yn rieni eitha da. Well imi fod yn deg a peidio'i bwlio", mae nhw'n myndi ddeud pethau cas a fydd hyn yn cael effaith ar y plentyn.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Positif80 » Llun 29 Ion 2007 3:42 pm

Roeddwn i'n mynd i ddweud rhywbeth deallusol ayyb, ond mae eraill wedi dweud beth 'roeddwn i isio'i dweud. Shit. :crechwen:
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Mr Gasyth » Llun 29 Ion 2007 3:52 pm

dave drych a ddywedodd:Gan bod plant yn gallu bod yn greaduriaid câs, yn enwedig mewn grpiau mawr, dwi'n eitha sicr geith plant efo rhieni hoyw eu bwlio. Rhaid ini gofio bod teimladau a hawl y plentyn rhag gael ei bwlio yn bwysig.

Dydi plant ddim yn mynd i feddwl "Hmm, chware teg mae mam a mam/dad a dad Sion/Sian yn rieni eitha da. Well imi fod yn deg a peidio'i bwlio", mae nhw'n myndi ddeud pethau cas a fydd hyn yn cael effaith ar y plentyn.


Mae plant yn cael eu bwlio am bob math o resymau. Wyt ti am wahardd rhieni tew/tenau/tal/byr/Cymraeg/Saesneg/ffermwyr/di-waith/gwyn/du/brown/capelwyr/eglwyswyr/efengyls rhag mabwysiadu hefyd, rhag ofn iddyn nhw gael eu bwlio?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan dave drych » Llun 29 Ion 2007 4:09 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
dave drych a ddywedodd:Gan bod plant yn gallu bod yn greaduriaid câs, yn enwedig mewn grpiau mawr, dwi'n eitha sicr geith plant efo rhieni hoyw eu bwlio. Rhaid ini gofio bod teimladau a hawl y plentyn rhag gael ei bwlio yn bwysig.

Dydi plant ddim yn mynd i feddwl "Hmm, chware teg mae mam a mam/dad a dad Sion/Sian yn rieni eitha da. Well imi fod yn deg a peidio'i bwlio", mae nhw'n myndi ddeud pethau cas a fydd hyn yn cael effaith ar y plentyn.


Mae plant yn cael eu bwlio am bob math o resymau. Wyt ti am wahardd rhieni tew/tenau/tal/byr/Cymraeg/Saesneg/ffermwyr/di-waith/gwyn/du/ brown/capelwyr/eglwyswyr/efengyls rhag mabwysiadu hefyd, rhag ofn iddyn nhw gael eu bwlio?


Wel, na. Ond mae cael rhieni hoyw yn tipyn fwy o 'stigma' yn ein cymdeithas nac ydi cael rhieni sy'n ffermwyr yn dydi. Betio di bydd pawb mewn ysgol uwchradd yn ymwybodol bod rhieni Sion/Sian yn hoyw, ond ychydig iawn bydd yn poeni am y ffaith fod rhieni Gwilym yn ffarmwrs. Mae'r plentyn efo rhieni hoyw yn mynd i gael mor gymaint o hassle a jip am oleia 15 mlynedd.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron