Cymedrolwr: Mr Gasyth
Horwth ap Ffrwchnedd a ddywedodd:Gwrthwynebu'r breintiau arbennig sydd gan grefyddwyr ydw i. O gadw o fewn terfynau'r gyfraith, dylen nhw fod â'r un hawliau fel unigolion â phawb arall, ond dim mwy.
Barbarella a ddywedodd:Ond rwyt ti (a HRF) yn camddeall ystyr y gair rhagfarn. Mae'n fwy na jysd "cyn meddwl". Dyw'r ffaith bod ti di meddwl am y peth ddim yn golygu nad yw'n rhagfarnllyd.
Dyma ma 'ngeiriadur i'n dweud ydi "prejudice":Oxford English Dictionary a ddywedodd:1 preconceived opinion that is not based on reason or experience. 2 unjust behaviour formed on such a basis.
(Fy mhwyslais i). Hynny yw, mae gan Gristnogion safbwynt "preconceived" (o'r Beibl) a does na ddim dadl rhesymegol i gefnogi'r safbwynt. Felly mae'n rhagfarnllyd.
Macsen a ddywedodd: Mae dy ddadl di fel dweud 'mi fyddai'n iawn i rai llefydd wahaniaethu yn erbyn pobol dduon, mae yna ddigon o lefydd eraill allen nhw fynd wedi'r cwbwl, rhydd i bobol hiliol arddodi ei barn ar eraill'. Os ydi o'n anghywir, mae'n anghywir ymhobman.
Hen Rech Flin a ddywedodd:Horwth ap Ffrwchnedd a ddywedodd:Gwrthwynebu'r breintiau arbennig sydd gan grefyddwyr ydw i. O gadw o fewn terfynau'r gyfraith, dylen nhw fod â'r un hawliau fel unigolion â phawb arall, ond dim mwy.
Cytuno 100%, nid ydwyf yn disgwyl nac yn ymofyn braint uwchlaw dy fraint di.
Gwrywgydwyr sydd yn ymofyn braint.
Oherwydd y ffordd y maent yn dewis ymarfer eu rhyddid rhywiol maent yn credu eu bod uwchlaw beirniadaeth ac anghytundeb, a bod rhaid deddfu i dewi bob barn sydd yn anghytuno a'u dewis hwythau.
Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae'r Beibl yn dweud mai peth drwg byddid i rywun dwyn fy ych, rwy'n cytuno'n llwyr a be mae'r Beibl yn dweud - barn wedi ei selio ar afresymoldeb yn ol dy weledigaeth di. Nid ydwyf, diolch byth, wedi cael y profiad o neb yn dwyn ych gennyf, a ydwyf felly, yn rhagfarnllyd yn erbyn lladron ych, o'u galw yn bobl ddrwg?
Hen Rech Flin a ddywedodd:Macsen a ddywedodd:
Mae dy ddadl di fel dweud 'mi fyddai'n iawn i rai llefydd wahaniaethu yn erbyn pobol dduon, mae yna ddigon o lefydd eraill allen nhw fynd wedi'r cwbwl, rhydd i bobol hiliol arddodi ei barn ar eraill'. Os ydi o'n anghywir, mae'n anghywir ymhobman.
Dim o gwbl, pa ddewis sydd i unigolyn sy'n cael ei eni'n ddu rhag bod yn ddu? Dim. Dyna pam bod amddiffyn pobl rhag annhegwch o herwydd lliw eu croen yn gyfiawn.
Mater o ddewis ydi ymddygiad rhywiol.
Mae'r Beibl yn dweud mai peth drwg byddid i rywun dwyn fy ych, rwy'n cytuno'n llwyr a be mae'r Beibl yn dweud - barn wedi ei selio ar afresymoldeb yn ol dy weledigaeth di. Nid ydwyf, diolch byth, wedi cael y profiad o neb yn dwyn ych gennyf, a ydwyf felly, yn rhagfarnllyd yn erbyn lladron ych, o'u galw yn bobl ddrwg?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai