Hen Rech Flin a ddywedodd:Difyr yw'r defnydd a wneir o'r gair Rhagfarn.
Rhag Farn yw gwneud penderfyniad am bwnc heb ystyried holl ddadleuon yr achos. Mae'r un yn wir am y gair Lladin-Saesneg Prejudice pre(cynt) judice (barn).
Drwg y rhan fwyaf o bobl sy'n cyhuddo eraill o ragfarn yw eu bod nhw yn rhagfarnllyd eu hunain yn eu rhagfarnu o eraill - gweler y ddau gyfraniad uchod er enghraifft - ymosodiadau ciaidd ar yr Eglwys Gatholig Rufeinig heb geisio deall, a heb eisio deall, pam bod yr Eglwys wedi dod i'w penderfyniad.
ok ta, "casineb". Neu'r gair Saesneg gwych 'na, "bigotry". Bigotry bigotry bigotry.
Rhagfarn gwrth Gatholig pur yw'r uchod. Be fyddai'r ymateb ar y Maes pe bai'r un rhagfarn wedi dod gan Unoliaethwr o Ulster, yn hytrach na Chymry Cymraeg tybed?
Union yr un peth. Sut fath o gwestiwn 'di hwn?
Nid ydwyf yn aelod o'r Eglwys Gatholig Rufeinig, nid ydwyf yn cytuno a'u casgliadau - ond yr wyf yn amddiffyn, hyd yr eithaf, eu rhyddid a'u hawl dynol i ddod i'r casgliadau y maent wedi dod iddynt ar ôl dwys ystyriaeth. Oherwydd os ydynt wedi dod i'r casgliad yna (waeth pa mor wrthun ydyw i fi) nid rhagfarn mohoni, ond barn. Ac mae eu rhyddid i fynegi barn yr wyf yn anghytuno ag ef cyn bwysiced â fy hawl i fynegi barn ystyrlon, ond nid rhagfarnllyd, yn eu herbyn hwythau.
Mae yna rai, nid ydwyf yn eu mysg, am greu deddf sydd am erlyn pobl am ragfarn grefyddol. Pe byddai'r fath deddf eisoes mewn grym be fyddai'r oblygiadau cyfreithiol i awduron y negeseuon uchod, tybed?
Yr union bwynt ydi na ddylid eu trin mewn ffordd wahanol. Mae dy ddadl wyneb i waered yn llwyr. Mae'r eglwys isio'u heithrio o ddeddf sydd wedi'i basio. Wel tyff. Pam ddylai'u credoau twp ac afiach nhw gael eu rhoi ar bedestal uwchlaw credoau twp ac afiach eraill jyst am eu bod yn grefyddol?
Casineb ydi casineb ydi casineb.